Albert Ruskin Cook

Meddyg nodedig o'r Deyrnas Unedig oedd Albert Ruskin Cook (22 Mawrth 1870 - 23 Ebrill 1951). Cenhadwr meddygol Prydeinig yn Wganda ydoedd, a sefydlodd Ysbyty Mulago ac Ysbyty Mengo yn Wganda. Cafodd ei eni yn Hampstead, Y Deyrnas Unedig ac addysgwyd ef yng Ngholeg y Drindod. Bu farw yn Kampala[1].

Albert Ruskin Cook
Ganwyd22 Mawrth 1870 Edit this on Wikidata
Hampstead Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 1951 Edit this on Wikidata
Kampala Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmeddyg Edit this on Wikidata
PriodKatharine Cook Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Cydymaith Urdd St.Mihangel a St.Siôr, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Ganwyd Cook yn Hampstead, Llundain ym 1870. Ei rieni oedd Dr. W.H. Cook a Harriet (née Bickersteth) ei wraig. Graddiodd o Goleg y Drindod, Caergrawnt ym 1893 gyda gradd Baglor y Celfyddydau, ac o Ysbyty Sant Bartholomew yn 1895 fel Baglor Meddygaeth. Daeth yn Ddoethur Meddygaeth ym 1901.

Gyrfa golygu

Ym 1896 aeth Albert Cook i Wganda gyda Chymdeithas Genhadol yr Eglwys (corff Cenhadol Eglwys Loegr), ac ym 1897 sefydlodd Ysbyty Mengo, yr ysbyty hynaf yn Nwyrain Affrica. Ym 1899 daeth e'i frawd hŷn, John Howard Cook, llawfeddyg ac offthalmolegydd i ymuno a'r gwaith.

Yr hyn sy'n nodweddi yrfa Cook fel meddyg cenhadol oedd ei ymgais i hyffordd brodorion Affricanaidd i ddyfod yn weithwyr iechyd. Roedd y mwyafrif o genhadon ar y pryd yn darparu gwasanaethau iechyd heb weld y budd o rannu eu gwybodaeth am feddygaeth efo'r brodorion.

Sefydlodd Cook a'i wraig ysgol i fydwragedd yn Mengo a chyhoeddi llawlyfr bydwreigiaeth yn Ganda, yr iaith leol; (Amagezi Agokuzalisa; a gyhoeddwyd gan Sheldon Press, Llundain).

Dechreuodd Albert Cook hyfforddi Cynorthwywyr Meddygol Affricanaidd yn Mulago yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn y 1920au, anogodd agor Coleg meddygol a oedd yn hyfforddi Affricanaidd i lefel a ddiffiniwyd gan yr Ymerodraeth Brydeinig yn llawfeddyg is-gynorthwyol Asiaidd. Tyfodd yr ysgol i fod yn Ysgol Feddygol lawn yn ystod ei oes.

Sefydlodd Cook ganolfan driniaeth ar gyfer y clefydau gwenerol a salwch cysgu ym 1913, a datblygodd i fod yn Ysbyty Mulago yn ddiweddarach. Gwasanaethodd fel llywydd Cangen Wganda o Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) rhwng 1914 a 1918, ac yn ystod y cyfnod hwnnw sefydlodd ysgol i gynorthwywyr meddygol Affricanaidd. Fe'i dyrchafwyd yn Swyddog yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1918, daeth yn Gymrawd yn Urdd St Michael a St George, ac fe'i hurddwyd yn Farchog Baglor ym 1932. Gwasanaethodd fel llywydd y BMA yn Wganda am ail dymor rhwng 1936 a 1937.

Ledi Katherine Cook golygu

Priododd Cook a Katharine Timpson, nyrs cenhadol, ym 1900, bu iddynt dwy ferch a mab[2].

Katharine Timpson, darpar wraig Cook oedd metron Ysbyty Mengo rhwng 1897 a 1911. Bu hefyd yn gweithio fel Prif Uwch-arolygydd Bydwreigiaeth ac Arolygydd Canolfannau Gwledig.

Bu'n rhan o'r gwaith i sefydlu Ysgol Hyfforddiant Mamolaeth Ledi Coryndon[3] ac yn sefydlydd Coleg Hyfforddi Nyrsiaid ym 1931.

Marwolaeth golygu

Bu farw Ledi Cook ym 1938 a Syr Albert Cook ym 1951 yn Kampala. Claddwyd Syr Albert a'r Ledi Cook yn Eglwys Gadeiriol St Paul, Namirembe Hill, Kampala.

Gwobrau golygu

Enillodd Albert Ruskin Cook y gwobrau canlynol o ganlyniad i'w waith:

  • Medal gyda dau glesbyn am ei wasanaethau yn ystod gwrthryfel Nubia 1897-8.
  • Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)
  • Cydymaith Urdd St.Mihangel a St.Siôr
  • Marchog Baglor
  • Medal y Jiwbili (1935)
  • Medal y Coroni (1937)[4].

Cyfeiriadau golygu