Castell Caer

castell yn ninas Caer

Mae Castell Caer yn adeilad hanesyddol yn ninas Caer. Mae wedi'i leoli ar eithaf de-orllewin yr ardal sy'n ffinio â waliau'r ddinas. Saif y castell ar boncyn sy'n edrych dros Afon Dyfrdwy. Yng nghyfadeilad y castell mae'r rhannau sy'n weddill o'r castell canoloesol ynghyd â'r adeiladau neoglasurol a ddyluniwyd gan Thomas Harrison a godwyd rhwng 1788 a 1813. Defnyddir rhannau o'r adeiladau neoglasurol heddiw fel Llysoedd y Goron ac fel amgueddfa filwrol. Mae'r amgueddfa a'r gweddillion canoloesol yn atyniad i dwristiaid.

Castell Caer
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1069 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaer
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.1853°N 2.8923°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Normanaidd Edit this on Wikidata
PerchnogaethEnglish Heritage Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Adeiladwyd y castell ym 1070 gan Hugh d'Avranches.[1] Mae'n bosibl iddo gael ei adeiladu ar safle amddiffynfa Sacsonaidd gynharach ond nid yw hyn wedi'i gadarnhau. Ei brif bwrpas oedd fel cadarnle i'r Saeson ac wedyn y Normaniaid i ymosod ar Gymru.

Byddai'r strwythur gwreiddiol wedi bod yn gastell mwnt a beili gyda thŵr pren. Yn y 12g disodlwyd y tŵr pren gan dŵr carreg sgwâr, Tŵr y Faner. Yn ystod yr un ganrif adeiladwyd y porth carreg i'r beili mewnol. Tŵr Agricola yw'r enw ar hyn bellach ac ar ei lawr cyntaf mae capel y Santes Fair de Castro. Mae'r capel yn cynnwys eitemau o bensaernïaeth Normanaidd. Yn y 13g, yn ystod teyrnasiad Harri III, adeiladwyd waliau'r beili allanol. Cafodd y porth yn Nhŵr Agricola ei gau i fyny ac adeiladwyd llety preswyl, gan gynnwys Neuadd Fawr, ar hyd wal ddeheuol y beili mewnol. Yn ddiweddarach yn y ganrif, yn ystod teyrnasiad Edward I, adeiladwyd porth newydd i'r beili allanol. Roedd dau dŵr hanner drwm o bob ochr iddo ac roedd ganddo bont godi dros ffos 8 metr (26 troedfedd) o ddyfnder. Roedd ychwanegiadau pellach i'r castell ar yr adeg hon yn cynnwys siambrau unigol i'r Brenin a'r Frenhines, capel a stablau newydd.[2]

Wedi Priodas Llywelyn Fawr a Siwan yn Eglwys Gadeiriol Caer cynhaliwyd eu gwledd priodas yng Nghastell Caer.[3]

 
Y capel Normanaidd

Ymysg y bobl amlwg a charcharwyd yng Nghastell Caer oedd Gruffudd ap Cynan,[4] Richard II ac Eleanor Cobham, gwraig Humphrey, Dug Caerloyw, ac Andrew de Moray, arwr Brwydr Pont Stirling. [5] Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, cipiwyd a charcharwyd cefnogwr yr Iorciaid, John Neville, Ardalydd 1af Montagu yn y castell gan y Lancastriaid yn dilyn Brwydr Blore Heath, ger tref Market Drayton, Swydd Amwythig, ym 1459. Fe'i rhyddhawyd o gaethiwed yn dilyn buddugoliaeth yr Iorciaid yn Northampton ym 1460.[6] Y tu allan i giât y beili allanol roedd ardal o'r enw Gloverstone lle trosglwyddwyd troseddwyr a oedd yn aros i gael eu dienyddio i awdurdodau'r ddinas. Ailadeiladwyd y Neuadd Fawr yn niwedd y 1570au.[1]

