Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
Prif Ysgrifennydd Gwladol Ei Mawrhydi dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd neu, yn anffurfiol, Ysgrifennydd Brexit,[1] yw'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, y cyfeirir ato'n anffurfiol fel "Brexit". Cyfrifoldeb yr ysgrifennydd yw goruchwylio'r trafodaethau am dynnu allan o'r UE yn dilyn refferendwm ar 23 Mehefin 2016, lle pleidleisiodd mwyafrif o'r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb.[2][3] Mae deiliad y swydd yn aelod o'r Cabinet.
Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd | |
---|---|
Arfbais Llywodraeth Ei Mawrhydi | |
Yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd | |
Arddull | Ysgrifennydd Brexit (anfurfiol) Y Gwir Anrhydeddus (o fewn y DU a'r Gymanwlad) |
Aelod o | Cabinet y Deyrnas Unedig |
Yn adrodd i | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig |
Lleoliad | Westminster, Llundain |
Penodwr | Y Frenhines ar argymhelliad Y Prif Weinidog |
Cyfnod y swydd | amhenodol |
Ffurfwyd | 13 Gorffennaf 2016 |
Deilydd cyntaf | David Davis |
Cafodd y swydd ei greu ar gychwyn Prif Weinidogaeth Theresa May, a ddaeth yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar 13 Gorffennaf 2016.[4] Mae'r ysgrifennydd yn bennaeth ar Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, sydd a'i phencadlys yn rhif 9 Stryd Downing, Westminster, Llundain.
Y deiliad cyntaf oedd David Davis AS, Ewrosceptig ers amser maith a fu'n chware rhan flaenllaw yn yr ymgyrchu o blaid ymadawiad y DU o'r UE.[5] Mae Davis yn gyn- gadeirydd y Blaid Geidwadol a wasanaethodd yn llywodraeth John Major fel Gweinidog Gwladol dros Ewrop (1994-97) ac yng Nghabinet Cysgodol David Cameron fel yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol .[6]
Ymddiswyddodd Davis ar 8 Gorffennaf 2018 ychydig cyn hanner nos. Penodwyd Dominic Raab ar 9 Gorffennaf fel ei olynydd. Ymddiswyddodd Rabb ar 15 Tachwedd 2018.[7] Penodwyd Stephen Barclay, a fu gynt y Gweinidog Gwladol dros Iechyd, fel olynydd Raab ar 16 Tachwedd 2018.[8]
Rhestr o Ysgrifenyddion Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
golyguLliw'r blaid :
Ceidwadol
Delwedd | Enw | Cyfnod yn y swydd | Party | Prif Weinidog | Cyf. | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
David Davis AS Haltemprice a Howden |
13 Gorffennaf 2016 | 8 Gorffennaf 2018 | Ceidwadol | Theresa May | [9] | |||
Dominic Raab AS Esher a Walton |
9 Gorffennaf 2018 | 15 Tachwedd 2018 | [10] | |||||
Stephen Barclay AS Gogledd Orllewin Cambridgeshire |
16 Tachwedd 2018 | Deilydd | [8] |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cecil, Nicholas (14 Gorffennaf 2016). "Brexit Secretary David Davis says UK 'will quit the EU in December 2018'". Evening Standard. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2018.
- ↑ James, William; Holden, Michael (13 Gorffennaf 2016). "'Charming Bastard' David Davis to lead Brexit talks". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-10. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.CS1 maint: uses authors parameter (link).
- ↑ Foster, Matt (14 Gorffennaf 2016). "New Department for Business, Energy and Industrial Strategy swallows up DECC and BIS — full details and reaction". Civil Service World. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
- ↑ "New ministerial appointment July 2016: Secretary of State for Exiting the European Union" (Press release). Prime Minister's Office, 10 Downing Street. 13 Gorffennaf 2016. https://www.gov.uk/government/news/new-ministerial-appointment-july-2016-secretary-of-state-for-exiting-the-european-union. Adalwyd 9 Gorffennaf 2018.
- ↑ Crace, John (4 Chwefror 2016). "David Davis spells out his EU strategy: be more like Canada". The Guardian. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
- ↑ "Theresa May's cabinet: Who's in and who's out?". BBC News. 13 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
- ↑ "Brexit Secretary Dominic Raab resigns over EU agreement". BBC News. 15 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2018.
- ↑ 8.0 8.1 "Steve Barclay named new Brexit Secretary". BBC News. 16 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2018.
- ↑ "Rt Hon David Davis MP". UK Parliament. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2018.
- ↑ "Rt Hon Dominic Raab MP". UK Parliament. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2018.