Abdülhamid II
Teyrn Tyrcaidd o Dŷ Osman oedd Abdülhamid II (Tyrceg Otomanaidd: عبد الحميد ثانی trawslythreniad: Abd ul-Hamid-i s̱ānī; Tyrceg: II. Abdülhamid; 21 Medi 1842 – 10 Chwefror 1918) a wasanaethodd yn Swltan yr Ymerodraeth Otomanaidd o 1876 i 1909. Efe oedd y 34ain o'r swltanau Otomanaidd, a'r olaf i feddu ar reolaeth effeithiol dros yr ymerodraeth.
Abdülhamid II | |
---|---|
Ganwyd | 21 Medi 1842 Istanbul |
Bu farw | 10 Chwefror 1918 Beylerbeyi Palace |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd |
Plant | Şehzade Mehmed Abid, Hatice Sultan, Şehzade Mehmed Abdülkadir |
Llinach | Ottoman dynasty |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Grand Cross of the Order of the Tower and Sword, Royal Order of Kamehameha I, Urdd Sant Hwbert, Order of the Chrysanthemum, Urdd Brenhingyff Chakri |
llofnod | |
Ganed ef ym Mhalas Topkapı yng Nghaergystennin, prifddinas yr ymerodraeth, yn fab i'r Swltan Abdülmecid I a'i wraig Gircasiaidd Tirimüjgan Kadın. Esgynnodd i'r orsedd ar 31 Awst 1876, yn 33 oed, yn sgil diorseddu ei frawd hŷn, Murad V, a ddioddefai o afiechyd meddwl. Aeth ati i gyhoeddi'r cyfansoddiad cyntaf yn hanes yr ymerodraeth, ar 23 Rhagfyr 1876, yn bennaf gyda'r nod o dawelu meddyliau'r Ewropeaid am gyflafanau Bwlgaria ac i atal ymyrraeth y pwerau mawrion eraill yn y Balcanau. Cyfarfu senedd gyntaf yr ymerodraeth, y Cynulliad Cyffredinol, ym Mawrth 1877, ac ar y cychwyn cafodd Abdülhamid ei amau gan rai o fod yn rhyddfrydiwr. Fodd bynnag, wrth i'w luoedd gael eu trechu yn Rhyfel Rwsia a Thwrci (1877–78), daeth Abdülhamid i gredu ni ellir dibynnu ar gynghreiriaid i'r gorllewin heb iddynt darfu ar fuddiannau a materion mewnol yr ymerodraeth. Rhoes y gorau felly i unrhyw fwriad o ddiwygio rhyddfrydol, gan ddiddymu'r cynulliad a gohirio'r cyfansoddiad yn Chwefror 1878. O hynny allan, am y 30 mlynedd nesaf, rheolai'r Ymerodraeth Otomanaidd yn unbennaeth ormesol, yn byw a gweithio o'r neilltu ym Mhalas Yıldız yng Nghaergystennin, gyda chefnogaeth yr heddlu cudd. Codwyd rhwydwaith telegraff ar draws ei thiriogaethau at ddiben canoli ei rym, a gorfodwyd sensoriaeth lem.
Er gwaethaf ei annhosturi, neu o'r herwydd, gwaethygodd dirywiad yr ymerodraeth, a gwanychodd ei grym rhyngwladol. Meddiannwyd Tiwnisia gan luoedd Ffrainc ym 1881, a daeth yr Aifft dan dra-arglwyddiaeth Prydain ym 1882, gan fygythio gafael y Tyrciaid ar ogledd-ddwyrain Affrica. Trodd Abdülhamid i'r Almaen am gefnogaeth, a chytunwyd ar gydweithio economaidd rhwng y ddwy wlad, gan gynnwys adeiladu'r rheilffordd o Ferlin i Baghdad, gyda'r nod o sefydlu porthladd Almaenig yng Ngwlff Persia. Daeth rhagor o ymyrraeth gan yr Ewropeaid yn sgil gwrthryfel yr Armeniaid (1894) a Rhyfel Groeg a Thwrci (1897).
Defnyddiodd Abdülhamid ban-Islamiaeth i galedu ei absoliwtiaeth ac i alw ar Fwslimiaid y tu hwnt i'r ymerodraeth i'w gefnogi, gan felly creu anawsterau i'r Ewropeaid yn eu trefedigaethau Mwslimaidd. Esiampl ddiriaethol o'r polisi hwn oedd Rheilffordd Hejaz, a gâi ei hariannu gan roddion oddi ar Fwslimiaid o amgylch y byd. Er i'w deyrnasiad ddod â therfyn i'r cyfnod o foderneiddio a elwir Tanzimât, gorchmynnai Abdülhamid aildrefnu'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ogystal â diwygiadau i'r system addysg. Sefydlwyd 18 o ysgolion proffesiynol a Darülfünun (bellach Prifysgol Istanbul), a lluosogodd y niferoedd o ysgolion cynradd, eilradd, a milwrol yn sylweddol.[1]
Tyfodd y gwrthwynebiad i unbennaeth Abdülhamid ymhlith swyddogion y lluoedd arfog, a fuont yn dal dig yn erbyn y swltan yn enwedig am ei fethiant i atal ymyrraeth y pwerau eraill yn y Balcanau. Yn sgil chwyldro milwrol y Tyrciaid Ifainc yng Ngorffennaf 1908, gorfodwyd i Abdülhamid ailgyflwyno'r cyfansoddiad ac adfer y cynulliad, a daeth y Pwyllgor Undeb a Chynnydd i'r brig. Am naw mis olaf ei deyrnasiad, teyrn cyfansoddiadol ydoedd, heb fawr o rym. Ceisiodd Islamyddion, cefnogwyr Abdülhamid, a gwrthwynebwyr eraill y Pwyllgor lansio gwrthchwyldro yn Ebrill 1909, ond methodd ac ar 27 Ebrill cafodd Abdülhamid ei ddiorseddu gan y cynulliad. Fe'i olynwyd gan ei frawd iau, Mehmed V. Treuliodd weddill ei oes mewn caethiwed, yn gyntaf yn Salonica, nes i'r honno gael ei chipio gan Wlad Groeg ym 1912, ac yna ym Mhalas Beylerbeyi yng Nghaergystennin, lle bu farw ym 1918 yn 75 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Abdülhamid II. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Hydref 2023.