Talwrn draddodiadol a welir yn Sbaen, Portiwgal, de Ffrainc ac mewn rhai gwledydd America Ladin (megis Mecsico, Colombia, Feneswela a Pheriw[1] ydy ymladd teirw. Yn rhan o'r sioe, ymladda un dyn neu fwy yn erbyn tarw neu deirw mewn maes ymladd teirw. Er ei fod, yn ei hanfod, yn chwaraeon gwaed, caiff ei ystyried fel 'ceflyddyd gain' gan gefnogwyr y talwrn, ac nid fel chwaraeon[2] am nad oes elfen o gystadleuaeth i'r ornest.

Ymladd teirw
Enghraifft o'r canlynolBien de Interés Cultural Edit this on Wikidata
Mathshow, chwaraeon gwaed Edit this on Wikidata
Lleoliadbullring Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ymladd Teirw, paentiad gan Édouard Manet, 1865–1866

Mae'r ornest ei hun yn cynnwys toreros proffesiynol (gyda'r torero mwyaf profiadol, sef y matador) yn lladd y tarw ei hun. Gwna hyn gan ddefnyddio ystod o symudiadau ffurfiol, sydd ag ystyron ac enwau gwahanol, yn unol ag arddull neu ysgol hyfforddiant y matador. Mae agosatrwydd yr ymladdwr teirw at yr anifail yn ei osod mewn perygl o gael ei gornio neu'i ddamsgen arno. Ar ôl i'r tarw gael ei fachu sawl gwaith tu ôl i'w ysgwydd gan y matadors eraill yn yr ymrysonfa, daw'r talwrn i ben gyda'r tarw'n cael ei ladd gydag un hyrddiad terfynol gan gleddyf. Gelwir hyn yr estocada. Ym Mhortiwgal, gelwir y diweddglo y pega, lle mae'r dynion (forcados) yn ceisio gafael yng nghyrn y tarw wrth iddo redeg tuag atynt.

Mae yna nifer o feysydd ymladd teirw ym Mhenrhyn Iberia, Ffrainc ac America Ladin. Y ganolfan fwyaf o'i math yw Plaza México yng nghanol Dinas Mecsico, sy'n dal 48,000 o bobl,[3] a'r hynaf yw'r La Maestranza yn Seville, Sbaen, lle cynhaliwyd yr ornest ymladd teirw cyntaf yn 1765.[4]

Ceir ymladd teirw nad yw'n angeuol tu hwnt i Sbaen a Ffrainc, gan gynnwys arfer y Tamil Nadu o jallikattu; a'r mchezo wa ngombe Portiwgaleg (sef y gair Kiswahili am "sbort gyda tharw") a gaiff ei ymarfer ar Ynys Pemba yn Tansanïa a Zanzibar. Ceir enghreifftiau hefyd o deirw'n ymladd teirw eraill yn hytrach na phobl yn y Balcans, Twrci, Gwlff Persia, Bangladesh, Japan, Periw a Chorea. Dylanwadodd ymladd teirw Sbaenaidd ar sawl ardal o Orllewin yr Unol Daleithiau a gellir gweld hyn mewn gornestau rodeo megis rhaffu lloi a marchogaeth teirw hefyd.

Ymladd teirw yng nghymunedau hunanlywodraethol Sbaen yn y 19eg ganrif.
Ymladd teirw yng nghymunedau hunanlywodraethol Sbaen yn 2012.
• Dylid nodi'r eithriadau megis ardal Pamplona yng ngogledd Navarre a Bilbao ac yng Gwlad y Basg, lle cynhelir gornestau yn ystod eu gwyliau blynyddol yn unig.
• Yn 1991, daeth Yr Ynysoedd Dedwydd y Gymuned Hunanlywodraethol Sbaenaidd cyntaf i wahardd ymladd teirw, gyda Catalonia yn dilyn yn Ionawr 2012.

Cyfeiriadau golygu

  1. Corridas de Toros en Latinoamérica
  2. Fiske-Harrison, Alexander 'To the Spanish bullfighting is much more than a sport' Daily Telegraph. 25 Tachwedd 2011
  3.  www.worldstadiums.com.
  4. "Plaza de Toros - Institución". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-03. Cyrchwyd 2015-08-24.