Mae Don Carlos yn opera fawreddog pum act a gyfansoddwyd gan Giuseppe Verdi i libretto Ffrangeg gan Joseph Méry a Camille du Locle, yn seiliedig ar y ddrama Don Carlos, Infant von Spanien (Don Carlos, Tywysog Sbaen) gan Friedrich Schiller . Yn ogystal, mae David Kimball wedi nodi bod golygfa Fontainebleau a'r auto da fé "oedd y mwyaf sylweddol o nifer o ddigwyddiadau a fenthycwyd o ddrama gyfoes ar Felipe II gan Eugène Cormon ".[1] Yn aml, caiff yr opera ei pherfformio mewn cyfieithu Eidaleg, fel arfer o dan y teitl Don Carlo .

Don Carlos
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolDon Carlos Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg, Eidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1865, 1867 Edit this on Wikidata
Genregrand opera, opera Edit this on Wikidata
CymeriadauFilippo II, Don Carlos, Élisabeth de Valois, Le Grand Inquisiteur (Pennaeth y chwilys), Mynach, (Ysbryd yr Ymerawdwr Siarl V ymadawedig, neu "Carlo Quinto"), Y Dywysoges Eboli, Thibault (Tebaldo), Iarlles Aremberg, Yr Ardalydd Lerma, Herald Brenhinol, Llais o'r Nefoedd, chwe llysgennad o Fflandrys, Corws, Rodrigue (Rodrigo) Edit this on Wikidata
LibretyddJoseph Méry, Camille du Locle Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afParis Opera, Paris, Teatro Comunale, La Scala Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af11 Mawrth 1867, 10 Ionawr 1884, 27 Hydref 1867 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolDon Carlos Edit this on Wikidata
Hyd3.5 awr, 3 awr Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiuseppe Verdi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae hanes yr opera yn seiliedig ar wrthdaro ym mywyd Carlos, Tywysog Asturias (1545–1568). Er iddo gael ei ddyweddio i Elisabeth o Valois, roedd rhan o'r cytundeb heddwch a ddaeth i ben Rhyfel Eidalaidd 1551-59 rhwng Tai Habsburg a Valois yn mynnu ei bod yn briod ei dad Felipe II o Sbaen. Cafodd yr opera ei gomisiynu a'i chynhyrchu gan y Théâtre Impérial de l'Opéra ac fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf yn y Salle Le Peletier ar 11 Mawrth 1867.

Cafodd y fersiwn Eidalaidd gyntaf ei pherfformio ym Mologna ym mis Mawrth 1867. Fe'i diwygiwyd eto gan Verdi, ac fe'i pherfformiwyd yn Napoli ym mis Tachwedd / Rhagfyr 1872. Wedyn paratowyd dau fersiwn arall: gwelwyd y cyntaf ym Milan ym mis Ionawr 1884 (lle'r oedd y pedwar act yn seiliedig ar ryw destun Ffrangeg gwreiddiol a gyfieithwyd wedyn). Mae hyn bellach yn cael ei adnabod fel "fersiwn Milan", a daeth yr ail — a gymeradwywyd hefyd gan y cyfansoddwr — yn "fersiwn Modena" ac fe'i cyflwynwyd yn y ddinas honno ym mis Rhagfyr 1886. Adferodd yr act gyntaf "Fontainebleau" i fersiwn pedwar act Milan.

Dros yr ugain mlynedd nesaf, gwnaed toriadau ac ychwanegiadau i'r opera, gan arwain at nifer o fersiynau sydd bellach ar gael i gyfarwyddwyr ac arweinwyr. Nid oes unrhyw opera Verdi arall yn bodoli mewn cymaint o fersiynau. Ar ei hyd llawn (gan gynnwys y bale a'r toriadau a wnaed cyn y perfformiad cyntaf), mae'n cynnwys bron i bedair awr o gerddoriaeth. Dyma'r opera hiraf gan Verdi.[2]

Hanes cyfansoddi

golygu

Toriadau cyn y première a'r argraffiad cyntaf wedi'i gyhoeddi

 
Giuseppe Verdi, tua 1870

Gwnaeth Verdi nifer o doriadau ym 1866, ar ôl gorffen yr opera ond cyn cyfansoddi'r bale, dim ond oherwydd bod y gwaith yn mynd yn rhy hir.[2] Ddeuawd ar gyfer Elisabeth ac Eboli yn Act 4, Golygfa 1; deuawd ar gyfer Carlos a'r Brenin ar ôl marwolaeth Posa yn Act 4, Golygfa 2;[3] a chyfnewidiad rhwng Elisabeth ac Eboli yn ystod y gwrthryfel yn yr un olygfa.

