Anders Jonas Ångström
Ffisegydd a seryddwr o Sweden oedd Anders Jonas Ångström (13 Awst 1814 – 21 Mehefin 1874) a fu'n arloeswr pwysig ym maes sbectrosgopeg. Enwir yr angstrom (Å), uned o hyd sydd yn gyfartal i 10−10 m, ar ei ôl.
Anders Jonas Ångström | |
---|---|
Portread o Anders Jonas Ångström. | |
Ganwyd | 13 Awst 1814 The iron factory Lögdö bruk |
Bu farw | 21 Mehefin 1874 Uppsala, Uppsala domkyrkoförsamling |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd, seryddwr, academydd |
Cyflogwr | |
Priod | Augusta Carolina Bedoire |
Plant | Knut Ångström, Anna Augusta Ångström |
Gwobr/au | Medal Rumford, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Anders Jonas Ångström yn Lögdö yn nhalaith Medelpad, yng nghanolbarth Teyrnas Sweden. Roedd yn ail fab i Johan Ångström, gweinidog plwyf yn Eglwys Sweden, a'i wraig Anna Katarina Tunberg. Mynychodd Anders yr ysgol yn Härnösand. Aeth i Brifysgol Uppsala ym 1833 i astudio mathemateg a ffiseg. Enillodd ei ddoethuriaeth yno ym 1839 am draethawd yn ymdrin ag opteg plygiant conigol.[1]
Gyrfa academaidd
golyguDarlithiodd Ångström ar bwnc ffiseg ym Mhrifysgol Uppsala wedi iddo dderbyn ei ddoethuriaeth. Aeth i Arsyllfa Stockholm ym 1842 i gael profiad o seryddiaeth ymarferol. Dychwelodd i Uppsala a chafodd swydd is-ddarlithydd seryddiaeth yn yr arsyllfa yno ym 1843. Fe'i penodwyd yn gadeirydd y gyfadran ffiseg ym Mhrifysgol Uppsala ym 1858, a daliodd swydd yr athro ffiseg yno hyd at ei farwolaeth yn Uppsala, ar 21 Mehefin 1874, yn 59 oed.[1][2]
Bu ei fab, Knut Johan Ångström, hefyd yn sbectrosgopydd ac yn ddarlithydd ffiseg ym Mhrifysgol Uppsala.[2]
Ei gyfraniadau at sbectrosgopeg
golyguAnders Jonas Ångström oedd un o'r gwyddonwyr cyntaf i astudio'r ymadweithiau rhwng mater ac ymbelydredd electromagnetig yn nhermau amledd yr ymbelydredd, gan arloesi felly gwyddor sbectrosgopeg. Yn Chwefror 1853 cyflwynodd ei waith ymchwil, ar ffurf y traethawd Optiska undersökninger, i Academi Frenhinol y Gwyddorau yn Stockholm. Canfu bod gwreichionen drydanol yn cynhyrchu dau sbectrwm arosodedig, un o fetel yr electrod a'r llall o'r nwy y mae'n mynd trwyddo. Gan ddefnyddio damcaniaeth cyseiniant Euler, diddwythai Ångström egwyddor ei hun o ddadansoddi sbectrwm: mae nwy gwynias yn allyrru golau o'r un donfedd â'r golau y gall ei amsugno.
Ym 1861 dechreuodd Ångström astudio'r sbectrwm heulol yn fanwl gan ddefnyddio'r sbectrosgop a ffotograffiaeth o Gysawd yr Haul. Fe gyhoeddodd ym 1862 bod hydrogen ac elfennau eraill yn bresennol yn atmosffer yr Haul. Ym 1868 cyhoeddodd Ångström a'i gydathro Robert Thalén y gyfrol bwysig Recherches sur le spectre solaire yn Ffrangeg, sydd yn cynnwys map manwl o'r sbectrwm heulol gan ddangos tonfeddi yn nhermau 10−10 m, yr uned a bellach elwir ar ei ôl.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) C. L. Maier, "Ångström, Anders Jonas" yn Complete Dictionary of Scientific Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 14 Ionawr 2021.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Anders Jonas Ångström. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Ionawr 2021.