Awdures doreithiog o'r Ariannin yw Ana María Shua (ganwyd 22 Ebrill 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd a sgriptiwr.[1]

Ana María Shua
Ganwyd22 Ebrill 1950, 1951 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Alma mater
  • Colegio Nacional de Buenos Aires
  • Cyfadran Athroniaeth a'r Dyniaethau Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa muerte como efecto secundario Edit this on Wikidata
Arddullffuglen Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.anamariashua.com.ar/ Edit this on Wikidata

Mae ei gwaith wedi'i gyfieithu i lawer o ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Iseldireg, Swedeg, Coreeg, Siapanaeg, Bwlgareg a Serbeg. Mae ei straeon yn ymddangos mewn blodeugerddi ledled y byd. Derbyniodd nifer o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Cymrodoriaeth Guggenheim, ac mae'n un o brif awduron byw'r Ariannin. Yn adnabyddus iawn yn y byd Sbaeneg, caiff ei hadnabod ar ddwy ochr yr Iwerydd fel "Brenhines y Microstory".[1][2][3][4]

Addysg ac alltudiaeth golygu

Fe'i ganed yn Buenos Aires ar 22 Ebrill 1951. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf, cyfrol o farddoniaeth o'r enw El sol y yo, yn 1967 pan oedd yn 15 oed, ac am ei thrafferth, derbyniodd y "Stribed Anrhydedd" gan Gymdeithas Awduron yr Ariannin. Wedi iddi adael yr ysgol mynychodd Golegio Nacional de Buenos Aires a Chyfadran Athroniaeth a'r Dyniaethau, Prifysgol Buenos Aires, lle derbyniodd Radd Meistr. Yn ystod unbennaeth milwrol diwethaf y wlad, hunan-alltudiodd i ffrainc, lle gweithiodd i'r cylchgrawn Sbaeneg Cambio 16.[5][6][7][8]

Ar ôl dychwelyd i'r Ariannin, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, o'r enw Soy paciente, a hynny yn 1980; enillodd wobr gan gwmni cyhoeddi Losada am y nofel hon. Yn 1984, cyhoeddodd La sueñera, casgliad o ffuglen-micro. Mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr, cyhoeddwr, a sgriptiwr, gan addasu rhai o'i ysgrifau. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu llyfrau i blant, a derbyniodd rai gwobrau rhyngwladol.

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: La muerte como efecto secundario.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academia Norteamericana de la Lengua Española am rai blynyddoedd. [9]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Ana María Shua". Words Without Borders. Cyrchwyd 2015-10-28.
  2. "Ana María Shua - Imaginaria No. 31 - 9 de agosto de 1999". Imaginaria.com.ar. Cyrchwyd 2015-10-28.
  3. "The International Literary Quarterly". Interlitq.org. Cyrchwyd 2015-10-28.
  4. "Ana María Shua". Anamariashua.com.ar. Cyrchwyd 2015-10-28.
  5. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12055785t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014
  7. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014 "Ana Maria Shua". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  8. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 15 Rhagfyr 2014
  9. Anrhydeddau: https://www.gf.org/fellows/all-fellows/ana-maria-shua/. dyddiad cyrchiad: 21 Rhagfyr 2020.
  10. https://www.gf.org/fellows/all-fellows/ana-maria-shua/. dyddiad cyrchiad: 21 Rhagfyr 2020.