Y cyfryngau Gwyddeleg
Y wasg
golyguPapurau newydd
golyguO 1984 i 2008, cyhoeddwyd ym Melffast y papur newydd Lá. Cychwynnodd ar ffurf argrafflen wythnosol cyn iddo droi'n dabloid dyddiol yn Ebrill 2003, a lansiwyd gwefan i gyhoeddi ei gynnwys ar-lein hefyd. Hwn oedd y papur dyddiol cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith Wyddeleg. Cafodd ei gyllido gan Foras na Gaeilge nes i'r corff hwnnw benderfynu nad oedd cylchrediad Lá cyn uched i gyfiawnhau ei barhad.
Sefydlwyd y papur newydd wythnosol Foinse yn 1996, a fe'i cyhoeddwyd pob Sadwrn o 1996 i 2013, ac eithrio cyfnod byr yn 2009. Cafodd ei ysgrifennu a'i olygu yn An Cheathrú Rua (Carraroe), Swydd Galway, a'i argraffu yn Trá Lí (Tralee), Swydd Kerry, a fe'i dosberthid ar draws Iwerddon. Cynhwysodd adroddiadau o faterion lleol a chenedlaethol yn ogystal â newyddion rhyngwladol, a chyda pwyslais ar diwylliant Gwyddeleg a bywyd yn y Gaeltacht. Caewyd y papur yn 2009 yn sgil methiant i sicrhau cyllid gan Foras na Gaeilge, a chafodd ei atgyfodi yn ddiweddarach ar ffurf atodlen am ddim yn yr Irish Independent. Daeth yr argraffiad print i ben yn 2013, a'r wefan i ben yn 2015.
Cyhoeddir dau bapur newydd dwyieithog, yn Saesneg a Gwyddeleg, yn Iwerddon: y misolyn Saol, a'r papur lleol misol Glór Chonamara yn Conamara (Connemara), Swydd Galway. Cyhoeddir pytiau o erthyglau Gwyddeleg yn The Irish Times (Dulyn) a The Irish News (Belffast). Cyhoeddwyd deunydd Gwyddeleg hefyd yn yr wythnosolyn gwleidyddol An Phoblacht.
Cylchgronau
golyguPrif gylchgrawn llenyddol yr iaith Wyddeleg ydy Comhar, cyfnodolyn a gyhoeddir yn fisol ers ei sefydlu yn 1942. Mae'n ymdrin â materion cyfoes a'r celfyddydau yn ogystal â chyhoeddi lenyddiaeth wreiddiol gan awduron Gwyddeleg.
Sefydlwyd y cylchgrawn misol Feasta gan Conradh na Gaeilge yn 1948 er trafod llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a'r celfyddydau drwy gyfrwng y Wyddeleg. Cyhoeddir y cyfnodolyn dwyieithog Éigse bob tri mis gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon er hyrwyddo astudiaethau'r iaith Wyddeleg a'i llenyddiaeth.
Darlledu
golyguRadio
golyguSefydlwyd Raidió na Gaeltachta yn 1972 i ddarparu gwasanaeth radio ar gyfer y Gaeltacht, a siaradwyr Gwyddeleg ar draws Iwerddon. Mae'n darlledu yn y Wyddeleg bob awr o'r dydd a chyda rhaglenni newyddion, cerddoriaeth, chwaraeon, adloniant, a thrafodaethau.
Gorsaf radio Wyddeleg i Ddulyn a'r cylch yw Raidió na Life, a sefydlwyd yn 1993, sydd hefyd ar gael ar-lein. Cynhwysir ambell raglen Wyddeleg ar orsaf BBC Thuaisceart Éireann (Gogledd Iwerddon), gan gynnwys cerddoriaeth, chwaraeon, rhaglenni dogfen, a'r celfyddydau.
Teledu
golyguDechreuodd Teilifís na Gaeilge, a elwir bellach TG4, ddarlledu yn 1996. Fel arfer, darlledir rhyw pump awr o raglenni Gwyddeleg bob dydd, gan gynnwys chwaraeon, drama, materion cyfoes, a rhaglenni i blant. Darlledir rhyw awr arall o raglenni Gwyddeleg ar sianeli RTÉ, RTÉ1 a Network 2, a hynny yn bennaf adroddiadau newyddion.
Y rhyngrwyd
golyguUn o'r prif gwefannau yn yr iaith Wyddeleg ydy'r Wicipedia Gwyddeleg, Vicipéid. Dyma'r Wicipedia trydydd ei faint o'r ieithoedd Celtaidd yn ôl nifer ei erthyglau, ar ôl y Wicipedia Cymraeg a'r Wicipedia Llydaweg.
Y brif wefan newyddion yn Wyddeleg ydy Tuairisc.ie, a sefydlwyd yn 2014 gyda chymorth ariannol gan Foras na Gaeilge.