Angharad Price
Nofelydd ac academydd Cymraeg yw Angharad Price, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002.
Angharad Price | |
---|---|
Ganwyd | 1972 Bethel |
Man preswyl | Caernarfon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, critig, gohebydd gyda'i farn annibynnol, cyfieithydd |
Cyflogwr | |
Tad | Emyr Price |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Bywgraffiad
golyguGaned Angharad Price ym Mangor, yn ferch i'r hanesydd Emyr Price (1944–2009). Yn enedigol o Fethel, Gwynedd, fe'i ganwyd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor 'yn fop o wallt du' chwedl ei thad (gweler Fy hanner canrif i gan Emyr Preis, Gwasg y Lolfa).
Graddiodd mewn ieithoedd modern yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen, a chafodd ddoethuriaeth am ei hastudiaeth o ryddiaith Gymraeg y 1990au. Roedd hi'n aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 gyda'r nofel O! Tyn y Gorchudd (Gomer) ac enwyd y gyfrol yn Llyfr y Flwyddyn 2003. Yn 2024, roedd hi'n Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.[1]
Cyhoeddwyd ei nofel ffug-hunangofiannol O! Tyn y Gorchudd yn 2002; y gyfrol hon a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003 gyda'r un llyfr.
Cyrhaeddodd ei llyfr, Caersaint restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.
Cyhoeddwyd ei nofel Nelan a Bo yn Tachwedd 2024.Dywedodd Angharad mewn cyfweliad: "Hanes fy mhentre genedigol sydd yma mewn gwirionedd, sef Bethel ger Caernarfon."[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Smentio Sentiment: Beirdd Concrid Grŵp Fiena 1954-1964, Cyfres Cynnyrch Gwobr Goffa Saunders Lewis (Cronfa Goffa Saunders Lewis, 1996)
- Tania'r Tacsi (Gwasg Gomer, 1999)
- Llên y Llenor: Robin Llywelyn (Gwasg Pantycelyn, 2000)
- O! Tyn y Gorchudd (Gwasg Gomer, 2002), wedi'i gyfieithu gan Lloyd Jones fel The Life of Rebecca Jones/O! Tyn y Gorchudd (Gwasg Gomer, 2010)
- Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990, Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
- Llên y Llenor: Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (Gwasg Pantycelyn, 2005)
- Caersaint (Y Lolfa, 2010)
- Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T. H. Parry Williams (Gwasg Gomer, 2013)
- Ymbapuroli (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
- Nelan a Bo (Y Lolfa, 2024)
Crynoddisgiau
golygu- O! Tyn y Gorchudd (Tympan, 2003)
Gwobrau ac anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Tudalen yr awdures ar wefan Prifysgol Bangor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-07. Cyrchwyd 2009-06-01.
- ↑ "Pum munud gyda... Angharad Price". BBC Cymru Fyw. 2024-11-13. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2024.