Yr wyddor Gymraeg
Ffurf ar yr wyddor Ladin a ddefnyddir i ysgrifennu'r iaith Gymraeg yw'r wyddor Gymraeg. Mae ganddi 28 o lythrennau, fel a ganlyn:
Priflythrennau | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
A | B | C | Ch | D | Dd | E | F | Ff | G | Ng | H | I | L | Ll | M | N | O | P | Ph | R | Rh | S | T | Th | U | W | Y |
Llythrennau bychain | |||||||||||||||||||||||||||
a | b | c | ch | d | dd | e | f | ff | g | ng | h | i | l | ll | m | n | o | p | ph | r | rh | s | t | th | u | w | y |
Erbyn heddiw cydnabyddir j hefyd yn llythyren yr wyddor gan lawer o ramadegwyr. Fe'i defnyddir mewn geiriau benthyg.
Defnyddir k a z mewn geiriau megis Kantaidd a Zwinglïaidd sy'n seiliedig ar enw person[1], ond ni chânt eu cyfri fel rhan o'r wyddor Gymraeg fel arfer.
Mae a, e, i, o, u, w, y yn llafariaid. Gall i ac w fod yn gytseiniaid hefyd megis yn iâ neu galwad.
Ynganiad
golyguLlythyren | Enw'r llythyren | Seiniau cyfatebol (IPA) |
---|---|---|
a | a | /a, ɑː/ |
b | bi | /b/ |
c | èc | /k/ |
ch | èch | /x/ |
d | di | /d/ |
dd | èdd | /ð/ |
e | e | /ɛ, ɛː/ |
f | èf | /v/ |
ff | èff | /f/ |
g | èg | /g/ |
ng | èng | /ŋ/ |
h | âets, hâ | /h/ |
i | i | /ɪ, iː, j/ |
l | èl | /l/ |
ll | ell | /ɬ/ |
m | èm | /m/ |
n | en | /n/ |
o | o | /ɔ, oː/ |
p | pi | /p/ |
ph | ffi | /f/ |
r | èr | /r/ |
rh | rhi, rho | /r̥/ |
s | ès | /s/ |
t | ti | /t/ |
th | èth | /θ/ |
u | u | /ɨ̞, ɨː/ (Gogledd), /ɪ, iː/ (De) |
w | w | /ʊ, uː, w/ |
y | y | /ə, ɨ̞, ɨː/ (Gogledd), /ə, ɪ, iː/ (De) |
Mae llawer erbyn hyn yn galw'r cytseiniaid yn "bỳ," "cỳ," "ch," ac yn y blaen yn hytrach na defnyddio'r enwau traddodiadol.
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golyguAm ragarweiniad i hanes yr wyddor Gymraeg yn y cyfnod modern, o oes y Dadeni ymlaen, ynghyd â'r rheolau sillafu safonol a dderbynir heddiw, gweler,
- John Morris-Jones et al., Orgraff yr Iaith Gymraeg (Adroddiad Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru) (Caerdydd, 1928)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ k. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Hydref 2024.