Annes Glynn
llenor o Gymru
(Ailgyfeiriad o Annes Glyn)
Bardd a nofelydd Cymreig ydy Annes Glynn (ganed Brynsiencyn, Ynys Môn[1]), Mae'n byw yn Rhiwlas, ger Bangor.
Annes Glynn | |
---|---|
Ganwyd | Brynsiencyn |
Man preswyl | Rhiwlas |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd |
Adnabyddus am | Canu'n y Co', Dilyn 'Sgwarnog, Symudliw |
Cafodd ei chyfrol o lên meicro Symudliw ei restru ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Enillodd yr un llyfr y Fedal Ryddiaith iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004. Roedd yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007.
Bu Annes yn aelod o dîm yr Howgets ar Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru ac yn fwy diweddar yn aelod o dîm Criw'r Ship, Caernarfon. Bu'n is-olygydd cylchgrawn Merched y Wawr, sef Y Wawr.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Canu'n y Co' (Gwasg Gomer, 2013)
- Dilyn 'Sgwarnog (Gwasg Gwynedd, 2001)
- Chwarae Mig (Gwasg Gomer, 2002)
- Symudliw - Enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004; (Gwasg Gwynedd, 2004)
- Hel Hadau Gwawn (Cyhoeddiadau Barddas, 2017)
Gwobrau ac Anrhydeddau
golygu- Y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004
- Coron Eisteddfod Môn, 2000
- Cadair Eisteddfod Môn, 2010
- Cadair Eisteddfod Pontrhydfendigaid, 2012
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyweliad ar gyfer Llais Llên BBC Cymru
- ↑ "Gwefan Marched y Wawr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-27. Cyrchwyd 2007-09-19.