A458
Priffordd yng nghanolbarth Cymru a chanolbarth Lloegr yw'r A458. Mae'n cysylltu Mallwyd yng Ngwynedd a Halesowen, ger Stourbridge.
Math | ffordd dosbarth A |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig, Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7118°N 2.8793°W |
Hyd | 86 milltir |
Mae'r A458 yn gadael yr A470 ym Mallwyd, ac yn dilyn Afon Cleifion tua'r dwyrain am ychydig, yna'n parhau tua'r dwyrain ar hyd Cwm Dugoed, lle lladdwyd Siryf Meirionnydd, y Barwn Lewys ab Owain, neu Lewis Owen, o Gwrt Plas-yn-dre, Dolgellau ar 12 Hydref 1555 gan Wylliaid Cochion Mawddwy.
Mae wedyn yn dilyn Afon Banwy tua'r dwyrain ac yn arwain ymlaen i'r Trallwng. Ychydig ar ôl y Trallwng, mae'n croesi'r ffin i Loegr, ac yn ymuno a'r briffordd A5 am ychydig ar ffordd osgoi Amwythig, cyn ymwahanu eto a mynd tua'r de-ddwyrain i groesi Afon Hafren yn Bridgnorth. Oddi yno, mae'n parhau tua'r de-ddwyrain i Halesowen.
Trefi a phentrefi ar yr A458
golygu- Cymru
- Lloegr
- Buttington
- Trewern
- Rowton
- Amwythig (ffordd osgoi)
- Cross Houses
- Much Wenlock
- Morville
- Bridgnorth
- Enville
- Stourbridge
- Halesowen