Llanfabon
Plwyf ym Merthyr Tudful oedd Llanfabon, wedi ei lleoli tua 5 milltir i'r gogledd-gogledd-orllewin o Gaerffili. Roedd yng ngwmwd Senghenydd, ym Morgannwg.
Math | anheddiad dynol, plwyf sifil, plwyf |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6416°N 3.2813°W |
Yn yr ardal yma roedd teulu Llanbradach yn afer byw. Cysgrwyd yr eglwys leol i Sant Mabon, a galwyd hi ar ei ôl. Mae Mabon, fodd bynnag yn enw llawer hŷn na hyn ac yn deillio o'r duw Celtaidd Mabon fab Modron neu Maponos.
Yn Eglwys Sant Mabon ceir cofeb i gofio am rai o'r bechgyn a laddwyd yn Nhanchwa Glofa'r Albion, Cilfynydd, ar 23 Mehefin 1894.[1] Collwyd 290 o fechgyn a 123 o geffylau yn y ffrwydriad. Daethpwyd i'r canlyniad mai ffrwydriad nwy achosodd y gyflafan, ond nid oedd tystiolaeth beth gynheuodd y ffrwydriad felly ni chyhuddwyd y perchnogion, yr Albion Steam Coal Company, o drosedd.
Gweler hefyd
golygu- Mabon (Mabon fab Modron)
- Mabyn (mab Brychan, Brenin teyrnas Brycheiniog yn y 5g)
- Maponos (ffurf Lladin)
- St Mabyn (pentref yng Nghernyw
- Carreg Lochmaben, yr Alban
- Tanchwa Senghennydd, 14 Hydref 1913. Collodd 430 o fechgyn eu bywydau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Albion Colliery: The forgotten mining disaster; gwefan y BBC; adalwyd 3 Medi 2016.