Gwleidydd yw Altaf Hussain ac aelod o'r blaid Geidwadol. Mae'n Aelod o'r Senedd dros ranbarth Gorllewin De Cymru ers Etholiad 2021, ac fe wasanaethodd gyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 2015 a 2016. Mae'n llawfeddyg orthopedig ymgynghorol wedi ymddeol.[1] Cyn diddymu'r pedwerydd cynulliad, eisteddodd ar y Pwyllgor Iechyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac roedd yn Weinidog Cysgodol dros Wasanaethau Cymdeithasol. Gorchfygwyd ef yn etholiadau Cynulliad Cymru 2016. Yn 2017 cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ym mis Ionawr 2018 penodwyd yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Brynawel Rehab UK.

Altaf Hussain
AS
Aelod Cynulliad
dros Gorllewin De Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2021
Rhagflaenwyd ganSuzy Davies
Mewn swydd
19 Mai 2015 – 5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganByron Davies
Dilynwyd ganDai Lloyd
Manylion personol
GanedSrinagar, India
Plaid gwleidyddolCeidwadwyr
CartrefPen-y-fai
Addysg
GwaithLlawfeddyg
Gwefanwww.altafhussain.wales

Addysg golygu

Roedd Hussain yn fyfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Azad Jammu & Kashmir, lle cafodd ei gymhwyster MBBS. Yn 1972 graddiodd fel Meistr Llawfeddygaeth o Brifysgol Kashmir, ac ym 1982 dyfarnwyd iddo ail radd Meistr Llawfeddygaeth, mewn llawfeddygaeth Orthopedig, gan Brifysgol Lerpwl.

Gyrfa feddygol golygu

Roedd Hussain yn llawfeddyg orthopedig i'r GIG yng Nghymru cyn ei ddewis fel ymgeisydd Cynulliad i'r Ceidwadwyr [2] ac roedd wedi'i leoli yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Fel llawfeddyg, dangoswyd ei waith yn datblygu dull Notch Trial mewn llawfeddygaeth amnewid pen-glin llawn[3] yng Nghynhadledd Orthopedig y Byd. Arloesodd hefyd yn dysgu'r dechneg cyfeirio mynegai bawd wrth amnewid clun llawn wrth gyfarwyddo llawfeddygon dan hyfforddiant. 

Dyfarnwyd y Gwobr Tîm Arferion Gorau 2007 iddo, a hefyd Gwobr Gogoniant India 2008.

Mae Hussain wedi gweithio'n helaeth yn ei wlad enedigol, Kashmir, i wella mynediad at ofal iechyd yn yr hyn y mae'n ei alw'n 'ardaloedd ymylol' ac wedi gweithio'n agos gyda'r Prif Weinidog, Mufti Mohammad Sayeed yn yr ardal hon. Cyhoeddwyd ysgrif goffa Hussain o Sayeed a'i adroddiad am eu hymglymiad proffesiynol gyda'i gilydd yn y papurau newydd Greater Kashmir a Rising Kashmir. [4][5]

Mae'n parhau i fod yn weithgar mewn ymchwil orthopedig ac yn parhau i draddodi darlithoedd ar sail 'pro bono'.

Ym mis Medi 2016-Medi 2017 penodwyd Hussain yn ymddiriedolwr Age Cymru Bae Abertawe.

Bywyd gwleidyddol golygu

Mae Hussain wedi bod yn gefnogwr i Blaid Geidwadol y DU ers yr 1980au, ac wedi dal sawl swydd ym Mhlaid Geidwadol Cymru, gan gynnwys Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas Geidwadol Pen-y-bont ar Ogwr - y mae wedi bod yn aelod gweithgar ohoni ers 2009. Mae Altaf wedi gwasanaethu ar Fwrdd Plaid Geidwadol Cymru er 2012, pan etholwyd ef yn gadeirydd Ardal Gorllewin De Cymru.

Yn etholiad cyffredinol 2015 y Deyrnas Unedig safodd Hussain dros Geidwadwyr Cymru yn etholaeth Dwyrain Abertawe.[6]

Ar ôl ymladd etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 fel ymgeisydd rhestr yng Ngorllewin De Cymru, olynodd Hussain Byron Davies fel AC yn 2015 yn dilyn etholiad Byron Davies i San Steffan.

Yn 2015 ail-ddewiswyd Hussain gan Blaid Geidwadol Cymru fel ymgeisydd rhanbarthol ar gyfer Gorllewin De Cymru, ond bu’n aflwyddiannus yn etholiadau Cynulliad Cymru 2016.

Mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd cymunedol ym Mhen-y-fai, Pen-y-bont ar Ogwr ers 2011 ac mae'n llywodraethwr Ysgol Gatholig Aberkenfig.

Etholwyd Hussain yn Gynghorydd Ceidwadol Cymru dros Penyfai yn etholiad llywodraeth leol 2017 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae wedi byw yn y ward wedi byw ers blynyddoedd lawer.

Ail-etholwyd Hussain i'r Senedd yn etholiad 2021, o'r rhestr ranbarthol ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Altaf Hussain welcomed as new AM | Welsh". Welshconservatives.com. 2015-05-19. Cyrchwyd 2016-05-11.
  2. "Doctor to fight Swansea East seat for Tories". South Wales Evening Post. 2014-12-13. Cyrchwyd 2016-05-11.
  3. Prasad, Kodali; Hussain, Altaf (14 September 2012). "Notch Trial: a unique novel concept in posterior stabilised total knee replacement". Orthopaedic Proceedings 94-B (SUPP XXXVII): 524. ISSN 2049-4416. http://www.bjjprocs.boneandjoint.org.uk/content/94-B/SUPP_XXXVII/524. Adalwyd 4 April 2017.
  4. "Medicine to the periphery". M.greaterkashmir.com. 20 January 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-10. Cyrchwyd 2016-05-11.
  5. Hussain, Altaf (21 January 2016). "Meeting Mufti Sayeed". Rising Kashmir. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-05. Cyrchwyd 4 April 2017.
  6. "Full Welsh results from General Election 2015". Wales Online. 8 May 2015. Cyrchwyd 4 April 2017.
  7. Ruth Mosalski; Sian Burkitt (2021-05-07). "Plaid Cymru and Conservatives take two Senedd seats each in South Wales West region". Wales Online. Cyrchwyd 2021-05-09.