Adho Mukha Svanasana (Ci ar i Lawr)
Safle'r corff, sef asana, mewn ymarferion ioga, yw Ci ar i Lawr, a elwir hefyd yn yr iaith frodorol yn Adho Mukha Shvanasana (Sansgrit: अधोमुखश्वानासन IAST: Adho Mukha Śvānāsana).[1][2][3] Gelwir y math yma o osgo yn asana gwrthdro, a chaiff ei ymarfer yn aml fel rhan o ddilyniant llifeiriol o ystumiau, yn enwedig Surya Namaskar, Cyfarchiad i'r Haul.[4]"Adho Mukha Shvanasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 April 2011. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2011.</ref> Mae'r asana'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin mewn ioga modern fel ymarfer corff. Nid oes gan yr asana amrywiadau a enwir yn ffurfiol, ond defnyddir sawl amrywiad chwareus i gynorthwyo ymarferwyr cychwynnol i ddod yn gyfforddus yn yr ystum.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r osgo Ci ar i Lawr (Saesneg: Downward Dog) yn ymestyn llinyn y gar a chyhyrau croth y goes yng nghefn y coesau, a hefyd yn adeiladu cryfder yn yr ysgwyddau. Mae rhai gwefanau poblogaidd yn cynghori yn ei erbyn yn ystod beichiogrwydd, ond canfu astudiaeth arbrofol o fenywod beichiog ei fod yn fuddiol.[5]
Mae Ci ar i Lawr wedi cael ei alw’n “un o'r ystumiau ioga sy'n cael ei adnabod yn fwyaf eang”[6] a’r “safle ioga mwyaf nodweddiadol”.[7] Oherwydd hyn, yn aml, dyma'r asana a ddefnyddir pan fydd yoga'n cael ei ddarlunio mewn ffilm, llenyddiaeth ac mewn hysbysebion. Mae'r asana wedi ymddangos yn aml yn niwylliant y Gorllewin, gan gynnwys yn nheitlau nofelau, paentiad, a chyfresi teledu, ac fe'i awgrymir yn yr enw masnachol, "YOGΛ", y cyfrifiadur plygadwy.[8]
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o debygrwydd yr ystum i'r ffordd y mae ci yn ymestyn wrth godi o'i orwedd. Daw'r enw Sansgrit o adhas (अधस्) sy'n golygu "i lawr", mukha (मुख) sy'n golygu "wyneb", śvāna (श्वान) sy'n golygu "ci",[4] a âsana (आसन) sy'n golygu "safle'r corff".[10]
Ni cheir yr enw yn nhestunau ioga hatha canoloesol, ond disgrifir osgo tebyg, sef y Gajāsana (Osgo'r Eliffant), yn yr Hațhābhyāsapaddhati yn y 18g; mae'r testun yn galw am iddo gael ei ailadrodd "drosodd a throsodd" o safle wyneb i lawr, gorweddol.[11]
Disgrifiwyd ystum tebyg, ynghyd â fformat 5-cyfrif a dull o neidio rhwng ystumiau sy'n debyg i system Ioga Ashtanga Vinyasa, yn y testun Daneg Niels Bukh o ddechrau'r 20fed ganrif Gymnasteg Cyntefig,[14][15] sydd yn ei dro'n deillio o draddodiad Sgandinafaidd o gymnasteg o'r 19g. Roedd y system wedi cyrraedd India erbyn y 1920au ac roedd gan gymnasteg Indiaidd, hefyd, system o ystumiau, o'r enw "dands" (o Sansgrit दण्ड daṇḍa, ffon bren[16] ), wedi'i gysylltu gan neidiau, ac mae un o'r dands yn agos iawn at yr asana yma, Ci ar i Lawr.[13] Yn ogystal, yn y 1920au, poblogeiddiodd ac enwodd Bhawanrao Shriniwasrao Pant Pratinidhi, Rajah Aundh, (1868–1951) arfer Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul), gan ei ddisgrifio yn ei lyfr 1998 Y Ffordd Deg Pwynt i Iechyd: Surya Namaskars.[12][13] lle mae Ci ar i Lawr yn ymddangos ddwywaith yn ei ddilyniant o 12 ystum.[12]
