Ynys-y-bwl
Pentref mawr yng nghymuned Ynysybŵl a Choed-y-cwm ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Ynys-y-bwl,[1] weithiau Ynysybŵl.[2] Saif tua 20 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caerdydd, bedair milltir i'r gogledd o Bontypridd a 10 milltir i'r de o Ferthyr Tudful. Mae Nant Clydach yn llifo heibio iddo.
Math | pentref |
---|---|
Poblogaeth | 4,581 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysybŵl a Choed-y-cwm |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.64°N 3.37°W |
Cod OS | ST054949 |
Cod post | CF37 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au | Beth Winter (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[4]
Hanes
golyguCofnodir yr enw yn y ffurf Seisnigaidd "Ynys y Bool" mewn dogfen Saesneg yn 1738. Gair Cymraeg ydy "bŵl" sy'n golygu "powlen" - sydd mae'n bosib yn cyfeirio at siâp crwn y dyffryn.
Hyd y 1880au, roedd Ynys-y-bŵl yn ardal amaethyddol. Agorwyd Glofa Lady Winsor yn 1886, a dechreuodd y pentref dyfu o'i hamgylch. Caewyd y lofa yma yn 1988.
Chwaraeon a diwylliant
golyguCeir côr a chlwb rygbi yma.
Cynhelir Ras Nos Galan yma bob blwyddyn, i goffáu Guto Nyth Brân.
Enwogion
golygu- William Hazell (1890–1964), arloeswr ac arweinydd y mudiad cydweithredol
- Leighton Rees (1940–2003), chwaraewr dartiauy, pencampwr y byd
- Garin Jenkins (g. 1966), chwaraewr rygbi
- Alun Wyn Davies, chwaraewr rygbi
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 4 Mehefin 2023
- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Mehefin 2023
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Trefi
Aberdâr · Aberpennar · Glynrhedynog · Llantrisant · Pontypridd · Y Porth · Tonypandy · Treorci
Pentrefi
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aber-nant · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynys-y-bwl · Ystrad Rhondda