Alwyn Sheppard Fidler

pensaer Cymreig

Roedd Alwyn Gwilym Sheppard Fidler (8 Mai, 19094 Ionawr, 1990) yn bensaer a chynllunydd tref Cymreig. Gwasanaethodd fel prif bensaer tref newydd Crawley o 1947 i 1952 a Phensaer Dinas Birmingham o 1952 i 1964.[1]

Alwyn Sheppard Fidler
Ganwyd8 Mai 1909 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1990 Edit this on Wikidata
Reigate Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpensaer, cynlluniwr trefol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Fidler yn Nhreffynnon, Sir y Fflint yn fab i William Ernest Fidler, athro, a Phoebe Maud, née Williams ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Treffynnon ac Ysgol Pensaernïaeth Prifysgol Lerpwl gan raddio ym 1932. Bu'n astudio wedyn yn yr Unol Daleithiau fel Efrydydd y Fuddugoliaeth o dan nawdd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), ac yna ym 1933 aeth i'r Ysgol Brydeinig yn Rhufain fel Efrydydd Rhufeinig .[2]

Dechreuodd ei yrfa yn gweithio i gwmni pensaernïol Gray Wornum a Herbert J. Rowse ym 1934.[1]

Fe'i penodwyd yn brif bensaer i'r Land Settlement Association ym 1937. Roedd hon yn fenter gan y llywodraeth i ailsefydlu gweithwyr di-waith o ardaloedd difreintiedig. Yn 1938 symudodd i fod yn brif bensaer a chynghorydd technegol i Fanc Barclays. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn uwch swyddog gwybodaeth dechnegol yn adran ymchwil ac arbrofion y Weinyddiaeth Diogelwch Cartref (1940-46). Gwasanaethodd hefyd yn y Gwarchodlu Cartref.[1]

Crawley

golygu

Yn 1947 penodwyd Fidler yn brif bensaer ar gyfer Tref Newydd Crawley.[3] Roedd adeiladu'r dref newydd yn rhan o gynllun llywodraethol i wasgaru pobl a diwydiant ar ôl y rhyfel i drefi newydd ac estynedig. Enillodd fedal y Weinyddiaeth Tai a Llywodraeth Leol ym 1951, 1952, a 1954 am ei waith.[4]

Birmingham

golygu

Yn 1952 symudodd Fidler i fod yn bensaer cyntaf dinas Birmingham. Ym Mirmingham roedd yn gyfrifol am ddarparu ardaloedd preswyl cymysg ac o ansawdd uchel. Enillodd ystadau Fferm Lyndhurst a Hawkesley Moat a gynlluniwyd ganddo wobrau'r Ymddiriedolaeth Ddinesig ym 1961 a dechreuodd ei ddyluniadau ymddangos ar dudalennau'r wasg broffesiynol. Roedd hefyd yn weithgar yn hyrwyddo canolfan ddinesig ar gyfer y ddinas.[5]

Fe'i penodwyd yn CBE ym 1963 am ei waith pensaernïol. Tra ym Mirmingham parhaodd i ymwneud â thai a threfi newydd trwy gynnal astudiaeth ddichonoldeb i archwilio'r posibilrwydd o sefydlu tref newydd arall yn Sir Amwythig. Daeth hwn yn Telford, ac ym 1976 dewiswyd ei bractis allan o 300 o ymgeiswyr i gynhyrchu prif gynllun y dref.[6]

Gadawodd Sheppard Fidler Birmingham ym 1964 yn rhannol am resymau gwleidyddol. Nid oedd ei agwedd ofalus at ddylunio ac adeiladu yn cynhyrchu tai a gwblhawyd yn gyflym, sef yr hyn roedd rai cynghorwyr megis yr arweinydd Llafur, Harry Watton, yn dymuno.[1]

Wedi Birmingham

golygu

Ar ôl gadael Birmingham, sefydlodd Sheppard Fidler ei ymarfer pensaernïol a chynllunio trefol ei hun yn Llundain, AG Sheppard Fidler & Associates, lle'r bu'n gweithio hyd 1974. Parhaodd i weithio ar nifer o brosiectau tai graddfa fawr, gan gynnwys tai ar gyfer gweithwyr y lluoedd arfog yn Woolwich, de-ddwyrain Llundain, a Brize Norton, Swydd Rydychen. Yn ogystal, ymgymerodd y practis, a oedd wedi'i leoli yn Epsom, â gwaith pensaernïol i'r cwmni peirianneg sifil W. S. Atkins & Partners tan 1978. Cwblhaodd Atkins a Sheppard Fidler gynllun strwythur ar gyfer Shannon New Town, Iwerddon (1972); canolfan siopa y Podium yng nghanol Caerfaddon (1989), a Phrifysgol Gwlff Arabia, Bahrain. Comisiwn mwyaf adnabyddus Sheppard Fidler o'r cyfnod hwn oedd llyfrgell a chanolfan gymdeithasol Bourne Hall, Epsom (1965–70). Dynodwyd y llyfrgell gylchol arloesol hon, y cyfeirir ati yn aml fel y soser gofod,[7] yn adeilad rhestredig gradd II yn 2015.[8]

Ym 1936 priododd Fidler â Margaret Isabella Kidner (1898-1977),[2] merch John Russell Kidner, meistr forwr. Bu iddynt un mab, John Alwyn Sheppard-Fidler (g.1938), a fu hefyd yn bensaer amlwg.

Marwolaeth

golygu

Ymddeolodd Sheppard Fidler yn Reigate, Surrey, lle fu farw yn 80 mlwydd oed o ddirywiad cardiofasgwlaidd.[1]

Cyfeiriadau

golygu