Agor y brif ddewislen

Lindisfarne

llanw Ynys yng ngogledd ddwyrain Lloegr
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ynys Metcaud)

Ynys sanctaidd ger arfordir Northumberland, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Lindisfarne, hefyd Holy Island (hen enw Cymraeg: Ynys Metcaud neu 'Medgawdd'[1]). Ar wahân i adegau o lanw uchel, mae modd gyrru car i'r ynys. Roedd y boblogaeth yn 180 yn 2011. Dynodwyd rhan helaeth o'r ynys yn Warchodfa Natur, a cheir amrywiaeth o adar yma.

Lindisfarne
LindisfarneCastleHolyIsland.jpg
Math ynys llanw-a-thrai Edit this on Wikidata
Poblogaeth 160 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1859 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Holy Island Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 4 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr y Gogledd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 55.67806°N 1.79556°W Edit this on Wikidata
Cod OS NU129420 Edit this on Wikidata
Cod post TD15 Edit this on Wikidata

Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir hanes gwarchae ar yr ynys. Yn y 6g gwnaed cynghrair rhwng teyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd i ymladd yn erbyn yr Eingl. Bu Urien Rheged, Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud, Gwallawc Marchawc Trin o Elmet a Morgant Bwlch yn gwarchae Eingl Brynaich ar yr ynys, a oedd wedi'u gyrru o'u prifddinas Din Guardi. Fodd bynnag, roedd Morgant yn genfigennus o lwyddiant Urien, a threfnodd i Llofan Llaf Difo ei lofruddio.

Sefydlwyd abaty Lindisfarne gan Sant Aidan o Iwerddon, a yrrwyd o Iona ar gais Oswallt, brenin Northumbria tua 635. Yn ddiweddarch bu nawdd-sant yr ynys, Cwthbert o Lindisfarne yn abad ac yn esgob yma.

Rywbryd tua dechrau'r 700au, cynhyrchwyd Efengylau Lindisfarne yma. Yn 793 ymosodwyd ar yr ynys gan y Llychlynwyr; ystyrir mai'r ymosodiad yma oedd dechrau oes yr ymosodiadau Llychlynnaidd ar Loegr. Bu ymosodiadau pellach, gan orfodi'r myneich i adael yr ynys.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Hanes Cymru gan John Davies' Gwasg Penguin; 1900