Y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol
Un o theatrau'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914–1918) oedd y Dwyrain Canol a welodd brwydro rhwng Ymerodraeth yr Otomaniaid, gyda chymorth o'r Pwerau Canol eraill, a'r Cynghreiriaid, yn bennaf yr Ymerodraeth Brydeinig ac Ymerodraeth Rwsia.
Enghraifft o'r canlynol | theater of war |
---|---|
Dyddiad | 30 Hydref 1914 |
Rhan o | y Rhyfel Byd Cyntaf |
Dechreuwyd | 29 Hydref 1914 |
Daeth i ben | 30 Hydref 1918 |
Lleoliad | Canolbarth Asia, Y Dwyrain Canol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar ddechrau mis Tachwedd 1914, datganodd Ymerodraeth yr Otomaniaid jihad filwrol yn erbyn Ffrainc, Rwsia, a Phrydain, gan obeithio ennill rhagor o diriogaethau trwy ymochri ag Ymerodraeth yr Almaen yn erbyn y Cynghreiriaid. Ymatebodd Prydain trwy ddanfon llu Eingl-Indiaidd i Basra i warchod y bibell olew Eingl-Bersiaidd. Ar ddechrau mis Chwefror 1915 ymosododd y Pwerau Canol ar Gamlas Suez gan geisio cyffroi gwrthryfel Islamaidd yn yr Aifft, ond methant.
Ceisiodd Prydain orfodi'r Otomaniaid allan o'r rhyfel trwy ymgyrch lyngesol, ond methodd y Llynges Frenhinol i frwydro trwy'r Dardanelles a chyrraedd Istanbwl. Yn lle hynny, trefnwyd byddin ymdeithiol i lanio ar Gallipoli. Bu colledigion mawr i'r Cynghreiriaid ym Mrwydr Gallipoli ac enciliwyd eu lluoedd. Cafodd llu Eingl-Indiaidd ei amgylchynu yn Kut-el-Amara ym Mesopotamia, ac ildiodd yn Ebrill 1916. Yn wyneb y methiannau hyn, cynyddodd Prydain ei hymdrechion rhyfel yn y Dwyrain Canol. Codwyd byddin fawr a modern ym Mesopotamia dan y Cadfridog Syr Stanley Frederick Maude, ac yn yr Aifft cychwynnodd Byddin Ymdeithiol yr Aifft oresgyniad am Balesteina. Cychwynnodd y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn yr Otomaniaid, ac enillodd cymorth gan Brydain.
Ym Mawrth 1917 cipiodd lluoedd Maude Baghdad a gwthiwyd lluoedd yr Otomaniaid allan o Orynys Sinai ond methodd Prydain i gipio Gaza ddwywaith. Erbyn Rhagfyr, llwyddodd y Prydeinwyr i gipio Jeriwsalem dan y Cadfridog Syr Edmund Allenby, a threchodd yr Otomaniaid eto ym Mrwydr Megiddo ym Medi 1918. Cwympodd Damascus ac Aleppo i'r Cynghreiriaid ym mis Hydref, ac arwyddwyd cadoediad â'r Otomaniaid.
Ffynhonnell
golygu- Ford, Roger. Eden to Armageddon: World War I in the Middle East (Llundain, Phoenix, 2010).