Y Bacchai
Cyfaddasiad o waith Euripides yw'r ddrama Y Bacchai gan Gareth Miles ar gyfer Canolfan Astudiaethau Addysg a chwmni theatr Dalier Sylw ym 1991.
Awdur | Euripides |
---|---|
Cyhoeddwr | CAA |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Hydref 1991 |
Argaeledd | ar gael |
ISBN | 1 85644 087 7 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Cyfres | Dramâu Dalier Sylw |
Seiliwyd y cyfaddasiad ar gyfieithiad Ffrangeg Henri Grégoire a Jules Meunier, o'r ddrama wreiddiol gan Euripides, wedi'i greu gan ddefnyddio ieithweddau Cymraeg hynafol.
Mae'n argyfwng ar ddinas Thebai. Er mwyn dial ar y brenin Penthews a'i deulu am sarhau enw Semele, mam Dionysios, [Dionysus] a gwadu ei awdurdod ef, mae Dionysos wedi meddiannu holl fenywod Thebai a'u hudo i'r mynyddoedd. Yno mae'r menywod - Y Bacchai - yn addoli Dionysios. Er gwaetha ymdrechion y proffwyd Tiresias, a'r cyn frenin Cadmos i annog Penthews i gydnabod Dionysios, nid yw'r brenin ymffrostgar yn plygu. Mae dialedd Dionysios yn frawychus.[1]
Cyhoeddwyd y gwaith yn wreiddiol gan CAA a Dalier Sylw ym 1991, ac yna ei ail-gyhoeddi yn 2003 gan yr un Wasg.
Cymeriadau
golygu- Dionysios - duw'r gwin [Dionysus]
- Penthews - arglwydd Thebai
- Cadmos - sylfaenydd Dinas Thebai a thaid Penthews
- Teiresias - proffwyd dall a gweledydd
- Agawe - mam Penthews a merch Cadmos
- Y Negesydd Cyntaf
- Yr Ail Negesydd
- Y Bacchai
Cynyrchiadau Nodedig
golyguLlwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Dalier Sylw ym 1991. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Ceri Sherlock.; cynllunydd Eryl Ellis; cast:[2]
- Dionysios - Rhodri Evan
- Penthews - Huw Garmon
- Cadmos - Owen Garmon
- Teiresias - Noel Williams
- Agawe - Christine Pritchard
- Y Negesydd Cyntaf - Geoffrey Morgan
- Yr Ail Negesydd - Gareth Morris
- Y Bacchai - Alun Elidyr, Lisa Palfrey, Grug-Maria Davies, Sian Summers, Siân Rivers, Nerys Lloyd, Rhian Davies a Nia Medi,
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Miles, Gareth (1991). Y Bacchai. CAA.
- ↑ "Y Bacchai - archif sioeau Dalier Sylw". www.users.globalnet.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-25.