Nid oedd yr ymarferion dand na Surya Namaskar yn cael eu hystyried yn yoga yn y 1930au.[14] Ymgorfforodd Swami Kuvalayananda Ci ar i Lawr yn ei system o ymarferion yn y 1930au cynnar, ac o'r fan honno fe'i cymerwyd gan ei ddisgybl, yr athro ioga dylanwadol Tirumalai Krishnamacharya.[14] Yn ei dro dysgodd BKS Iyengar a Pattabhi Jois, sylfaenwyr Ioga Iyengar a Ioga Ashtanga Vinyasa yn y drefn honno.[14][13]
Disgrifiad
golyguYn yr asana hwn, mae'r pen ar i lawr, ac yn cyffwrdd â'r llawr ar ddiwedd y symudiad, gyda phwysau'r corff ar gledrau'r dwylo a'r traed. Mae'r breichiau wedi'u hymestyn yn syth o flaen yr iogi, lled ysgwydd ar wahân, a'r traed yn droedfedd ar wahân. Cedwir y coesau'n syth, a chodir y cluniau mor uchel â phosib.[17]
Ymdrinnir â'r osgo hwn yn wahanol mewn gwahanol ysgolion ioga. Yn Ioga Iyengar, gellir mynd i mewn i'r osgo o safle gorweddol (wyneb i lawr), gyda'r dwylo wrth ymyl y frest, gan osod y pellter rhwng y dwylo a'r traed.[18] Mewn ysgolion fel Ioga Sivananda, mae'n cael ei ymarfer fel rhan o Surya Namaskar, Cyfarchiad i'r Haul, gan ddilyn Urdhva Mukha Shvanasana (Ci ar i Fyny) trwy anadlu allan, cyrlio bysedd traed oddi tano, a chodi'r cluniau.[19] Yn Ysgol Ioga Bihar, gelwir yr asana yn Parvatasana (Y Mynydd), gyda'r dwylo a'r traed ychydig yn agosach at ei gilydd fel bod ongl y cluniau yn fwy craff; mae'n cael ei gofnodi o ragwth (lunge) Ashwa Sanchalanasana fel amrywiad o Surya Namaskar.[20]
Amrywiadau
golyguMae Ci ar i Lawr yn asana adferol ar gyfer ymarferwyr profiadol, ond gall fod yn waith caled i ddechreuwyr. Gellir amrywio'r ystum trwy blygu'r pengliniau, gan ganiatáu i'r sodlau godi ychydig;[21] trwy gynnal y sodlau, megis gyda mat ioga wedi'i rolio;[21] trwy ostwng un fraich i'r llawr, gan ymestyn y llaw arall ymlaen; neu drwy gyfuniadau o'r rhain.[21]
Mae amrywiadau eraill yn cynnwys plygu un pen-glin a gostwng y glun ar yr ochr honno;[22] "pedlo" bob yn ail, trwy blygu un pen-glin a chodi'r ffêr ar yr ochr honno, yna'r llall, ac yna bachu pob troed yn ei dro y tu ôl i'r ffêr arall;[23] codi un goes, naill ai ei ymestyn yn syth allan, neu blygu'r pen-glin, ac ystwytho ac ymestyn y droed;[23][24] newid bob yn ail rhwng plygu'r ddau ben-glin a sythu'r coesau wrth ddod â'r ysgwyddau ymlaen yn union uwchben y dwylo;[23] a throelli'r corff, gan ymestyn yn ôl ag un llaw i afael yn y ffêr gyferbyn.[23][24]
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Bukh, Niels (2010) [1924]. Primary Gymnastics. Tufts Press. ISBN 978-1446527351.
- Cushman, Anne (2014). Moving into Meditation: A 12-Week Mindfulness Program for Yoga Practitioners. Shambhala. ISBN 978-1611800982.
- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
- Jain, Andrea (2015). Selling Yoga: from Counterculture to Pop culture. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-939024-3. OCLC 878953765.
- Lidell, Lucy; The Sivananda Yoga Centre (1983). The Book of Yoga: the complete step-by-step guide. Ebury. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
- Mallinson, James; Singleton, Mark (2017). Roots of Yoga. Penguin Books. ISBN 978-0-241-25304-5. OCLC 928480104.
