Ystrad Clud
Teyrnas Frythonig yn yr Hen Ogledd, yn yr ardal sydd nawr yn Strathclyde yng ngorllewin yr Alban oedd Ystrad Clud neu Strat Clut (Gaeleg: Srath Chluaidh). Gelwid y deyrnas hefyd yn Alt Clut (Cymraeg Diweddar "Allt Clud"), o'r enw am yr hyn a elwir heddiw'n Graig Dumbarton, lle roedd prifddinas y deyrnas. Efallai fod y deyrnas wedi datblygu o diriogaeth llwyth y Damnonii, a grybwyllir gan Ptolemi yn y cyfnod Rhufeinig.
Math o gyfrwng | gwlad ar un adeg, teyrnas |
---|---|
Daeth i ben | 1058 |
Rhan o | Yr Hen Ogledd |
Dechrau/Sefydlu | 410 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid oes sicrwydd ymhle'r oedd ffiniau'r deyrnas, ond mae'n debyg ei bod yn ymestyn o ardal Loch Lomond, ar hyd dyffryn Afon Clud ac i'r de at ardal Aeron (o gwmpas Ayr heddiw). Cofnodir i "Coroticus" (Ceredig ap Cunedda) dderbyn llythyr gan Sant Padrig. Disgynnydd iddo ef oedd Rhydderch Hael, oedd yn cydoesi ag Urien Rheged. Yn 642, cofnodir i Frythoniaid Alt Clut dan Owain I, mab Beli I orchfygu byddin Dál Riata a lladd eu brenin, Dyfnwal Frych (Domnall Brecc). Ymgorfforwyd pennill yn dathlu'r fuddugoliaeth yma yn nhestun Y Gododdin.
Cofnodir anrheithio Allt Clud gan Lychlynwyr Dulyn yn 870. Yn ddiweddarach meddiannwyd y diriogaeth gan Deyrnas Alba a daeth yn rhan o Deyrnas yr Alban.
Cyhoeddwyd yr efengyl yn Ystrad Clud gan Sant Cyndeyrn, a sefydlodd fynachlog ar y safle a dyfodd i fod yn ddinas Glasgow. Yn ôl un fuchedd, ganwyd Gildas yn Arecluta (Ystrad Clud).
Diwedd Ystrad Clud
golyguCredir i Edmund I, brenin Lloegr orchfygu'r ardal yn 945 gyda chymorth gwŷr Dyfed. Yn ôl ffynhonnell arall, fodd bynnag, daeth annibyniaeth Ystrad Clud i ben ar farwolaeth Owain II (Owain Foel) yn 1018.
Llyfryddiaeth
golygu- Alcock, Leslie, Kings and Warriors, Craftsmen and Priests in Northern Britain AD 550–850. Society of Antiquaries of Scotland, Caeredin, 2003. ISBN 0-903903-24-5
- Lowe, Chris, Angels, Fools and Tyrants: Britons and Anglo-Saxons in Southern Scotland. Canongate, Caeredin, 1999. ISBN 0-86241-875-5