Tuairisc.ie
Gwefan newyddion Gwyddeleg yw Tuairisc.ie, sy'n darparu gwasanaeth newyddion i'r gymuned Wyddeleg. Ceir erthyglau ar newyddion y Gaeltacht, cenedlaethol a rhyngwladol; chwaraeon, diwylliant a ffasiwn; yn ogystal ag erthyglau barn a cholofnau. Mae erthyglau yn cael eu hychwanegu at y wefan yn ddyddiol. Ystyr 'tuairisc' yw "disgrifiad".
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, papur newydd arlein |
---|---|
Iaith | Gwyddeleg |
Dechrau/Sefydlu | 2014 |
Pencadlys | Barna |
Gwefan | https://tuairisc.ie/ |
Hanes
golyguEnillodd Tuairisc Bheo Teoranta gystadleuaeth a drefnwyd gan Foras na Gaeilge yn 2014 i ddarparu papur newydd Gwyddeleg ar-lein.[1]. Lleolir y gwasanaeth ym mhentref Bearna sydd 7km i'r gorllewin o dinas Gaillimh yn Swydd Gaillimh, mae'r pentref bellach yn bentref gymudo i'r ddinas.[2] Lleolwyd swyddfeydd y papur newydd yn Bearna[3] oherwydd dyna'r unig ardal yn Gaeltacht Swydd Gaillimh yn Conamara oedd â mynediad at wasanaeth band eang ar gyflymder uchel.[4] Lansiwyd Tuairisc.ie yn yr Oak Room yn y Mansion House yn Nulyn ar 9 Hydref 2014.[5]
Ar 5 Mehefin 2015, cyhoeddodd Tuairisc.ie fod y wefan wedi cyrraedd 1,000,000 o ymweliadau â thudalennau.[6] O'r rhain, roedd 70% yn ddarllenwyr dychwelyd, hynny yw, pobl oedd yn dod nôl at y wefan fwy nag un tro ac nid tarro arni unwaith.[7]
Tebygrwydd â Golwg360
golyguGellir ystyried model cyllido a rheoli Tuairisc.ie yn debyg i wasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 yn y Gymraeg. Fel y mae Golwg360 (a lansiwyd yn 2009)[8] gan derbyn arian cyhoeddus ond yn cael ei rheoli gan Gyngor Llyfrau Cymru mewn modd hyd-braich fel y mae'r cyhoeddiad Gwyddeleeg gan Foras na Gaeilge.
Podlediad
golyguYn 2024, gyda’r oes wleidyddol yn dechrau ymgyrchu, cychwynnodd y papur newydd y podlediad newydd sbon Tuairímí Toghcháin fel rhan o’i gyfres fideo Tuairis Ó Béal i drafod y “straeon diweddaraf o Etholiad Cyffredinol 2024 gan bodlediad Tuairimí Toghcháin a gwesteion arbennig”.[9]
Rheolaeth
golyguYn 2024 golygydd Tuairisc.ie oedd Seán Tadhg Ó Garbhí[10] a Ciarán Ó Súilleabháin oedd rheolwr y wefan.[6]
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Tuairisc.ie
- @Tuairisc.ie Tudalen Facebook Tuairisc.ie
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Tuairisc.ie ag earcú foirne dá seoladh". The Irish Times (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2022-12-09.
- ↑ "Sonraí Teagmhála". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2022-12-09.
- ↑ "Tuairisc.ie reaches one million page views". The Irish Times. Cyrchwyd 2022-12-09.
- ↑ "Tuairisc.ie reaches one million page views". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-09.
- ↑ "Goan wonders what Kenny's linguistic 'legacy' will be". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-09.
- ↑ 6.0 6.1 "1,000,000 'amharc leathanaigh' bainte amach ag Tuairisc.ie". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). 2015-06-05. Cyrchwyd 2024-01-21.
- ↑ "Tuairisc.ie reaches one million page views". The Irish Times.
- ↑ "Lansio gwefan newydd Golwg360". BBC Cymru'r Byd. 15 Mai 2009.
- ↑ "PODCHRAOLADH: 'Ar chúis éigin, cuireann Fine Gael drochthús i gcónaí le feachtais toghcháin'". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). 12 Tachwedd 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2024.
- ↑ "Cormac ag a Cúig Déardaoin 9 Deireadh Fómhair 2014". RTE Radio (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2022-12-09.