Y Cerddor Cymreig
Cylchgrawn cerddorol misol, Cymraeg ei iaith, oedd Y Cerddor Cymreig. Roedd yn cyhoeddi erthyglau ar hanes cerddoriaeth a hanfodion harmonïau, ynghyd ac adroddiadau ar ddigwyddiadau a gwyliau cerddorol. Golygwyd y cylchgrawn gan ei sylfaenydd, y cerddor John Roberts (Ieuan Gwyllt) (1822-1877), ac fe gyhoeddwyd atodiad cerddorol gyda phob rhifyn.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Golygydd | John Roberts |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1861 |
Lleoliad cyhoeddi | Merthyr Tudful |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyhoeddwyd yn fisol o 1861 a ceir y copi cyhoeddiedig olaf o 1973. Argraffwyd ym Merthyr Tudful gan yr argraffwyr J. Roberts.
Ceid erthyglau ar hanes cerddoriaeth, harmonio, bywgraffiadau cyfansoddwyr mawr Ewrop fel Mozart a chaneuon wedi eu thrawsgrifio â nodiant i'r darllenydd eu canu. Yn ogystal roddodd sylw i gyfansoddwyr a cherddorion Cymraeg fel John Williams (Ioan Rhagfyr), cerddor o Ddolgellau.
Anelai Ieuan at adlewyrchu safonau’r Musical Times, a chynhwyswyd atodiad cerddorol gyda phob rhifyn, a roddai gyfle i gyfansoddwyr Cymreig gyhoeddi gweithiau corawl syml. Bu’r rhain yn fwyd maeth i’r traddodiad corawl a oedd yn datblygu yn y cyfnod hwn. Roedd Y Cerddor Cymreig hefyd yn cynnwys newyddion am ddatblygiadau a gweithgarwch cerddorol yng Nghymru a’r tu hwnt, a gwersi mewn cynghanedd a brofodd yn werthfawr i egin gyfansoddwyr amatur. Tua’r un adeg perswadiwyd Ieuan gan Eleazar Roberts o werth cyfundrefn y Tonic Sol-ffa, a bu’n ei hybu trwy gyfrwng Y Cerddor Cymreig a’r cylchgrawn Cerddor y Tonic Sol-ffa a olygodd o 1869 hyd 1874.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Y Cerddor Cymreig". Gwefan Cylchgronau Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.
- ↑ Griffiths, Rhidian. "Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822-77)". Y Porth gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o'r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.