Nofelydd, awdur straeon byrion, dramodydd, beirniad llenyddol, a diplomydd Mecsicanaidd oedd Carlos Fuentes Macías (11 Tachwedd 192815 Mai 2012) a oedd yn un o brif lenorion el boom latinoamericano ac yn nodedig am ei nofelau arbrofol. Fe'i ystyrir yn un o awduron gwychaf llên Mecsico yn yr 20g.

Carlos Fuentes
Ganwyd11 Tachwedd 1928 Edit this on Wikidata
Dinas Panama Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mai 2012 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad Nacional Autónoma de México
  • The Grange School, Santiago Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, diplomydd, nofelydd, cyfreithiwr, newyddiadurwr, bardd-gyfreithiwr, rhyddieithwr, dramodydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, darlithydd, critig, polymath Edit this on Wikidata
Swyddambassador of Mexico to France Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Death of Artemio Cruz, Terra Nostra, The Hydra Head, The Old Gringo Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, theatr Edit this on Wikidata
PriodRita Macedo, Silvia Lemus Edit this on Wikidata
PlantCarlos Fuentes Lemus Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Gwobr y Pedwar Rhyddid - Rhyddid Mynegiant, Gwobr Rómulo Gallegos, Gwobr Xavier Villaurrutia, Gwobr Miguel de Cervantes, Menéndez Pelayo International Prize, Gwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Grinzane Cavour Prize, Belisario Domínguez Medal of Honor, Alfonso Reyes International Prize, Gwobr Formentor, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rydd Berlin, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Bordeaux Montaigne, Premio Real Academia Española, honorary doctorate of the University of Vigo, honorary doctorate of the University of the Balearic Islands, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Urdd Isabel la Católica, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Chevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Urdd Teilyngdod (Chili), gradd er anrhydedd Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganed Carlos Fuentes Macías ar 11 Tachwedd 1928 yn Ninas Panama, Panama, i deulu Mecsicanaidd.[1] Diplomydd o Veracruz oedd ei dad, a theithiodd y teulu ar draws Gogledd America, De America, ac Ewrop yn ystod magwraeth Carlos. Dysgodd Saesneg yn 4 oed yn Washington, D.C. a mynychodd yr ysgol yno. Yn 16 oed, symudodd Carlos i Ddinas Mecsico i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Genedlaethol Mecsico. Yn y cyfnod hwn, fe gyfrannodd erthyglau at y papur newydd dyddiol Hoy, a dechreuodd ysgrifennu straeon byrion yn ei amser rhydd. Wedi iddo raddio, aeth Carlos i'r Swistir i astudio'r gyfraith ryngwladol yn yr Athrofa Astudiaethau Rhyngwladol (IHEI) yng Ngenefa.[2]

Cafodd gyfnod gwrthryfelgar yn ei ddauddegau, yn groes i daliadau bwrdeisaidd ei rieni, ac ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol. Gadawodd y blaid ym 1962, ond disgrifiodd ei hun yn Farcsydd o hyd.[1]

Gyrfa ddiplomyddol llywodraethol golygu

Gwasanaethodd yn aelod o ddiprwyaeth Mecsico i'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol ym 1950–52. Dychwelodd i famwlad ei deulu a gweithiodd i Brifysgol Mecsico ym 1955–56 ac yn swyddog diwylliannol i'r llywodraeth o 1957 i 1959.[1]

Gwasanaethodd Fuentes yn llysgennad Mecsico i Ffrainc o 1975 i 1977. Penderfynodd Fuentes dderbyn y swydd honno er cof am ei dad, ond ymddiswyddodd yn sgil penodi Gustavo Díaz Ordaz, cyn-arlywydd Mecsico, yn llysgennad i Sbaen. Yn ystod arlywyddiaeth Díaz Ordaz llofruddiwyd cannoedd o brotestwyr gan y lluoedd arfog yn Tlatelolco, Dinas Mecsico, ac ildiodd Fuentes ei swydd ddiplomyddol i ddangos ei wrthwynebiad.[2]

