Ysgol Uwchradd Llanisien

Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg yn ardal Llanisien, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd Llanisien (Saesneg: Llanishen High School). Hon yw ysgol uwchradd ail fwyaf Caerdydd, gyda thua 1,700 o ddisgyblion. Y prifathro presennol ydy Mr Robert Smythe.[1]

Ysgol Uwchradd Llanisien
Arwyddair We believe that all can succeed
Ystyr yr arwyddair Cymraeg: Rydym yn credu y gall pawb lwyddo
Ffrangeg: Nous pensons que tout le monde peut réussir
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Robert Smythe
Dirprwy Bennaethiaid Mr A Holland
Mr H Rogers
Lleoliad Heol Hir, Llanisien, Caerdydd, Cymru, CF14 5YL
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion tua 1,700
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Du a glas
Gwefan http://www.llanishenhighschool.co.uk

Adeiladau golygu

Adeiladwyd y rhan helaeth o'r ysgol yn ystod yr 1950au, ond ychwanegwyd rhai megis y bloc gwyddoniaeth yn diweddarach. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys maes hoci, cwrt pêl-fasged, cyrtiau tenis dan-dô, a meysydd athletau, criced, pêl-droed a rygbi.

Sefydlwyd cyngor myfyrwyr yr ysgol yn 2006, sy'n cynnwys pedwar disgybl o bob blwyddyn addysgol a gaiff eu hethol gan holl ddisgyblion y flwyddyn. Maent wedi bod yn llwyddiannus yn ymgyrchu am welliannau, megis adeiladu rhestlau beiciau newydd, ailddatblygu'r coridor yn adain orllewinol yr ysgol, a gwella'r bwyd yn y ffreutur. Bydd gwefan yr ysgol hefyd yn cael ei hailwampio, a bydd ailddatblygu'r coridor yn adain ddwyreiniol a'r ardal cwad yn cychwyn yn fuan.

Yn ddiweddar, mae'r cyngor wedi ffurfio partneriaeth â changen Draenen Pen-y-Graig o archfarchnad Sainsbury's, sydd erbyn hyn yn darparu ariannu ar gyfer papur newydd yr ysgol a gwobrau ariannol ar gyfer nifer o gystadlaethau a redir yn yr ysgol.

Mae gorsaf deledu fechan yn yr ysgol, sef LHTV, sydd wedi cynhyrchu ffilmiau byr ynglŷyn â bwlia, gwisg ysgol, newid hinsawdd, y problemau sy'n gwynebu'r cymoedd, ac un o'r enw "Transition" sy'n dadansoddi symudiad disgyblion o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Bu'r orsaf yn ymwneud â phrosiect a enillodd wobr "Ffilm Orau mewn Iaith Dramor" i'r Adran Ieithoedd Dramor yng Ngwobrau Ieithoedd Ewropeaidd 2007.

Addysg golygu

Mae'r ysgol yn gwasanaethu plant rhwng 11 ac 18 oed. Roedd 1666 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2003, yn cynnwys 256 yn y chweched dosbarth. Siaradai 1% ohonynt y Gymraeg i safon iaith gyntaf, er mai fel ail-iaith yn unig caiff addysg Gymraeg ei darparu. Daeth 5% o gefndiroedd lleiafrif ethnig a derbyniai 8 disgybl gefnogaeth ychwanegol i ddysgu'r Saesneg fel ail-iaith.[2]

Arhosodd niferoedd y disgyblion yn weddol gyson gyda 1649 yn 2009, ond roedd cynnydd yn y nifer yn y chweched dosbarth gyda 303. Bu cynnydd yn y nifer a dderbyniai gefnogaeth ychwanegol i ddysgu'r Saesneg fel ail-iaith, o 8 i 20. Dywedodd adroddiad Estyn 2009, bod rhai gwendidau, er fod nifer o nodweddion da gan yr ysgol (megis canlyniadau da, cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer dysgwyr, amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a'r darpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion arbennig), sef cam-ymddygiad lleiafrif o ddisgyblion a diffyg yn asesiad ac addysg yng nghyfnod allwedol 3 a 4.[3]

Ymryson golygu

Bu ymryson yn 2006, wedi i ffilm o blant yn ymladd, wedi ei recordio yn defnyddio ffôn symudol, gael ei darlledu ar YouTube. Daeth yn stori newyddion genedlaethol oherwydd fod y ddwy ferch rhwng 12 ac 14 oed yn amlwg yn gwisgo gwisg ysgol Llanisien, ac oherwydd y bu'r ymladd yn hynod o dreisgar. Roedd canlyniadau arholiadau'r ysgol yn well na'r cyfartaledd yn lleol ac yn genedlaethol, gan adlewyrchu safon dda'r addysg a ddarparwyd.[4]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu