Alfonso Daniel Rodríguez Castelao

Ysgrifennwr, arlunydd, meddyg a gwleidydd Galisieg (1886-1950)

Roedd Castelao (ganed Alfonso Daniel Rodríguez Castelao, 30 Ionawr 18867 Ionawr 1950), yn wleidydd, ysgrifennwr, arlunydd, cartwnydd, dramodydd a doctor.

Alfonso Daniel Rodríguez Castelao
GanwydAlfonso Daniel Manuel Rodríguez Castelao Edit this on Wikidata
30 Ionawr 1886 Edit this on Wikidata
Rianxo Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 1950 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Galisia Galisia
Alma mater
  • Prifysgol Santiago de Compostela Edit this on Wikidata
Galwedigaethcartwnydd dychanol, arlunydd, llenor, gwleidydd, meddyg Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPartido Galeguista Edit this on Wikidata
PriodVirxinia Pereira Renda Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd y ffigwr pwysicaf diwylliant Galisia yn yr 20g gan gefnogi buddiannau pobl, diwylliant ac iaith y wlad. Yn aelod amlwg o'r mudiad Xeración Nós (Cenhedlaeth Ni), roedd yn un o sylfaenwyr ac yn llywydd y Partido Galeguista (Y Blaid Galisieg).[1][2]

Roedd yn aelod seneddol yn cynrychioli buddiannau Galisia ym Madrid yn ystod adeg y Weriniaeth ac yn ystod y Rhyfel Cartref (1936-1939). Ar ôl i fuddugoliaeth y lluoedd Ffasgaidd o dan yr unben Francisco Franco roedd Castelao yn rhan o lywodraeth weriniaethol Sbaen yn alltud. Dadleuodd dros brosiect o'r stad hunanlywodraeth ar gyfer Galisia, fel rhan o Sbaen ffederal aml-genedlaethol.[1][2]

Ganwyd Castelao yn Galisia ym 1886. Ar ôl treulio ei flynyddoedd cynnar yn yr Ariannin (mudodd lawr o bobl Galisia i dde America, yn arbennig yr Ariannin), dychwelodd i Galisia ym 1900 ac astudio meddygaeth, cyn gweithio fel gwas sifil wrth ddatblygu fel arlunydd ac ysgrifennwr.[3]

Ymunodd Castelao rengoedd mudiad cenedlaetholgar Galisia a ddaeth i'r amlwg ym 1918, gan ddod yn arweinydd ac yn ffigwr yn gyflym. Goroesodd ganlyniadau creulon ac uniongyrchol Rhyfel Cartref Sbaen yn ystod haf 1936, yn ffoi am loches ym Madrid, Barcelona a Valencia, cyn ymgartrefu o'r diwedd yn Buenos Aires ym 1940, gan gyfansoddi ar hyd y llwybrau alltud hyn y deunydd a fyddai'n ffurfio ei gampwaith Sempre en Galiza (Yn Galisia am Byth).[3]

Bu farw Castelao yn 64 oed ym 1950 o ganser yr ysgyfaint yn Buenos Aires ond cafodd newyddion ei farwolaeth ei sensro gan lywodraeth Sbaen. Pan ddaeth gyfnod unbennaeth Ffasgaidd Sbaen i’r ben ar ddiwedd, cafodd weddillion Castelao eu dychwelyd i Galisia ym 1984 gyda thorfeydd enfawr ar y strydoedd yn y talu eu parch ond hefyd llawr yn gweiddu Os que o exiliaron, agora lle deron honores. (y rhai wnaeth ei alltudo, nawr yn rhoi anrhydedd). Mae ei weddillion heddiw yn gorwedd yn Santiago de Compostela.[4]

Gwaith

golygu

Yn 1920 cyhoeddodd y cylchgrawn Nós (Ni) yn yr iaith Galisieg. Yn 1922 ysgrifennodd y nofel Un ollo de vidro (Llygaid o wydr), er yn ddwyieithog yn Galisieg a Sbaeneg, ysgrifennodd ond yn Galisieg. Yn 1924 fe ymunodd â’r Seminário de Estudos Galegos (Seminar Astudiaethau Galisieg) a ffurfiodd Côr Polyffonig Pontevedra. Yn 1926 cyhoeddodd y llyfr Cousas (Pethau). Teithiodd i Lydaw yn 1928 i astudio’r tebygrwydd rhwng croesau Cristnogol yn Llydaw a Galisia a chyhoeddodd As cruces de pedra na Bretaña (Y croesau cerrig o Lydaw).

Yn arlunydd dawnus bu'n gartwnydd yn ei ddyddiau cynnar gan droi at ddarlunio erchyllterau'r rhyfel gantref. Defnyddiwyd rhai o'i dyluniadau ar stampiau Weriniaeth Sbaen. Dyluniodd cloriau i'w cylchgrawn Nós ac mae ei dyluniad o Môr-forwyn gyda’r geiriad denantes mortos que escravos (yn farw cyn caethiwon) wedi'i fabwysiadu yn Galisia heddiw ac i'w weld ar grysau-T a phosteri.[5]

Gwrthwynebodd Castelao bod yr iaith Sbaeneg yn cael ei gorfodi ar bobl Galisia a mynnodd y dylai'r iaith Galisieg fod yn iaith swyddogol a phrif iaith weinyddiaeth ac addysg.

Dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936 pan roedd Castelao ym Madrid yn cyflwyno canlyniadau refferendwm dros Ddeddf Datganoli Galisia, a gafodd ei chymeradwyo gan 98% o bleidleiswyr. Yn ystod y rhyfel cefnogodd y Weriniaeth yn erbyn y Ffasgwyr a threfnodd milwyr Galisieg gan gyd weithio gyda’r Blaid Gomiwnyddol

Yn 1938, fe'i yrrwyd gan Lywodraeth Weriniaethol Sbaen i’r Undeb Sofietaidd, Yr Unol Daleithiau a Cuba i drio ennill cefnogaeth i'r ochr gwrth Ffasgaidd. O Efrog Newydd hwyliodd i Buenos Aires, ble yn 1941 perfformiwyd ei ddrama Os vellos non deben de namorarse (Dylai hen ddynion ddim syrthio mewn cariad) ar lyfan i alltudion Galisieg.

Dros gyfod y rhyfel gartref ac wedyn yn alltud ysgrifennodd Sempre en Galiza (Yn Galisia am Byth) sydd yn cael ei weld fel un o waithfeydd sylfaen i hunaniaeth a meddylfryd Galisia modern. Gan roi agwedd alternatif ar hanes Sbaen, mae'n dadlau dros amddiffyn amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol, gan ddadlau dros hunanlywodraeth Galisia, Catalunya a Gwlad y Basg.[6]

Cyfeiriadau

golygu