Ysgyryd Fawr
Bryn yn Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru yw Ysgyryd Fawr (Saesneg: Skirrid neu Skirrid Fawr). Ysgyryd Fawr yw copa mwyaf dwyreiniol y Mynydd Du; saif gerllaw y Fenni ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. I'r de o'r bryn ceir pentref a phlwyf Llanddewi Ysgyryd; cyfeiriad grid SO331182.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 486 metr |
Cyfesurynnau | 51.858386°N 2.970816°W |
Cod OS | SO3311818283 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 344 metr |
Rhiant gopa | Ysgyryd Fawr |
Cadwyn fynydd | Mynydd Du |
Uchder y mynydd yw 486 m (1596 tr). Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 142 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Cyfeirir ato weithiau fel "Mynydd Sanctaidd", gan fod traddodiad lleol fod ei ddaear yn sanctaidd ac yn arbennig o ffrwythlon. Arfeid cymryd rhywfaint o'r pridd o'r bryn i'w wasgari ar gaeau, ar sylfeini eglwysi ac ar eirch.
Ceir gweddillion bryngaer o Oes yr Haearn ac adfeilion eglwys Gatholig Sant Mihangel ar y copa.
Dosbarthiad
golyguDosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 486 metr (1594 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd
golyguDolennau allanol
golygu- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback