Carreg Lochmaben: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:58, 22 Mawrth 2010

Carreg a saif mewn cae yn Dumfries a Galloway ac a oedd unwaithg yn rhan o gylch o gerrig o'r cyfnod Celtaidd ydy Carreg Lochmaben. Arferid galw'r garreg ar un cyfnod yn Lochmabonstone neu 'Garreg Ffin' gan iddi gael ei defnyddio fel man cyfarfod pwysig drwy hanes. Mae'n 7 troedfedd o uchder a 18 troedfedd o ran cylchred. Credir ei bod yn pwyso deg tunnell. Gwenithfaen yw ei gwneuthuriad wedi ei threulio gan rewlifoedd.

Carreg Lochmaben

Mae'r enw'n gysylltiedig a'r duw Celtaidd Mabon. Ystyr 'clach' ydy carreg, nid llyn, fel a geir mewn enw carreg arall nid nepell, sef: 'Clackmannan'.


Gweler hefyd