Y Canon Geraint Vaughan-Jones
Clerigwr, ieithydd a cherddor o Gymru oedd y Canon Geraint Vaughan-Jones (ganwyd Geraint James Jones; 3 Hydref 1929 – 23 Rhagfyr 2002), sy’n adnabyddus am ei waith i ddiogelu’r traddodiad canu plygain. Fe’i ganed yn Llanerfyl, yn fab i’r llenor Erfyl Fychan a Gwendolen Jones, a’i addysgu yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed, er iddo adael y coleg cyn cwblhau ei radd.
Y Canon Geraint Vaughan-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 3 Hydref 1929 Llanerfyl |
Bu farw | 23 Rhagfyr 2002 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ieithydd, cerddor, offeiriad, canon |
Swydd | canon |
- Sylwer bod mwy nag un Geraint Vaughan Jones
Roedd yn bianydd ac yn delynor dawnus a chafodd wersi telyn gan Delynores Maldwyn, Nansi Richards. Roedd hefyd yn ieithydd a allai siarad naw iaith, a bu’n byw ar gyfandir Ewrop am ddeuddeg mlynedd, gan dreulio cyfnodau fel cyfieithydd a darlithydd yn yr Almaen, yr Eidal a Sbaen. Ar ôl dychwelyd i Gymru yn dilyn marwolaeth ei fam, cafodd ei ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru ym 1970. Bu’n rheithor Mallwyd gyda Chemaes a Llanymawddwy am ugain mlynedd, gan dreulio cyfran sylweddol o’i yrfa yn Nyffryn Dyfi, un o gadarnleoedd traddodiad y blygain. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyhoeddodd dri chasgliad o garolau plygain gyda gwasg y Lolfa:
- Cyff Mawddwy (1982)
- Hen Garolau Plygain (1987)
- Mwy o Garolau Plygain (1990)
Fe'i hurddwyd yn ganon Cadeirlan Bangor ym 1986, ac ymddeolodd yn 1996. Ni bu’n briod. Bu farw ar 23 Rhagfyr 2002, a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Canon Geraint Vaughan-Jones. y Telegraph (5 Chwefror 2003).
- ↑ Geraint Vaughan-Jones. Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (24 Mehefin 2020).