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr roedd Caer yn nwylo'r Brenhinwyr.[1] Ymosodwyd ar y castell gan luoedd Seneddol ym mis Gorffennaf 1643, ac ym mis Ionawr ac Ebrill 1645.[7] Ynghyd â gweddill y ddinas, bu dan warchae rhwng Medi 1645 a Chwefror 1646.[2] Yn dilyn y rhyfel cartref defnyddiwyd y castell fel carchar, llys a swyddfa dreth. Un a chafodd ei garcharu yn y castell yn ystod y cyfnod hwn oedd y bardd a chyfieithydd Rowland Vaughan, Caer Gai.[8] Ym 1687 mynychodd Iago II yr Offeren yng nghapel y Santes Fair de Castro. [5] Yn 1696 sefydlwyd bathdy Caer oedd yn cael ei reoli gan Edmund Halley mewn adeilad cyfagos i'r tŵr Hanner Lleuad. Yn ystod gwrthryfel Jacobin 1745, adeiladwyd llwyfan magnel ar y wal sy'n edrych dros yr afon.

Adfer y castell golygu

 
Engrafiad gan y brodyr Buck o Gastell Caer ym 1747

Erbyn diwedd y 18g roedd llawer o adeiladwaith y castell wedi dirywio ac roedd John Howard, diwygiwr carchardai, yn arbennig o feirniadol o'r amodau yn y carchar. Comisiynwyd Thomas Harrison i ddylunio carchar newydd. Cwblhawyd hyn ym 1792 a'i ganmol fel un o'r carchardai orau a adeiladwyd yn Lloegr. Ym 1877 cafodd Cadwaladr Jones ei grogi yng ngharchar Dolgellau am lofruddiaeth a chladdwyd ei weddillion mewn bedd heb ei gysegru yn nhir y carchar. Pan gaeodd carchar Dolgellau ym 1878 codwyd corff Jones i'w ail gladdu yn nhir carchar castell Caer.[9] Yna aeth Harrison ymlaen i ailadeiladu Neuadd y Sir ganoloesol mewn arddull neoglasurol. Hefyd, adeiladodd ddwy adain newydd, un i weithredu fel barics, a'r llall fel arfogaeth, a dyluniodd fynedfa newydd enfawr i safle'r castell, a alwyd y Propylaeum. Codwyd yr adeiladau, a oedd i gyd mewn arddull neoglasurol, rhwng 1788 a 1822.[1] Mae'r hanesydd pensaernïol Nikolaus Pevsner yn nodi bod gwaith Harrison yn "un o henebion mwyaf pwerus y Diwygiad Groegaidd yn Lloegr gyfan".[10]

Ym mis Chwefror 1867, arweiniodd y gwrthryfelwr Gwyddelig Michael Davitt grŵp o ddynion yr IRB o Haslingden ar gyrch aflwyddiannus i ddwyn arfau o'r castell.[11]

Ym 1873 dechreuodd y Fyddin Brydeinig defnyddio'r castell ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio yn Swydd Gaer a daeth y castell yn ddepo ar gyfer dwy fataliwn o'r 22ain Catrawd Troed (Swydd Gaer).[12] O dan ddiwygiadau Childers ym 1881, daeth yr 22ain gatrawd yn Gatrawd Swydd Gaer gyda'i depo yn y castell.

Ym 1925, wedi cael ei ddefnyddio fel warws ac ystorfa arfau, ailgysegrwyd y crypt a chapel Twr Agricola gan Esgob Caer i'w ddefnyddio gan Gatrawd Swydd Gaer.[13] Parhaodd y castell i fod yn ddepo i'r Gatrawd hyd 1939 pan symudwyd y gatrawd i Farics Dale.[14]

Y castell heddiw golygu

 
Propylaeum Harrison, y fynedfa seremonïol i'r Castell

Mae mynediad i'r castell o Ffordd Grosvenor trwy'r Propylaeum, Adeilad Rhestredig Gradd I. Mae hyn yn cynnwys goruwch adeilad enfawr wedi'i osod ar golofnau Dorig gyda gofod eang (areostyle), gyda phorthdai ar ffurf demlau bob ochr iddo. Yn union o'i blaen mae hen Neuadd y Sir (sydd hefyd wedi'i rhestru'n Radd I) sydd bellach yn gartref i Lysoedd y Goron. Mae gan ei ffasâd 19 o faeau, y mae'r saith bae canolog, sydd yn gwthio allan yn ffurfio cyntedd Dorig. I'r chwith mae hen floc y barics sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Filwrol Swydd Gaer. I'r dde mae'r bloc a oedd yn wreiddiol yn ystordy arfau ac yn ddiweddarach yn westy swyddogion. Mae'r ddau floc mewn arddull neoglasurol ac maent wedi'u rhestru'n Radd I.

