Y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol

Cymdeithas gyfrinachol oedd y Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (Saesneg: Irish Republican Brotherhood, IRB; Gwyddeleg: Bráithreachas Phoblacht na hÉireann) a sefydlwydd gyda'r bwriad i sefydlu Iwerddon gyfan yn "weriniaeth ddemocrataidd annibynnol". Bu'r mudiad yn bodoli rhwng 1858 a 1924.[1] Roedd yn allweddol yn nhrefniadau Gwrthryfel y Pasg yn 1916.

Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol
Bráithreachas Phoblacht na hÉirean
Irish Republican Brotherhood
SloganÉirinn go Brách
("Iwerddon am Byth!")
Sefydlwyd1858
Daeth i ben1924
Rhagflaenwyd ganYr iwerddon Ifanc
(Young Ireland)
PapurThe Irish People
Rhestr o idiolegauCenedlaetholdeb Gwyddelig
Plaid yn y DUY Gwirfoddolwyr Gwyddelig (1913–1917)
Y Fyddin Weriniaethol
(Irish Republican Army)
(1917–1922)
Byddin Iwerddon
(Irish Army)
(1922–1924)
Cysylltiadau Americanaidd cryfY Frawdoliaeth Ffeniaidd
Fenian Brotherhood
(1858–1867)
Clan na Gael (1867–1924)
LliwGwyrdd ac Aur

Sefydlwyd chwaer-fudiad yn Unol Daleithiau America gan John O'Mahony a Michael Doheny, mudiad a ddaeth i'w adnabod fel y Frawdolaeth Ffenaidd (Gwyddeleg: Bráithreachas na bhFíníní; Saesneg: Fenian Brotherhood, ac mewn Gaeleg, yn ddiweddarach: Clan na Gael). Gelwir aelodau'r ddau fudiad yn 'Ffeniaid'.[2] Cymerodd y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (yr IRB) ran allweddol yn hanes Iwerddon (1801-1922), rhan bwysicach efallai nag unrhyw fudiad arall. Yr IRB oedd prif ladmerydd cenedlaetholdeb Gwyddelig, yn ystod yr ymgyrch dros hunanlywodraeth i Iwerddon, ac yn yr ymgyrch i dorri'n rhydd oddi wrth 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Etifeddodd y mudiad enw da rhagflaenwyr megis y 'Gwyddelod Unedig' (United Irishmen) o'r 1790au ac 'Iwerddon Ifanc' (Young Ireland) y 1840au.

Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol a gynlluniodd Wrthryfel y Pasg yn 1916, ac yn y man a esgorodd ar sefydlu'r Dáil Éireann cyntaf. Wedi Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ac arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, gwawriodd llawer o'u hamcanion pan sefydlwyd 'Gwladwriaeth Rydd Iwerddon'.[3] Ond,nid oedd yn cynnwys Gogledd Iwerddon.

Gwrthryfel y Pasg golygu

 
Michael Collins, Llywydd olaf yr IRB yn 1921.

Sefydlwyd yr Ulster Volunteers yn 1912 er mwyn atal annibyniaeth i Iwerddon, a hynny drwy drais. O stabl y frawdoliaeth Wyddelig y daeth mudiad arall, sef y Gwirfoddolwyr Gwyddelig, a hynny yn 1913.[4] Defnyddiodd y Frawdoliaeth y Gwirfoddolwyr i ricriwtio aelodau cadarn e.e. Joseph Plunkett, Thomas MacDonagh, a Patrick Pearse, a gyfetholwyd yn 1915 i brif bwyllgor y Frawdoliaeth, sef yr Uwch-Gyngor, gyda Seán Mac Diarmada yn un o'r prif gynllunwyr stategol. Gydag aelodau o Fyddin Dinasyddion Iwerddon (Clarke, MacDermott, Eamonn Ceannt a James Connolly) unwyd y ddau fudiad i gynllunio fel un corff, ar gyfer gwrthryfel militaraidd a fu'n llwyddiant.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. McGee, tud. 15.
  2. Sefydlwyd y Frawdoliaeth Ffenaidd ychydig wedi sefydlu'r Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol yn 1858.(ibid. 92)
  3. Porth Termau Cenedlaethol Cymru; adalwyd Mawrth 2016
  4. Charles Townshend, Easter 1916: The Irish rebellion, 2005; tud. 41, Tim Pat Coogan, The IRA, 1970, tud. 33; F. X. Martin, The Irish Volunteers 1913–1915, 1963, tud. 24, Michael Foy & Brian Barton, The Easter Rising, 2004, tud. 7, Eoin Neeson, Myths from Easter 1916, 2007, tud. 79, P. S. O’Hegarty, Victory of Sinn Féin, tud. 9–10; Michael Collins, The Path to Freedom, 1922, tud. 54; Sean Cronin, Irish Nationalism, 1981, tud. 105; P. S. O’Hegarty, A History of Ireland Under the Union, tud. 669; Tim Pat Coogan, 1916: Easter Rising, tud. 50; Kathleen Clarke, Revolutionary Woman, 1991, tud. 44; Robert Kee, The Bold Fenian Men, 1976, tud. 203, Owen McGee, The IRB: The Irish Republican Brotherhood from the League to Sinn Féin, 2005, tud. 353–354.