Ar ôl i'r bale gael ei gyfansoddi, daeth i'r amlwg yn ystod y cyfnod ymarfer ym 1867 na fyddai'r opera'n gorffen cyn hanner nos heb doriadau pellach (yr amser y byddai angen i gwsmeriaid adael er mwyn dal y trenau olaf i faestrefi Paris). Yna, awdurdododd Verdi rai toriadau pellach, sef, yn gyntaf, y cyflwyniad i Act 1 (oedd yn cynnwys corws o dorrwyr coed a'u gwragedd, ac yn cynnwys ymddangosiad cyntaf Elisabeth); yn ail, unawd mynediad byr ar gyfer Posa ( J'étais en Flandres ) yn Act 2, olygfa 1; ac, yn drydydd, rhan o'r ddeialog rhwng y Brenin a Posa ar ddiwedd Act 2, Golygfa 2.[4]

Roedd yr opera, fel y'i cyhoeddwyd gyntaf adeg y première, yn cynnwys cenhedlaeth wreiddiol Verdi, heb yr holl doriadau a enwyd uchod, ond gan gynnwys y bale.

 
Poster o gynhyrchiad Paris 1867 sy'n darlunio marwolaeth Rodrigo ym mhresenoldeb y Brenin
 
Jean Morère, y Don Carlos gwreiddiol
 
Francesco Tamagno, y Don Carlo yn fersiwn Eidaleg 1884

Cymeriadau a'r cast cyntaf

golygu
Rôl Math o lais Y cast cyntaf 11 Mawrth 1867 [5][6]
(Arweinydd: François George-Hainl)
Fersiwn ddiwygiedig
Y cast cyntaf 10 Ionawr 1884 [5]
(Arweinydd: Franco Faccio)
Felipe II, Brenin Sbaen, mab Siarl V a thad Don Carlos bas Louis-Henri Obin Alessandro Silvestri
Don Carlos (Don Carlo), Infante Sbaen, mab ac etifedd y Brenin tenor Jean Morère Francesco Tamagno
Rodrigue (Rodrigo), Marquis of Posa, ffrind i'r Infante Don Carlos bariton Jean-Baptiste Faure Paul Lhérie
Le Grand Inquisiteur (Pennaeth y chwilys) [7] bas Joseph David Francesco Navarini
Élisabeth de Valois ( Elisabeth Valois ), tywysoges Ffrengig yn dyweddi i Don Carlos i ddechrau, ond yna priododd â'r Brenin Felipe soprano Marie-Constance Sass Abigaille Bruschi-Chiatti
Dywysoges Eboli, aristocrat yn y llys mezzo-soprano Pauline Guéymard-Lauters Giuseppina Pasqua
Mynach, (Ysbryd yr Ymerawdwr Siarl V ymadawedig, neu "Carlo Quinto") bas Armand Castelmary Leopoldo Cromberg
Thibault (Tebaldo), macwy i Elisabeth soprano ( en travesti ) Leonia Levielly Amelia Garten
Llais o'r Nefoedd soprano
Yr Ardalydd Lerma, llysgenad Sbaen i Ffrainc tenor Gaspard Angelo Fiorentini
Herodr Brenhinol tenor Mermant Angelo Fiorentini
Iarlles Aremberg, boneddiges breswyl i Elisabeth tawel Dominique Angelina Pirola
Cenhadon Ffleminaidd, aelodau'r chwilys, boneddigion a boneddigesaun Llys Sbaen, y bobl, macwyaid, gwarchodlu, mynachod, milwyr - yn ffurfio'r corws