Ymhellach i'r dde mae olion y castell Normanaidd. Mae Tŵr Agricola yn Adeilad Rhestredig Gradd I. Mae wedi'i adeiladu mewn cerrig nadd tywodfaen gyda tho metel dros dri llawr. Mae gan y llawr gwaelod borth wedi'i rwystro ac i'r dde o'r porth mae tyred grisiau sy'n ymestyn allan ychydig. Yn fewnol, mae'r llawr gwaelod yn cynnwys crypt, ac mae'r llawr cyntaf yn cynnwys capel y Santes Fair Castro. Mae Tŵr Agricola hefyd yn heneb restredig.[15] Mae'r capel yn parhau i gael ei gysegru fel capel catrodol Catrawd Swydd Gaer. Mae ei nenfwd wedi'i orchuddio â ffresgoau sy'n dyddio o ddechrau'r 13g sy'n darlunio ymweliadau a gwyrthiau'r Forwyn Fair a ddatgelwyd yn ystod gwaith cadwraeth yn y 1990au.[1]

 
Tŵr Agricola

I'r de a'r gorllewin, mae'r llenfuriau, sy'n cynnwys y Tŵr Hanner Lleuad, Tŵr y Faner a'r llwyfan magnel, wedi'u rhestru'n Radd I. Rhestrir waliau eraill yng nghyfadeilad y castell yn Radd II. Dyma'r waliau cynnal a rheiliau'r cwrt blaen a ddyluniwyd gan Thomas Harrison, a dwy ran arall o'r llenfuriau canoloesol. Yng nghwrt y castell mae cerflun o'r Frenhines Victoria dyddiedig 1903 gan Pomeroy.[10] Rheolir y beili mewnol gan Gyngor Gorllewin Swydd Gaer a Dinas Caer ar ran English Heritage.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Information Sheet: Chester Castle |, Cyngor Cheshire West and Chester
  2. 2.0 2.1 Northall, John (2006), Chester Castle, Castles of Wales, http://www.castlewales.com/chester.html, adalwyd 10 Mehefin 2020
  3. FEAR, Alan. "A SEARCH FOR IDENTITY AND MEMORY IN SHARON KAY PENMAN'S NOVEL HERE BE DRAGONS" (PDF). Cyrchwyd 10 Mehefin 2006.
  4. "GRUFFUDD ap CYNAN (c. 1055 - 1137), brenin Gwynedd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  5. 5.0 5.1 Richards 1947.
  6. Laughton, Jane (2008). Life in a late medieval city: Chester, 1275–1520. Windgather Press. t. 36. ISBN 978-1-905119-23-3.
  7. Phillips, A. D. M.; Phillips, C. B. (2002), A New Historical Atlas of Cheshire, Chester: Cyngor Swydd Gaer, p. 37, ISBN 0-904532-46-1
  8. "VAUGHAN, ROWLAND (c. 1590 -1667), Caer Gai, Sir Feirionnydd. bardd, cyfieithydd, a Brenhinwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  9. Bye-gones relating to Wales and the border counties, Mai 1893 – Dolgelley Gaol adalwyd 10 Mehefin 2020
  10. 10.0 10.1 Pevsner & Hubbard 2003
  11. Marley, Laurence (2007). Michael Davitt. Four Courts Press. t. 26. ISBN 978-1-84682-265-0.
  12. "Training Depots". Regiments.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2006. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
  13. Richards 1947, t. 102.
  14. "Military & Wartime Activities during the 20th Century" (PDF). History of Upton by Chester. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
  15. Pastscape:Agricola Tower, Historic England, http://www.pastscape.org.uk/hob.aspx?hob_id=1100771, adalwyd 10 Mehefin 2020

Ffynonellau golygu