Il Principe
Llyfr gan y diplomydd Eidalaidd Niccolò Machiavelli yw Il Principe (Eidaleg am "Y Tywysog") a gyhoeddwyd gyntaf ym 1532, pum mlynedd wedi marwolaeth yr awdur. Rhyw fath o lawlyfr i dywysog yn dangos sut i lwyddo yw'r gwaith. Gwneir hyn yng nghyd-destun tywysogaethau yn hytrach nag yn nhermau gwladwriaethau. Safbwynt yr un sydd mewn grym sydd i'w weld yn Il Principe: bod yn gymorth i'r arweinydd yw bwriad Machiavelli.
Tudalen flaen argraffiad 1550 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Niccolò Machiavelli |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 1532 |
Dechrau/Sefydlu | 1513 |
Genre | traethawd |
Olynwyd gan | Discourses on Livy |
Prif bwnc | gwleidyddiaeth, gwyddor gwleidyddiaeth |
Yn cynnwys | Description of the Manner in which Duke Valentino put Vitellozzo Vitelli, Oliverotto da Fermo, Lord Pagolo and the Duke of Gravina to Death |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Dywysogaeth
golyguDadleua mai prif sylfaen unrhyw dywysogaeth ydy cyfreithiau ac arfau da. Cred ei bod hi'n amhosib cael y naill heb y llall. Felly rhaid canolbwyntio ar sut i gael arfau da a chred na all gwladwriaeth oroesi heb fyddin gref.
Syniadau gwleidyddol
golyguYm mhennod 18 ceir esiampl o werthoedd gwleidyddol Machiavelli. Yna ceir trafodaeth ynghlŷn ag a ddylai gwleidyddion gadw at eu gair, mae'n dod i'r casgliad nad oes raid. Noda ei bod hi'n ddoeth iddo gadw at ei air ond beth sy'n bwysig ydy iddo ddefnyddio'r grym sydd dan ei awdurdod i gadw trefn. Mae barn Machiavelli ar natur ddynol yn isel iawn. Nid oes yn rhaid i'r tywysog gadw at ei air oherwydd bod dynion yn ddichellgar ac na wnânt hwythau gadw at eu gair chwaith.
Yr Arweinydd
golyguCred Machiavelli fod yn rhaid i'r tywysog wneud mwy na phlesio ei bobl yn unig i aros mewn grym. Noda ei bod hi'n well i'r arweinydd gael ei ofni yn hytrach na'i garu. Dadleua fod ofn yn creu mwy o deyrngarwch; mae modd torri cysylltiad cariad os ydyw o fantais i ddyn, ond mae ofn yn cryfhau oherwydd yr ofn o gosb - tacteg effeithiol, yn ei farn ef. Ni ddylai'r tywysog boeni os caiff enw gwael am fod yn greulon. Wedi dweud hynny ni ddylid defnyddio grym rhywsut rhywsut, rhaid ei gadw at ddefnydd effeithiol, cynnil, gan ei ddefnyddio o dro i dro er mwyn atgoffa pawb gan bwy mae'r awdurdod.
Hanes – Virtù a Fortuna
golyguMae syniadau Machiavelli am hanes yn troi o amgylch Virtù a Fortuna
- Virtù = Rhinwedd/Dawn
- Fortuna = Ffawd/Lwc
Cred Machiavelli fod y ddau ffactor yn cael ei amlygu mewn hanes. Cred Awstin o Hippo mae dim ond Fortuna sydd ar waith, ond cred Machiavelli fod ewyllys rhydd dyn (Virtù) yn effeithio 50/50 gyda ffawd (fortuna). Cred Machiavelli fod gan yr arweinydd ddawn a bod modd iddo droi sefyllfaoedd (a hanes) i'w fantais trwy virtù. Noda hefyd fod fortuna yn ffafrio dynion ifanc oherwydd eu bont yn llai ansicr yn eu gweithredoedd - felly cred Machiavelli fod arweinydd ifanc yn arweinydd effeithiol.
Uno'r Eidal
golyguAr dudalennau Il Principe mae Macchiavelli o flaen ei amser yn sôn am uno'r Eidal. Mae'n annog yr holl Dywysogion yng ngorynys yr Eidal i'w harwain allan o'r sefyllfa roedd ynddi.