Y galdrist rithiol
Epipogium aphyllum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Asparagales |
Teulu: | Orchidaceae |
Genws: | Epipogium |
Rhywogaeth: | E. aphyllum |
Enw deuenwol | |
Epipogium aphyllum Olof Swartz | |
Cyfystyron | |
Satyrium epipogium L. |
Tegeirian yw'r Galdrist rithiol (neu weithiau Degeirian y cysgod) sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Orchidaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Epipogium aphyllum a'r enw Saesneg yw Ghost orchid.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Tegeirian y Cysgod.[2]
Mae'r Galdrist rithiol ymhlith planhigion mwyaf prin yng ngwledydd Prydain: dim ond mewn tua 11 o lefydd maent yn tyfu: yn y Chilterns a gorllewin canolbarth Lloegr, ond mae eu hunion leoliad yn gyfrinachol. Ni welwyd yr un rhwng 1987 a 2008 a chredid eu bod wedi'u difodi'n llwyr.
Enw a chynefin
golyguGwyn hufen i frown pincaidd yw ei liw a thyf mewn coedwigoedd tywyll a chysgodol - sy'n egluro’i enw. Diffyg cloroffyl sy'n gyfrifol am ei liw; mae'n baraseit ffyngau sy'n gysylltiedig â gwreiddiau coed, felly nid oes angen iddo gynhyrchu ei fwyd ei hun trwy ffotosynthesis.
Mae'n blanhigyn blodeuol nodedig ac fel eraill o deulu'r Orchidaceae, mae'r blodau'n hynod liwgar ac yn cynhyrchu arogl da. Enw'r genws yw Orchis, sy'n tarddu o Hen Roeg ὄρχις (órkhis), sy'n golygu caill; mae hyn yn cyfeirio at gloron deuol rhai tegeirianau.[3]
Specimens
golyguDarnau o risomau a gasglwyd gan Eleanor Vachell ym 1926 yw'r unig ddau sbesimen Prydeinig sydd ar gael, ac mae'r ddau, bellach, yn nwylo Amgueddfa Cymru ar ôl bod ar wahân am 84 o flynyddoedd. Ym 1953, casglodd Rex Graham, mab Elsie a oedd yn ffrind mynwesol i Eleanor, nifer o enghreifftiau o'r planhigyn wedi iddo ddod ar draws 22 Galdrist rithiol mewn coedwig yn Swydd Buckingham, sef y gytref fwyaf erioed yng ngwledydd Prydain o'r galdrist rithiol.
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 23 Awst 2016.
- ↑ Joan Corominas (1980). Breve Diccionario Etimológico de la Lengua Castellana. Ed. Gredos. t. 328. ISBN 84-249-1332-9.