Crynodeb

golygu

Golygfa: Coedwig ger Fontainebleau, Ffrainc yn y gaeaf tua 1560

Yn groes i ddymuniad Felipe II Brenin Sbaen, mae ei fab a'i etifedd tybiedig, Don Carlos, Tywysog Asturias wedi teithio yn gudd i Fontainebleau, lle mae trafodaethau ar y gweill ar gyfer cytundeb heddwch rhwng Sbaen a Ffrainc. Mae wedi gweld ei Elisabeth, merch y brenin Ffrainc, sydd wedi ei addo iddo mewn priodas. Mae o'n syrthio mewn cariad â hi ar yr olwg gyntaf. Pan fydd yn cwrdd ag Elisabeth a'i macwy, sydd wedi bod yn hela ac yn mynd ar goll yn y goedwig, mae Carlos yn cynnig i’w amddiffyniad heb ddatgelu pwy ydyw. Mae Elisabeth yn ei holi os yw'n gwybod rhywbeth am y dyn mae hi wedi ei addo iddo fel gwraig. Mae hi'n bryderus ynghylch ei phriodas â dieithryn. Mae Carlos yn rhoi portread bychan o'i ddarpar ŵr iddi, ac mae hi'n sylweddoli mai ef yw'r tywysog. Mae hi'n falch gan ei bod hi wedi syrthio mewn cariad a'r dyn, cyn sylwi mae ef oedd ei ddyweddi. Mae ergyd canon yn nodi bod heddwch wedi cyhoeddi rhwng Sbaen a Ffrainc. Mae eu hapusrwydd yn dod i ben gyda newyddion bod trefniadau'r cytundeb wedi cael eu newid ac mae Elisabeth i briodi'r Brenin Felipe, tad Carlo. Mae Elisabeth yn derbyn y penderfyniad yn anfoddog. Er bod pawb o'u cwmpas yn dathlu diwedd y rhyfel, mae Elisabeth a Carlos yn ddigalon.

 
Elizabeth Valois hanesyddol, gan Juan Pantoja de la Cruz, 1565
 
Tywysoges Eboli hanesyddol, Ana de Mendoza, gan arlunydd anhysbys

Golygfa 1: Mynachlog Saint-Just (San Jerónimo de Yuste) yn Sbaen

Mae Carlos yn chwilio am gysur ym mynachdy Santt Just, lle mae'n gweddïo ger bedd ei daid, yr Ymerawdwr Siarl V. Mae'n cael ei gyfarch gan fynach sy'n ymddangos fel ysbryd yr ymerawdwr ymadawedig. Mae ei gyfaill Rodrigo, Ardalydd Posa, yn cyrraedd ac yn atgoffa Carlos am ei ymrwymiad i achos Fflandrys sy'n cael ei orthrymu gan lywodraeth Sbaen. Mae'r ddau'n gwneud adduned i achos rhyddid Fflandrys ac yn tyngu llw o gyfeillgarwch tragwyddol i'w gilydd.

Golygfa 2: Gardd ger Saint-Just

Mewn gardd y tu allan i'r fynachlog, mae'r Dywysoges Eboli yn diddanu merched eraill y llys â chân. Mae Elisabeth - sydd bellach yn frenhines - yn mynd i mewn i'r ardd, wedyn mae Ardalydd Posa yn ymuno â hi. Mae'r Ardalydd yn rhoi llythyr cyfrinachol iddi gan Carlos sy'n gofyn am gyfarfod yn gyfrinachol. Yn y cyfarfod mae Carlos yn gofyn i'r frenhines i geisio caniatâd Felipe iddo gael mynd i Fflandrys. Mae o hefyd yn datgan ei fod yn parhau i fod mewn cariad a hi. Mae hi'n gwrthod ei ddatganiad yn ddidwyll. Mae Don Carlos yn gadael yn ffyrnig, yn gweiddi bod yn rhaid iddo fyw ei fywyd dan felltith. Mae'r brenin yn cyrraedd ac yn dod o hyd i'r frenhines heb gwmnïaeth na warchodaeth. Mae'r Brenin yn flin ac yn alltudio Iarlles Aremberg, a ddylai fod yn bresennol gyda'r frenhines.

Mae Ardalydd Posa yn herio Felipe i roir gorau i'w ormes o bobl Fflandrys. Mae Felipe yn gwrthod ond mae dewrder Posa yn creu argraff arno. Mae'n rhybuddio iddo fod yn wyliadwrus o'r chwilys. Mae'r Brenin yn dweud wrth Posa am ei amheuon bod ei wraig a'i fab yn gariadon gan ofyn i'r ardalydd i'w gwylio. Mae Posa yn derbyn cais y brenin, gan wybod y bydd gwneud gwaith cyfrinachol ar ran y brenin o fudd iddo yn y dyfodol.