- Newcombe, Suzanne (2019). Yoga in Britain: Stretching Spirituality and Educating Yogis. Bristol, England: Equinox Publishing. ISBN 978-1-78179-661-0.
- Saraswati, Swami Satyananda (2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. ISBN 978-81-86336-14-4.
- Singleton, Mark (2010). Yoga Body: the origins of modern posture practice. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-539534-1. OCLC 318191988.
- Swanson, Ann (2019). Science of yoga: understand the anatomy and physiology to perfect your practice. DK Publishing. ISBN 978-1-4654-7935-8. OCLC 1030608283.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Downward-Facing Dog". Yoga Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mawrth 2011. Cyrchwyd 4 Medi 2011.
- ↑ VanEs, Howard Allan (12 Tachwedd 2002). Beginning Yoga: A Practice Manual. Letsdoyoga.com. t. 163. ISBN 978-0-9722094-0-3.
- ↑ Calhoun, Yael; Calhoun, Matthew R. (June 2006). Create a Yoga Practice for Kids: Fun, Flexibility, And Focus. Sunstone Press. t. 36. ISBN 978-0-86534-490-7.
- ↑ 4.0 4.1 "Adho Mukha Shvanasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 April 2011. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2011."Adho Mukha Shvanasana". Ashtanga Yoga. Archived from the original on 23 April 2011. Retrieved 4 November 2011.
- ↑ Polis, Rachael L.; Gussman, Debra; Kuo, Yen-Hong (2015). "Yoga in Pregnancy". Obstetrics & Gynecology 126 (6): 1237–1241. doi:10.1097/AOG.0000000000001137. ISSN 0029-7844. PMID 26551176. "All 26 yoga postures were well-tolerated with no acute adverse maternal physiologic or fetal heart rate changes."
- ↑ YJ Editors (28 Awst 2007). "Downward-Facing Dog". Yoga Journal. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
- ↑ McLennan, Jennifer (23 Mehefin 2011). "Downward dog: Get your butt in the air". The Tico Times. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
- ↑ Stewart, Erin (25 Mawrth 2019). "How Yoga Poses are Used in Advertising". Medium Corporation.
- ↑ Mallinson & Singleton 2017, tt. 95, 124; "the Hațhābhyāsapaddhati's Gajāsana (elephant posture) involves repetitions of what is today known as the adhomukhaśvanāsana (downward dog), a constituent of the modern sun salutation".
- ↑ Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Mallinson & Singleton 2017, tt. 95, 124.
- ↑ 12.0 12.1 12.2 Pratinidhi, Pant (1928). The Ten-Point Way to Health | Surya Namaskars. J. M. Dent and Sons. tt. 113–115 and whole book. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-23. Cyrchwyd 2022-01-06.Pratinidhi, Pant (1928). The Ten-Point Way to Health | Surya Namaskars Archifwyd 2023-01-23 yn y Peiriant Wayback. J. M. Dent and Sons. pp. 113–115 and whole book.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 13.3 Singleton 2010, tt. 180–181, 204–206. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "FOOTNOTESingleton2010" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ 14.0 14.1 14.2 14.3 Singleton, Mark (4 Chwefror 2011). "The Ancient & Modern Roots of Yoga". Yoga Journal.
- ↑ Bukh 2010.
- ↑ "Dandasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2011. Cyrchwyd 11 April 2011.
- ↑ Iyengar 1979, tt. 110–111.
- ↑ Iyengar 1979, tt. 110–111.
- ↑ Lidell 1983, tt. 34–35.
- ↑ Saraswati 2003.
- ↑ 21.0 21.1 21.2 Motz, Erin (9 Chwefror 2015). "3 Ways to Make Downward-Facing Dog Feel Better". Yoga Journal. and its sub-pages.
- ↑ Cushman 2014.
- ↑ 23.0 23.1 23.2 23.3 Copham, K. Mae (19 Mai 2016). "5 Downward Dog Variations To Tone Your Whole Body". Mind Body Green.
- ↑ 24.0 24.1 Buchanan, Jacqueline. "4 Variations for Downward-Facing Dog Pose". Do You Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-01. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2019.