Y Donbas
Rhanbarth hanesyddol ac economaidd yn nwyrain Wcráin yw'r Donbas (Wcreineg: Донба́с, Rwseg: Донба́сс) sydd yn cyfateb yn fwy neu lai i oblastau Donetsk a Luhansk. Cywasgair o Donetskyy Baseyn (Basn Donetsk) ydy'r enw. Nodweddir yr ardal hon gan gronfeydd sylweddol o lo, gwaddodion metel a diwydiant trwm, ac yn ôl rhai diffiniadau mae'r enw yn gyfystyr â maes glo'r Donbas, ardal o ryw 23,300 km2 (9,000 milltir sgwâr) i dde Afon Donets, ac felly yn cynnwys rhan o Oblast Rostov ar ochr draw'r ffin yn ne-orllewin Ffederasiwn Rwsia. Mae ardal ehangach Basn Donets yn estyn i'r gorllewin hyd at Afon Dnieper ac yn cynnwys gwaddodion glo nas defnyddir.[1] Dinasoedd mwyaf y rhanbarth yw Donetsk, Luhansk, Makiivka, Horlivka, Kramatorsk, Mariupol, Alchevsk, Lysychansk, a Sievierodonetsk.
Map o ranbarth y Donbas (melyn) o fewn ffiniau presennol Wcráin (gwyn). | |
Arwyddair | Донбасс порожняк не гонит |
---|---|
Math | industrial region, Ukrainian historical regions, tiriogaeth ddadleuol, rhanbarth, ardal hanesyddol |
Enwyd ar ôl | Afon Severski Donets, Donets coal basin |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Donets Ridge |
Sir | Wcráin, Rwsia |
Gwlad | Wcráin |
Cyfesurynnau | 48°N 37.8°E |
Daeth y Sgythiaid i diroedd y Donbas erbyn y 7g CC, a thros y ddwy fil o flynyddoedd nesaf mudodd nifer o wahanol bobloedd nomadaidd drwy'r ardal wrth grwydro'r stepdiroedd gorllewinol. Erbyn yr 16g, gwladychwyd yr ardal gan gymunedau sefydlog, a rhennid rheolaeth drosti rhwng Cosaciaid Zaporizhzhia yn y gogledd a Chaniaeth y Crimea yn y de. Cystadlodd Teyrnas Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Mysgofi dros dra-arglwyddiaeth Wcráin, ac huriodd y ddwy bŵer honno Gosaciaid i wrthsefyll Tatariaid y Crimea. Bu dan reolaeth y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, yr Hetmanaeth, a Tsaraeth Rwsia ar wahanol adegau, ac erbyn canol y 18g yr oedd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Yn ystod Rhyfel y Crimea (1853–56) collodd Rwsia ei chyflenwad glo o Brydain, ac felly sbardunwyd datblygu diwydiannol yn y Donbas. Bu sawl cais aflwyddiannus i sefydlu diwydianniau meteleg cyn i'r peiriannydd o Gymro John Hughes gychwyn ei weithfa haearn yno ym 1872 a sefydlu dinas Hughesovka (bellach Donetsk). Daeth y rheilffyrdd i'r ardal yn y 1870au, ac yn sgil cyflawni'r lein i gloddfeydd mwyn haearn Kryvyy Rih ym 1886 ffynnai'r economi yn syfrdanol. Erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, y Donbas oedd y prif ranbarth haearn a dur yn Ymerodraeth Rwsia.
Yn sgil cwymp yr ymerodraeth a'r Chwyldro Bolsieficaidd, daeth y Donbas yn rhan o Weriniaeth Pobl Wcráin ac yna Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin. Parhaodd yn rhanbarth diwydiannol pwysig yn y cyfnod Sofietaidd, a chyflymodd diwydiannu ymhellach dan Gynlluniau Pum-Mlynedd Joseff Stalin. Fodd bynnag, cyflawnwyd hynny ar draul amaeth a'r gymdeithas wledig: alltudiwyd degau o filoedd o werinwyr Wcreinaidd i Siberia, a bu farw miliynau o ganlyniad i newyn yr Holodomor. Ymfudodd nifer o Rwsiaid i ddinasoedd a threfi'r Donbas am waith, ac o ganlyniad cafodd y rhanbarth ei Rwsieiddio'n sylweddol. Dinistriwyd yr ardal yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi'r brwydro bu'n rhaid ailgodi nifer o'r trefi cynlluniedig ac adfer yr adeiladau ac isadeiledd diwydiannol. Cyflwynwyd peiriannau moder i'r ffatrïoedd a'r mwyngloddfeydd, a ffynnai'r rhanbarth unwaith eto. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991, daeth y Donbas yn brif ardal ddiwydiannol Wcráin annibynnol.
Yn 2014 cychwynnodd gwrthdaro yn y Donbas fel rhan o Ryfel Rwsia ac Wcráin. Datganwyd annibyniaeth gan ymwahanwyr Rwsiaidd yn Donetsk a Luhansk, a throdd yn wrthdaro diddatrys gyda brwydro ysbeidiol nes goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn Chwefror 2022. Ym Medi 2022, cyfeddianwyd y Donbas, yn ogystal ag oblastau cyffiniol Kherson a Zaporizhzhia, i diriogaeth Ffederasiwn Rwsia, ond ni chydnabuwyd hynny yn rhyngwladol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Donbas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mehefin 2023.