Ann Catrin Evans

cerflunydd, artist (1967- )

Cerflunwraig a dylunydd Cymreig yw Ann Catrin Evans (ganwyd 1 Awst 1967), sy'n gweithio'n bennaf mewn metel. Caiff ei gwaith ei arddangos ar draws y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau a'i werthu'n fyd-eang.[1]

Ann Catrin Evans
Ganwyd1 Awst 1967 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethartist, cerflunydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Evans ym Mangor, ac astudiodd radd sylfaen celf ym Mhrifysgol Bangor ym 19871988.[2] Graddiodd o Brifysgol Brighton gyda gradd baglor y celfyddydau mewn gwaith pren, metel, serameg a plastig ym 1989.[3] Mae ganddi efail ac oriel ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon.[4]

Gwaith golygu

Mae ei gwaith wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys medal aur Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gyfer Campwaith Crefft, Gwobr Merched mewn Menter, a Bwrsari Cyngor Celfyddydau Cymru.[4]

Comisiynwyd i ddylunio dodrefn ar gyfer drysau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, a agorwyd yn swyddogol yn 2004.[1] Dyluniodd hefyd dlws gwobr gyntaf Siân Phillips yn 2004.[5]

Evans oedd gwneuthurwr a chynllunydd coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005.

Gwnaethpwyd y goron o arian a llechen. Roedd y pigau o lechen mewn cylch ar y goron yn cynrychioli llyfrau ar agor â dau stribed o arian yn eu dal at ei gilydd mewn cylch yn gwneud i'r cyfan edrych fel clawdd llechen, sy'n nodweddiadol o'r dystiolaeth o ddiwydiant llechi yr ardal.

Dywedodd Ann Catrin Evans: "Mae'r ddau ddeunydd yn gwrthgyferbynnu'n hyfryd gydag un yn dywyll a garw a'r llall yn sgleiniog a golau ac mae hynny'n gyfuniad perffaith. Roeddwn i'n hapus â'r gwaith ar ôl gorffen gan fod y Goron yn dal y golau yn ofnadwy ac mae hynny yn rhywbeth nad oeddwn i wedi ei ragweld."

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Projects Archive > SOFA Chicago > Ann Catrin Evans: metalwork. Arts Wales International. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
  2.  Ann Catrin Evans: Metalwork. Cyngor Celfyddydau Cymru (2002). Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
  3.  aura2008 presents Ann Catrin Evans. Aura (2008). Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
  4. 4.0 4.1  Ann Catrin Evans: Ironwork. The Makers Guild in Wales. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
  5.  Gogledd Orllewin: Pigion: Emyr Humphreys - enillydd Gwobr Siân Phillips 2004. BBC Lleol. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.