Llanoronwy

pentref yn Sir Fynwy

Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llangatwg Feibion Afel, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanoronwy (Saesneg: Rockfield).[1][2] Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir 2 filltir i'r gogledd-orllewin o dref Trefynwy ar ffordd y B4233.

Llanoronwy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangatwg Feibion Afel Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8303°N 2.7539°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO482149 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Llifa Afon Mynwy heibio i'r pentref. Cysegrir eglwys Llanoronwy i'r Santes Cenedlon. Ceir ffynnon sanctaidd ger yr eglwys. Cofnododd Edward Lhuyd fod sant wedi cael ei ferthyru yno trwy dorri ei ben a bod smotiau coch ei "waed" ar gerrig y ffynnon.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[5]

Eglwys Llanoronwy

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000). d.g. Cenedlon.
  4. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  5. Gwefan Senedd y DU

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato