Cwmni theatr arbrofol Gymraeg yng Nghaerdydd oedd Theatrig, dan ofal y cyfarwyddwr Ceri Sherlock. Daeth yn weithredol ym 1984 wedi i Cwmni Theatr Cymru ddod i ben, a bu'n weithgar tan 1990.[1]

Theatrig
CrëwrCeri Sherlock
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1984
Daeth i ben1990

Cefndir

golygu

"Er gwaethaf tranc Cwmni Theatr Cymru ym 1984" noda Roger Owen yn ei gyfrol Ar Wasgar, "...ym mlynyddoedd canol y 1980au, gwelwyd dau gwmni'n ymffurfio a fynnai atgyfodi'r theatr honno, fel petai [...] Mynnai'r naill, sef Theatrig, ddatblygu'r math o waith a gyflwynwyd gan Gwmni Theatr Cymru rhwng 1982 a 1984 dan gyfarwyddyd artistig Emily Davies, tra bod y llall, sef Cwmni Theatr Gwynedd, a'i fryd ar adfer y math o waith a gyflwynwyd cyn 1982, pan oedd y cwmni dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts. Dengys hynt a helynt gwrthgyferbyniol Theatrig a Chwmni Theatr Gwynedd pa mor rhanedig oedd y gynulleidfa erbyn tua chanol y 1980au".[1]

Ym mlwyddyn olaf Cwmni Theatr Cymru, [1983] fe gyfarwyddodd y Ceri Sherlock "ifanc" [25 oed ar y pryd] ddau gynhyrchiad arbrofol a mentrus o Tŷ ar y Tywod gan Gwenlyn Parry a chyfieithiad o Tair Chwaer gan Anton Chekhov. "Dau gynhyrchiad a ysgogodd lu o wahanol fathau ar ymateb", yn ôl Roger Owen, "...gan gynnwys cefnogaeth frwd, dryswch a chondemniad neu'r cyfan, yn gymysg oll i gyd", ychwanegodd.[1]

"Cyffrowyd Sherlock gan y profiad o gyflwyno'r dramâu hyn, ac, er gwaetha'r elfen negyddol yn ymateb y gynulleidfa, mynnodd weithio yn yr un ffordd with gyflwyno cynyrchiadau Theatrig, yn y gobaith y deuai mwy a mwy o aelodau'r gynulleidfa i werthfawrogi techneg y cwmni a'r egwyddorion y tu ôl i hynny."[1]

Mae yna elfen o hunan ganmoliaeth dybryd yn hanes swyddogol y cwmni, ac yng nghyfrol academaidd Roger Owen. Fel "cwmni tethiol clasurol amlycaf Cymru" y cyfeiriodd Theatrig at eu hunain ar ddeunydd marchnata y sioe Hamlet ym 1988, gan fynd ymlaen i nodi eu bônt "yn parhau i ychwanegu at yr enw ardderchog sydd ganddo eisoes drwy fwrw golwg newydd ar ddrama sy'n sicr o fod yr enwocaf (a'r un â ddyfynnir amlaf!) yn holl lenyddiaeth Lloegr."[2] Mater o farn bersonol yn unig yw "ardderchogrwydd" y cwmni, gan bod yr adolygiadau yng Ngwasg y cyfnod yn nodi fel arall.

Parhau â'i duedd gor-ganmoliaethus wna Owen drwy nodi bod Theatrig yn cyflwyno "dramâu clasurol y theatr Ewropeaidd, ynghyd â rhai o 'glasuron' y traddodiad theatr Cymraeg [...] mewn arddull flaengar (yng nghyd-destun y theatr Gymraeg) yn deillio o waith Bertolt Brecht.[1] Ond bu'n rhaid iddo gydnabod hefyd er gwaetha'r "llwyddiant artistaidd" yn ei farn ef, bod gweithgarwch y cwmni wedi dod "i ben yn gynamserol ym 1990".[1]

"Prin fod y cwmni'n bodoli fel sefydliad ffurfiol o gwbl. Yn achlysurol y dôi'r aelodau at ei gilydd, pan fyddai arian ar gael ar gyfer cynhyrchiad a phan fyddai actorion y cwmni ar gael i'w cyflogi; ac ni feddai'r cwmni ei system weinyddol barhaol ei hun."[1]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr Pont Steffan 1984

"Nod Sherlock oedd rhoi sioc i'r gynulleidfa, a'i chymell i ystyried y ddrama mewn ffordd gwbl newydd. Yn benodol, mynnai herio'r syniadau arferol am y berthynas rhwng y dramodydd a'i ddeunydd, a hefyd am y gwerthoedd ac arferion sathredig hynny a oedd yn sail i'r theatr brif-ffrwd gonfensiynol. Oherwydd anghydnawsedd y gosod dewisedig, gorfodwyd i'r gynulleidfa ailystyried natur y ddrama, y berthynas garwriaethol a chymdeithasol rhwng Jean (Richard Elfyn) a Julia (Rhian Morgan), ac arwynebolwydd dehongliad confensiynol y theatr brif ffrwd o ddramâu mawr y mudiad naturiol."[1]

  • Yr Arth (1984) gan Chekhov (cwmni P:84)
  • Bivouac (1984) darlleniad o ddrama newydd gan Meirion Pennar (cwmni P:84)

Yn Hydref 1984, teithwyd Julia o dan yr enw Theatrig

"Collwyd yr elfen ddeifiol [...] pan deithiodd y ddrama i theatrau ledled Cymru rai misoedd yn ddiweddarach, ond, er gwaethaf hynny, roedd olion techneg theatraidd Ceri Sherlock i'w gweld o hyd."[1]

 
Taflen hysbysebu Hamlet a Godot gan Theatrig 1988

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988 a wedyn ar daith:

  • Hamlet (1988) gan Shakespeare yn y Chapter, Caerdydd. "Mae'n debyg mai Hamlet yw'r ddrama orau a ysgrifennwyd erioed", noda deunydd marchnata'r cynhyrchiad, "Adroddir hanes tri mab a gafodd gam drwy i gymdeithas eu llygru, yn ceisio dial mewn tair ffordd wahanol. Dim ond un ohonynt sy'n Ilwyddo - aiff y Ileill yn aberth. Mae'r ddrama'n ymgorffori bywiogrwydd a hwyl a rhamant llyfr poblogaidd cyfoes a dialedd ac emosiwn a drychiolaethau a llofruddiaethau melodramatig nofel Gothig."[2]

Parhau wnaeth yr hunan ganmol drwy ddatgan bod y cast yn cynnwys "llawer o brif actorion ac actoresau Cymru, gydag Alun Elidyr yn cymryd rhan y tywysog Hamlet."[2] Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Ceri Sherlock.

 
Cefn y daflen hysbysebu Godot a Hamlet Theatrig 1988

Nodwyd ar yr un daflen bod eu "[h]addasiad deinamig a beiddgar o Waiting for Godot gan Beckett" [...] yn mynd ar daith drwy Gymru yn yr Hydref" sef cynhyrchiad "Rhys Powys o Godot." [2] Rhaid cofio mai 26 oed oedd Powys ar y pryd a Sherlock yn 30 oed.

"Dod â chymeriadau a syniadau'r ddrama wreiddiol i'r Wythdegau, gan gyflwyno "punk" canu dawnsio er mwyn Malu y muriau fel y gall pob un, waeth beth fo'i oed, fwynhau'r ddrama yn ei holl agweddau - y doniol a'r dwys."[2]

Hysbysebwyd "y cwmni" sef Alun ap Brinley, Richard Elfyn, Alun Elidyr, Russell Gomer, Myfanwy Talog, Judith Humphreys, Richard Lynch, Llio Silyn, Rhian Morgan, Eryl Phillips, Rhys Powys, Clive Roberts, Nicolas Ros, Trefor Selway a Ronnie Wiliams.

Gwahoddwyd Simon Jones hefyd i'r cwmni ar gyfer Godot gyda gweddill y cwmni technegol fel â ganlyn : Cynllunwyr: Simon Banham, Richard Aylwin; Rheolwr y Cwmni: Ynyr Wiliams; Technegwyr: Paul Davies, Emyr Jenkins, Russell Gomer a Jane Eleri.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Owen, Roger (2003). Ar Wasgar. Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Taflen hysbysebu y sioe Hamlet gan Theatrig. 1988.