Antonietta Stella
Soprano operatig o'r Eidal oedd Antonietta Stella (ganwyd Maria Antonietta Stella; 15 Mawrth 1929 – 23 Chwefror 2022). Un o'r sopranos spinto Eidalaidd gorau yn y 1950au a'r 1960au, sy'n cael ei chysylltu'n arbennig â rolau Verdi a Puccini.[1]
Antonietta Stella | |
---|---|
Ganwyd | Maria Antonietta Stella 15 Mawrth 1929 Perugia |
Bu farw | 23 Chwefror 2022 Rhufain |
Label recordio | Deutsche Grammophon, EMI, Philips Records |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera |
Math o lais | soprano |
Gwefan | http://www.marjaleenapelho.com/stella.html |
Gyrfa
golyguFe'i ganwyd yn Perugia, yr Eidal. Astudiodd yn Accademia Nazionale di Santa Cecilia yn Rhufain. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Spoleto, fel Leonora yn Il trovatore, ym 1950. Ymddangosodd i Opera Rhufain ym 1951, fel Leonora yn La forza del destino. Yn fuan dechreuodd canu ar hyd yr Eidal: Fflorens, Napoli, Parma, Turin, Catania, Ferona, Fenis, ac ati. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn La Scala ym Milan, fel Desdemona yn Otello Verdi, ym 1954, lle canodd yn gyson i ganmoliaeth fawr tan 1963, mewn rolau fel Violetta yn La traviata, Elisabetta yn Don Carlos, Amelia yn Un ballo in maschera, y rolau teitl yn Aida a Tosca, Mimi yn La bohème, Maddalena yn Andrea Chénier, Cio-Cio-San yn Madama Butterfly, ac ati.
Ym 1955, fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Opera Taleithiol Fiena, y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain, y Palais Garnier ym Mharis, La Monnaie ym Mrwsel, Opera Lyric Chicago. Y flwyddyn ganlynol, bu ei début y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd, lle canodd yn llwyddiannus tan 1960. Ym 1958 cafodd lwyddiant arbennig mewn cynhyrchiad Metropolitan Opera newydd o Madama Butterfly a gynlluniwyd fel printiau blociau pren Siapaneaidd. Canmolwyd yn arbennig ei chymathiad o ystumiau corfforol merched Japan. Cyflwynwyd ei Leonore yn Il trovatore hefyd mewn cynhyrchiad newydd yn y Metropolitan i ganmoliaeth gyhoeddus a beirniadol. Roedd Stella yn ffigwr urddasol, hudolus ar y llwyfan ac yn actores fedrus.
Roedd Stella, fel cynifer o artistiaid nodedig o'r 1950au a'r 60au, yn cael eu gorchuddio braidd gan y gystadleuaeth rhwng Maria Callas a Renata Tebaldi. Er gwaethaf hynny cafodd yrfa nodedig a gadawodd nifer o recordiadau gwerth chweil, gan gynnwys gweithiau fel Linda di Chamounix, La battaglia di Legnano, L'Africaine, Simon Boccanegra, sy'n fwy nag y gellir ei ddweud ar gyfer rhai cantorion eraill o'r cyfnod. Ymddangosodd mewn cynhyrchiad teledu Eidalaidd o Andrea Chénier, gyferbyn â Mario del Monaco a Giuseppe Taddei yn 1955, a ryddhawyd yn ddiweddar ar DVD. Gellir ei chlywed hefyd ar ddarllediad radio Eidalaidd o waith prin Spontini Agnes von Hohenstaufen, gyferbyn â Montserrat Caballé, a ryddhawyd ar CD.
Achos torri contract
golyguRhoddodd nifer o achosion o ganslo annoeth stop effeithiol ar ei yrfa Americanaidd. Yn gyntaf, fe adawodd gyfres o berfformiadau ar gyfer Lirica Italiana yn Japan. Ym 1957, canslodd ei pherfformiad cyntaf gydag Opera San Francisco. Ar ôl i'r soprano gyflwyno tystysgrif meddyg i Opera Metropolitan ym 1960 yn gofyn am gael ei ryddhau (a roddwyd) ar gyfer taith gwanwyn y cwmni; ymddangosodd ar lwyfan La Scala yn ystod y cyfnod dan sylw. Fe wnaeth Rudolf Bing cyflwyno achos o dorri contract gydag Urdd Artistiaid Cerddorol America yn ei herbyn. Arweiniodd y weithred at ei hatal rhag gweithio yn yr UD am flwyddyn, o ran gosb, ond yn ymarferol am byth. Parhaodd Stella i ymddangos yn Ewrop, ond roedd dirywiad amlwg yn ei llais cyn iddi gyrraedd 40 oed.[2]
Detholiad o recordiadau
golygu- Donizetti - Linda di Chamounix - Tullio Serafin (Philips, 1956)
- Verdi - Il trovatore - Tullio Serafin (DG, 1962)
- Verdi - La traviata - Tullio Serafin (EMI, 1955)
- Verdi - Un ballo in maschera - Gianandrea Gavazzeni (DG, 1960)
- Verdi - Don Carlos - Gabriele Santini (EMI, 1954)
- Verdi - Don Carlos - Gabriele Santini (DG, 1961)
- Verdi - Simon Boccanegra - Francesco Molinari-Pradelli (Cetra, 1951)
- Giordano - Andrea Chénier - Gabriele Santini (EMI, 1963)
- Puccini - La bohème - Francesco Molinari-Pradelli (Philips, 1957)
- Puccini - Tosca - Tullio Serafin (Philips, 1957)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Forbes, E. (2002, January 01). Stella, Antonietta. Grove Music Online adalwyd 2 Mai. 2019
- ↑ Bywgraffiad Stella ar All Music adalwyd 2 Mai 2019