Golygfa 1: Min nos yng ngardd y Frenhines ym Madrid

Mae Carlos wedi derbyn llythyr yn gofyn iddo fynd i gyfarfod cyfrinachol am hanner nos yng ngardd y frenhines ym Madrid. Mae'n credu bod y cyfarfod gydag Elisabeth, ond y Dywysoges Eboli sy'n ymddangos. Mae hi mewn cariad ag ef. Pan fydd Carlos yn darganfod mae hi oedd awdur y llythyr ac yn gwrthod ei chariad, mae Eboli yn sylweddoli lle mae gwir deimladau'r tywysog yn gorwedd ac yn tyngu llw i'w ddatgelu. Mae Posa yn cyrraedd ac yn clywed bygythiad Eboli ac mae'n bygwth ei lladd ond mae Carlos yn ei rwystro. Mae Eboli yn gadael. Mae Posa yn perswadio Carlos ei fod bellach mewn perygl ac mae Carlos yn trosglwyddo papurau cyfrinachol iddo i'w cadw'n ddiogel.

Golygfa 2: O flaen Eglwys Gadeiriol Valladolid

Mae'r Brenin yn gwylio dienyddiad cyhoeddus hereticiaid sydd wedi eu condemnio i losgi o flaen yr eglwys gadeiriol. Mae Carlos yn arwain grŵp o ddirprwyon o Fflandrys i Felipe. Mae'r Brenin yn gwrthod eu cais am ryddid i'w gwlad. Pan fydd hefyd yn gwrthod cais Carlos ei hun i reoli Fflandrys, mae'r tywysog yn tynnu ei gleddyf ac yn bygwth lladd ei dad. Caiff ei ddiarfogi gan Posa a'i arestio. Er mwyn diolch iddo am ei achub, mae Felipe yn urddo Posa yn ddug. Wrth i'r hereticiaid cael ei arwain at y stanc, mae llais oddi fry yn croesawu eu heneidiau i'r nefoedd.

Golygfa 1: Y wawr yn siambr y Brenin Felipe ym Madrid

Yn ei siambr fi nos, mae'r brenin yn synfyfyrio ar ei fywyd gyda gwraig nad yw'n ei garu. Mae'n ymgynghori â Phennaeth y chwilys, sy'n cydsynio â'i ddyfarniad o farwolaeth ar Carlos am ei fradychu. Mae'r pennaeth yn ddweud: ''wrth i Dduw aberthu ei fab i achub dyn, felly mae'n rhaid i Felipe fygu ei gariad at ei fab er mwyn y ffydd''. Mae'r Pennaeth hefyd yn mynnu bod Posa yn cael ei drosglwyddo iddo. Wrth iddo adael, mae Felipe yn meddwl tybed a yw'r orsedd bob amser yn ildio i'r allor.

Mae Elisabeth yn dod i mewn i'r siambr yn pryderu bod y gist lle mae hi'n cadw ei thrysorau ar goll. Roedd Eboli, a oedd yn gwybod bod Elisabeth yn cadw portread o Carlos ynddo, wedi dwyn y gist a'i roi i'r brenin. Mae Felipe yn dangos y gist i Elisabeth ac yn tynnu'r portread allan, ac yn ei chyhuddo o odineb. Mae Elisabeth yn llewygu ac mae'r brenin yn galw am gymorth. Mae Eboli a Posa yn rhuthro i mewn i'w cynorthwyo. Mae Posa yn mynegi syndod na all brenin sy'n rheoli hanner y byd reoli ei emosiynau ei hun. Mae Eboli yn edifarhau am y sefyllfa mae ei chenfigen wedi'i greu. Wedi ei gadael ar ei phen ei hun gydag Elisabeth, mae Eboli yn cyfaddef ei bod nid yn unig wedi ei chyhuddo ar gam ond ei bod wedi bod yn cael perthynas gyda'r brenin. Mae Elisabeth yn ei halltudio hi o'r llys. Mae Eboli yn galaru am ei harddwch angheuol ac yn tyngu llw i dreulio ei ddyddiau olaf yn Sbaen yn ceisio achub Carlos.

 
Baril Gédéon, "Il Maestro Verdi", cartŵn gan Le Hanneron, 14 Mawrth 1867. (Amgueddfa Opera Paris)

Golygfa 2: Mewn carchar

Mae Posa yn ymweld â Carlos yn y carchar i ddweud wrtho ei fod wedi defnyddio'r papurau cudd i ysgwyddo'r bai am y gwrthryfel yn Fflandrys. Mae bellach yn ddyn dan amheuaeth, gan hynny bydd rhaid i Carlos bod yn gyfrifol am barhad achos ryddid i Fflandrys. Posa yn cael ei saethu gan asiantau'r chwilys. Wrth iddo farw mae'n dweud wrth Carlos y bydd Elisabeth yn cwrdd ag ef ym mynachlog St. Just ac yn datgan ei fod yn hapus i aberthu ei fywyd i ddyn a fydd yn dod yn waredwr Sbaen.

