Marford

pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Pentref yng nghymuned Yr Orsedd, Mwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Marford.[1][2] Nid ymddengys fod enw Cymraeg yn bodoli. Saif ychydig i'r dwyrain o briffordd yr A483, rhwng Gresffordd a Rossett. Llifa Afon Alun gerllaw. Ystyrir ward Marford a Hoseley yn un o'r tair ward gyfoethocaf yng Nghymru. Ceir dwy dafarn yma, ond nid oes siop bellach, ac mae'r ddau gapel wedi cau.

Marford
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1°N 3°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ359563 Edit this on Wikidata
Cod postLL12 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruLesley Griffiths (Llafur)
AS/au y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd llawer o dai y pentref gan ystad Trefalun, ac mae Marford yn enwog am fythynnod yn yr arddull a elwir yn cottage orné. Rhestrwyd amryw ohonynt gan Cadw. Ar un adeg roedd y pentref yn enwog am ei ysbrydion.

Gerllaw'r pentref mae hen chwarel, a agorwyd yn 1927 i gloddio defnydd ar gyfer Twnnel Merswy. Caewyd y chwarel yn 1971. Enwyd y safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1989, ac yn 1990 prynodd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru 26 acer o'r safle i'w ddatblygu fel gwarchodfa.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Andrew Ranger (Llafur).[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU