Y Llen Fambŵ
Enw trosiadol ar y rhaniad gwleidyddol yn Nwyrain a De Ddwyrain Asia yn ystod y Rhyfel Oer yw'r Llen Fambŵ. Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf yng nghylchgrawn Time ar 7 Tachwedd 1949,[1] trwy gydweddiad â'r Llen Haearn, i ddisgrifio'r cyfyngiadau a orfodwyd gan lywodraeth gomiwnyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina ar fudiad rhydd syniadau ac unigolion ar draws ffiniau'r wlad. Y tu ôl i'r Llen Fambŵ hefyd oedd Gogledd Corea a Gogledd Fietnam. Yn ogystal â'i gororau â thair gwladwriaeth gomiwnyddol arall—yr Undeb Sofietaidd, Gogledd Corea, a Gogledd Fietnam—mi oedd Tsieina yn ffinio â phedair gwlad oedd yn gynghreiriaid Unol Daleithiau America, sef Laos (hyd at lywodraeth y Pathet Lao yn 1975), Byrma, Bhwtan, a Phacistan, a thair o wledydd y Mudiad Amhleidiol (India, Nepal, ac Affganistan). Ffiniodd Gogledd Fietnam hefyd â Laos yn ogystal â De Fietnam, a Gogledd Corea yn rhannu goror â De Corea. Ym moroedd Dwyrain Asia lleolwyd rhagor o gynghreiriaid yr Unol Daleithiau: Japan, Gweriniaeth Tsieina (Taiwan), a'r Philipinau. Mi oedd Gwlad Thai, rhyw 100 km o ffiniau Tsieina, hefyd wedi ymochri â'r Unol Daleithiau.
Y Llen Fambŵ yn 1959, gyda gwledydd y Byd Cyntaf yn las, yr Ail Fyd yn goch, a'r Trydydd Byd yn llwyd. Dangosir ffiniau cyfredol cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd er gwybodaeth. | |
Enghraifft o'r canlynol | political border, catchphrase |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddiwyd y term amlaf yn y 1950au, adeg Rhyfel Corea (1950–53) a rhannu Fietnam yn ddwy (1954), a phryd oedd y Tsieineaid a'r Sofietiaid yn gynghreiriaid clos. Wrth i ddiwygiadau Nikita Khrushchev i ddad-Stalineiddio'r Undeb Sofietaidd mynd rhagddi, chwyddodd yr anghytundebau ideolegol rhwng llywodraethau Moscfa a Beijing. Gwrthodwyd y syniad o "gydfodolaeth heddychlon" â'r byd cyfalafol gan Mao Zedong, a bu ymhollti rhwng cysylltiadau Tsieina a'r Undeb Sofietaidd yn y cyfnod 1956–66. Datblygodd y sefyllfa ddaearwleidyddol yn Asia felly o drefn ddeubegwn yn drefn driphegwn: y Tsieineaid, y Sofietiaid, a'r Americanwyr yn cystadlu am feysydd dylanwad. Datblygodd broses o nesâd rhwng Tsieina a'r Unol Daleithiau yn y 1970au, a symboleiddiwyd gan ddiplomyddiaeth ping-pong a thaith yr Arlywydd Nixon i Tsieina yn 1972. Erbyn y 1980au, nid oedd y Llen Fambŵ yn bodoli bellach yn ôl ambell sylwebydd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "China: Behind the Bamboo Curtain", Time (7 Tachwedd 1949). Adalwyd ar 24 Mai 2019.
- ↑ (Saesneg) Jerry Vondas, "Bamboo Curtain Full of Holes, Pitt Profs Say After China Visits", Pittsburgh Press (17 Hydref 1980). Adalwyd ar 24 Mai 2019.
Darllen pellach
golygu- Priscilla Roberts (gol.), Behind the Bamboo Curtain: China, Vietnam, and the Cold War (Stanford, Califfornia: Stanford University Press, 2006).