Mynachlog Yustey yng ngolau'r lleuad

Mae Elisabeth wedi mynd i'r fynachlog, yn dymuno i'w bywyd dod i ben. Mae Carlos yn cyrraedd, mae'n ei annog i barhau ag ymgais Posa am ryddid yn Fflandrys ac maent yn gobeithio am hapusrwydd yn y byd nesaf. Wrth iddynt ffarwelio, mae Felipe a phennaeth y chwilys yn cyrraedd. Wrth i asiantau'r nesáu at Carlos, mae'r Ymerawdwr Siarl V yn dod allan o'r tywyllwch i ddatgan bod dioddefaint yn anochel ac yn dod i ben yn y nefoedd yn unig

Gweler hefyd

golygu

Ffynonellau

golygu

Ffynonellau wedi'u crybwyll

golygu
  • Budden, Julian (1984), The Operas of Verdi, Volume 3: From Don Carlos to Falstaff. London: Cassell. ISBN 0-304-30740-8.
  • Kimbell, David (2001), in Holden, Amanda (Ed.), The New Penguin Opera Guide, New York: Penguin Putnam, 2001. ISBN 0-14-029312-4
  • Osborne, Charles (1969), The Complete Opera of Verdi, New York: Da Capo Press, Inc., 1969. ISBN 0-306-80072-1
  • Parker, Roger (1998), "Don Carlos", in Stanley Sadie (ed.), The New Grove Dictionary of Opera, Vol. One. London: Macmillan Publishers, Inc. 1998 ISBN 0-333-73432-7 ISBN 1-56159-228-5
  • Felipes-Matz, Mary Jane (1994), Verdi: A Biography, Oxford and New York: Oxford University Press. ISBN 0-19-313204-4.
  • Toye, Francis (1931), Giuseppe Verdi: His Life and Works, New York: Knopf, 1931
  • Walker, Frank (1962), The Man Verdi. New York: Knopf. OCLC 351014. London: Dent. OCLC 2737784. Chicago: The University of Chicago Press (1982 paperback reprint with a new introduction by Felipe Gossett). ISBN 978-0-226-87132-5.

Ffynonellau eraill

golygu
  • Batchelor, Jennifer (ed.) (1992), Don Carlos/Don Carlo, London: John Calder; New York: Riverrun. ISBN 0-7145-4208-3.
  • De Van, Gilles (trans. Gilda Roberts) (1998), Verdi’s Theater: Creating Drama Through Music. Chicago & London: University of Chicago Press. ISBN 0-226-14369-4 (hardback), ISBN 0-226-14370-8
  • Gossett, Felipe (2006), Divas and Scholar: Performing Italian Opera, Chicago: University of Chicago Press. ISBN 0-226-30482-5
  • Martin, George, Verdi: His Music, Life and Times (1983), New York: Dodd, Mead and Company. ISBN 0-396-08196-7
  • Parker, Roger (2007), The New Grove Guide to Verdi and His Operas, Oxford & New York: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-531314-7
  • Pistone, Danièle (1995), Nineteenth-Century Italian Opera: From Rossini to Puccini, Portland, OR: Amadeus Press. ISBN 0-931340-82-9
  • Warrack, John and West, Ewan (1992), The Oxford Dictionary of Opera New York: OUP. ISBN 0-19-869164-5
  • Werfel, Franz and Stefan, Paul (1973), Verdi: The Man and His Letters, New York, Vienna House. ISBN 0-8443-0088-8

Cyfeiriadau

golygu
  1. Kimbell 2001, yn Holden t. 1002. Budden, tt.   Mae 15–16, yn atgyfnerthu hyn gyda manylion y ddrama.
  2. 2.0 2.1 Budden, tt. 23-25
  3. Kimbell 2001, t. 1002, yn nodi bod "peth o'r deunydd a ddilëwyd o hwn yn gwasanaethu fel yr hadau ar gyfer y 'Lacrymosa' yn y Requiem ".
  4. Budden, t. 25
  5. 5.0 5.1 Budden, t. 4
  6. "Don Carlos". Instituto Nazionale di Studi Verdiani. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-05. Cyrchwyd 5 November 2010.
  7. Diego, Cardinal de Espinosa ar y pryd, ond ni chrybwyllwyd hynny yn yr opera

Dolenni allanol

golygu