Ystad Wynnstay
Ystad enwog yng Ngogledd Cymru oedd Ystad Wynnstay, sedd Wyniaid Wynnstay (teulu Williams Wyn). Canolfan yr ystad oedd y plasdy o'r un enw yn Rhiwabon, ger Wrecsam.
Math | ystad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhiwabon |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9763°N 3.031°W |
Perchnogaeth | Syr John Wynn, 5ed Barwnig, Teulu Wynniaid, Rhiwabon, Teulu Wynniaid, Rhiwabon |
Yn ystod yr 17g, etifeddodd Syr John Wynn, 5ed Barwnig Ystad Wynnstay trwy ei briodas â Jane Evans, merch Eyton Evans o Watstay, ac ailenwodd yr ystad yn Wynnstay. Gosodwyd y gerddi yno gan Capability Brown.
yn y 18g, cyflogwyd John Parry (Y Telynor Dall) (1710?-1782) yn delynor Wynnstay. Roedd tafarn y Wynnstay yn Rhuthun yn rhan o'u hystâd.
Mae enwogion megis Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig wedi aros yn y plasdy. Yn ystod y 19g, arosodd y Dywysoges Victoria ifanc yno gyda'i mam.
Wedi i'r tŷ gael ei wâcau gan y teulu Williams-Wynn tua chanol yr 20g, cymerwyd o drosodd gan Goleg Lindisfarne. Pan gaewyd yr ysgol honno, tröwyd yr adeilad yn fflatiau a sawl tŷ preifat.
Ystadau eraill Wynnstay
golyguRoedd etifeddiaeth ystad Wynnstay yn ymestyn ymhellach na'r tŷ mawr a'i ystad. Prynwyd Mathafarn, ym Mallwyd, gan fam Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig ar ei ran, a daeth yn rhan o ystadau Wynnstay. Daeth Y Rug, Corwen yn rhan o'r ystadau hefyd.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) [1] Adysgrif gwybodaeth o Picturesque Views of Seats of The Noblemen and Gentlemen of Great Britain and Ireland, golygwyd gan F. O. Morris (cyhoeddwyd tua 1880)