Gyrfa lenyddol golygu

Ar gychwyn ei yrfa lenyddol, sefydlodd Fuentes y cylchgrawn llenyddol Revista Mexicana de literatura (1954–58). Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, Los días enmascarados, ym 1954, a'i nofel gyntaf, La región más transparente, ym 1958. Nodir ei ffuglen o'r cychwyn gan gyfuniad o elfennau realaidd a ffantastig, yn debyg i'r genre realaeth hudol; archwiliadau o ddiwylliant a hanes Mecsico ac America Ladin ynghyd â bydolwg gosmopolitanaidd; technegau megis yr ymson mewnol ac ôl-fflachiau; a chymysgedd o briodieithoedd gan ei gymeriadau. Mae'n debyg ei waith beiddgaraf ydy'r nofel Terra nostra (1975), ymdrech ganddo i gyfosod lleisiau'r awduron James Joyce o Ulysses ac Alexandre Dumas o Le Comte de Monte-Cristo.

Ysgrifennodd hefyd sawl drama, y pwysicaf ohonynt Todos los gatos son pardos (1970) sydd yn traddodi hanes y goncwest Sbaenaidd. Prif gymeriad y ddrama hon ydy La Malinche, un o'r Nahua a chariad Hernán Cortés a honnir iddi gyflafareddu rhwng y Sbaenwyr a'r Mecsicanwyr brodorol. Adolygwyd Todos los gatos gan Fuentes ar ffurf Ceremonias del alba ym 1991.

Cyhoeddodd Fuentes sawl cyfrol o feirniadaeth ar bynciau llên America Ladin a llenyddiaeth Sbaeneg, yn gyntaf oll La nueva novela hispanoamericana (1969) sydd yn ymwneud â'r "nofel newydd" a fu'n brif ffurf lenyddol el boom latinoamericano yn y 1960au a'r 1970au. Ysgrifennodd hefyd werthfawrogiad o feistri llenyddiaeth Sbaeneg glasurol, Miguel de Cervantes (Cervantes; o, la critica de la lectura; 1976), ac ysgrif hir yn trin a thrafod diwylliannau'r Sbaenwyr a'r Sbaen-Americanwyr, El espejo enterrado/Buried Mirror (1992), a gyhoeddwyd yn Sbaeneg ac yn Saesneg ar yr un pryd.

Ym 1987 rhoddwyd iddo Wobr Cervantes, y wobr lenyddol uchaf ei bri yn y byd Sbaeneg.

Bywyd personol golygu

Priododd Fuentes â'r actores Rita Macedo (1925‍‍–93), un o sêr yr oes aur yn sinema Mecsico, ym 1959. Cawsant un ferch, Cecilia (g. 1962), cyn iddynt ysgaru ym 1973. Priododd Fuentes am yr eildro â'r newyddiadurwraig Silvia Lemus ym 1976, a chawsant un mab, Carlos (1973–99), ac un ferch, Natasha (1974–2005).[2]

Bu farw Carlos Fuentes yn Ninas Mecsico ar 15 Mai 2012 yn 83 oed.[1]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

Nofelau golygu

  • La región más transparente (1958).
  • Las buenas conciencias (1959).
  • Aura (1962).
  • La muerte de Artemio Cruz (1962).
  • Cambio de piel (1967).
  • Terra nostra (1975).
  • La cabeza de la hidra (1978).
  • Una familia lejana (1980).
  • Gringo viejo (1985).
  • Cristóbal nonato (1987).
  • Diana; o, la cazadora solitaria (1994).
  • La frontera de cristal: una novela en nueve cuentos (1995).
  • Los años con Laura Díaz (1999).
  • Instinto de Inez (2001).
  • La voluntad y la fortuna (2008).

Casgliadau o straeon byrion golygu

  • Los días enmascarados (1954).
  • Constancia, y otras novelas para vírgenes (1989).
  • El naranjo; o, los círculos del tiempo (1993).
  • Inquieta compañía (2004).
  • Todas las familias felices (2006).

Dramâu golygu

  • Todos los gatos son pardos (1970).

Ysgrfiau a beirniadaeth golygu

  • La nueva novela hispanoamericana (1969).
  • Cervantes; o, la critica de la lectura (1976).
  • El espejo enterrado/Buried Mirror (1992).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Carlos Fuentes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Nick Caistor, "Carlos Fuentes obituary", The Guardian (15 Mai 2012). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2020.