A Welsh Grammar, Historical and Comparative

Llyfr gramadeg gan Syr John Morris-Jones a gafodd ddylanwad sylweddol ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth yn yr 20g yw A Welsh Grammar, Historical and Comparative. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 1913.

A Welsh Grammar, Historical and Comparative
Enghraifft o'r canlynolgramadeg Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1913 Edit this on Wikidata
Prif bwncGramadeg y Gymraeg Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen gyntaf prif destun y Welsh Grammar

Cnewyllyn y gyfrol oedd erthygl John Morris-Jones yn y 1890au ar yr iaith Gymraeg a'i gramadeg yn Y Gwyddoniadur Cymreig. Ehangodd ar y braslun hwnnw mewn cyfres o ddarlithoedd ar yr iaith yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn y 1910au. Traddodwyd y darlithoedd hynny yn y Saesneg, fel oedd yr arfer yng ngholegau Prifysgol Cymru yr adeg yna, a Saesneg yw iaith y gramadeg ei hun.

Un o brif fwriadau John Morris-Jones oedd olrhain datblygiad geiriau a chystrawennau Cymraeg ac o'r herwydd ceir nifer fawr o enghreifftiau o ffurfiau Cymraeg Canol yn y llyfr, sy'n ei wneud yn adnodd werthfawr hyd heddiw. Ond ei brif amcan oedd gosod seiliau cadarn i'r iaith fel ffurf lenyddol yn yr 20g, gan ddadwneud effaith yr arbrofi mympwyol ag orgraff yr iaith Gymraeg — gan William Owen Pughe ac eraill — a'r cystrawennau Seisnigaidd sy'n nodweddiadol o lawer o weithiau Cymraeg y 19eg ganrif.

Is-deitl y gyfrol yw "Phonology and accidence", a bu rhaid aros tan 1931, ar ôl marwolaeth Syr John, i weld cyhoeddi ei gyfrol Welsh Syntax, sy'n barhad o'r Welsh Grammar.

Llyfryddiaeth

golygu
  • J. Morris Jones (sic), A Welsh Grammar, Historical and Comparative (Rhydychen: Clarendon Press, 1913)

Testun arlein: