Eleanor Vachell
Botanegydd Cymreig oedd Eleanor Vachell (8 Ionawr 1879 – 6 Rhagfyr 1948) a adnabyddir yn bennaf am gasglu un o'r hebaria mwyaf cynhwysfawr a gasglwyd gan unigolion erioed, gyda ei thad, C. T. Vachell: 6705 o sbesimenau sych[1] sydd 'nawr yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Eleanor Vachell | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1879 Caerdydd |
Bu farw | 6 Rhagfyr 1948 Caerdydd |
Man preswyl | Cymru |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | botanegydd, casglwr botanegol |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas y Linnean |
Vachell oedd y fenyw gyntaf i eistedd ar Gyngor a Llys yr amgueddfa. Cedwir ei dyddiaduron, ei nodiadau, ynghyd â'r sbesimenau â gasglodd, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd[2].
Un o'i phrif weithgareddau oedd adnabod a dosbarthu rhywogaethau newydd o blanhigion ym Morgannwg a thu hwnt, a llwyddodd dros ei hoes i ddisgrifio bron i bob planhigyn yng ngwledydd Prydain.
Magwraeth
golyguGaned Eleanor Vachell yng Nghaerdydd ar 8 Ionawr 1879, merch hynaf Winifred a Charles Tanfield Vachell, ffisegwr, botanegydd amatur[3] ac aelod o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd.
Aeth i ysgolion yng Nghaerdydd, Malvern, a Brighton. Arferai Eleanor deithio gyda'i thad ar ei deithiau hela planhigion. Aethant drwy wledydd Prydain, Iwerddon, Llydaw, Norwy a'r Swistir.[4]
Dechreuodd Vachell gadw dyddiadur[3] pan yn ddeuddeg oed, a chadwodd hwnnw drwy ei hoes, gan gofnodi teithiau ymchwil a darganfyddiadau diddorol.
Gyrfa
golyguYn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Vachell yn aelod o'r 'Committee Ladies of the Auxiliary Workers Territorial Forces Nursing Association', a oedd yn gweithio mewn ysbyty i filwyr yn Ysgol Gerddi Howard[5] yng Nghaerdydd. Yn ôl ei dyddiaduron, ei phrif swyddogaethau oedd trwsio lleiniau a sanau - ond am nad oedd hi'n hoff o bwytho, dechreuodd weithio ar gadw trefn ar lyfrgell yr ysbyty[6].
Ychydig iawn o bobl ar yr adeg honno a wyddai cymaint â hi am holl blanhigion ynysoedd Prydain ac Iwerddon.[7] Credir erbyn heddiw iddi ganfod 1787 planhigyn allan o 1800, y mwyaf a gofnodwyd gan unigolyn.[7]
Enw
golyguSeisnigiad yw ei chyfenw o enw ardal Machell a dreiglir weithiau'n 'Fachell' e.e. Mechell, Ynys Môn. Ceir hefyd enw sant: Mechell a fl. yn y 5g neu 6g ac a gysylltir ag Ynys Môn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Evans, Jennifer (5/1/2016). "Our Museum During the Great War". Amgueddfa Cymru. Cyrchwyd 29/4/2018. Check date values in:
|access-date=, |date=
(help) - ↑ "Casgliadau Llyfrgell Amgueddfa Cymru". Amgueddfa Cymru. Cyrchwyd 28/04/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ 3.0 3.1 Vachell 2006, t. rhagair
- ↑ Marilyn Ogilvie, Joy Harvey, The Biographical Dictionary of Women in Science , Routledge 2003, t. 1316
- ↑ "Cardiff School Log Books" (PDF). Archifau Morgannwg. t. 4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-05-19. Cyrchwyd 28/04/18. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Vachell 2006, t. 36
- ↑ 7.0 7.1 H.A.Hyde, 'Obituaries: Miss Eleanor Vachell', in Proceedings of the Linnean Society of London, Cyfrol 161, Rhif 2,, tud 252, Rhagfyr 1949
Llyfryddiaeth
golygu- Vachell, Eleanor; Forty; Rich (2006). The Botanist: The Botanical Diary of Eleanor Vachell (1879-1948). Caerdydd: National Museum of Cardiff. ISBN 0-7200-0565-5.
Dolenni allanol
golygu- www.worldcat.org - gyda dolennau er mwyn lawrlwytho ei dyddiaduron.