Ystâd yn nyffryn Afon Ystwyth, Ceredigion, yw Hafod Uchtryd, a leolir gerllaw pentrefi Pontarfynach, Cwmystwyth a Phont-rhyd-y-groes oddi ar ffordd y B4574. Roedd y llethr uwchben yr afon Ystwyth yn edrych tuag at y dwyrain yn safle hynafol i annedd. Defnyddiwyd y safle'n wreiddiol fel llety ar gyfer penaethiaid llwythau Cymreig, cyn dod yn gartref i foneddigion.[1]

Hafod Uchtryd
darlun a wnaed yn 1795
Mathystad, gardd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.34368°N 3.8223°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethThomas Johnes, teulu Johnes Edit this on Wikidata
Y plasty tua 1795. Llun gan John Warwick Smith.
Golygfa o Hafod gan John Warwick Smith
Y plasty wedi 1795; diddyddiad. Gellir gweld i estyniadau cael eu codi.

Hanes golygu

Roedd tiroedd Hafod Uchtryd o fewn ffiniau Abaty Sistersiaidd Ystrad Fflur. Wedi diddymiad y mynachlogydd gan Harri VIII, brenin Lloegr (1536–1540) yn ystod Diwygiad Protestannaidd Lloegr, rhannwyd tiroedd yr abaty a rhoddwyd hwy i denantiaid newydd. Rhoddwyd rhai o diroedd Ystrad Fflur i'r teulu Herbert, a ddaeth i Geredigion yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, brenhines Lloegr. Daeth Syr Richard Herbert o Bengelly a Chwmystwyth yn Uchel Siryf Sir Aberteifi ar 22 Tachwedd 1542.

A rent roll dated 1540 for the granges of Mevenith, Cwmystwyth and Hafodwen (‘newe leases’) reveals that W[illia]m Herbert and Morgan Herbert were tenants of several properties formerly belonging to the Abbey of Strata Florida, including significantly:

Havodychdryd Doleygors Pantycrave Bwlch Gwalter parcell of Ty Loge [...] 4 parte of Pwll Piran parte of Pregnant(sic) Prignant Isaf and Blaenmerin and Alltgron. Havodychdryd or Hafod Uchtryd is the name of the house and demesne and the other properties.[2]

Daeth yr ystâd yn enwog yn hwyr yn yr 18g pan ddatblygwyd y lle gan y perchennog Thomas Johnes (1748-1816), i ddod yn esiampl o'r cysyniad Darluniaidd o dirwedd; roedd yr ystâd a'r tŷ Gothig yn destun ar gyfer nifer o luniau a disgrifiadau a gynhyrchwyd gan ymwelwyr cyfoes. Ceir hanes ei hanes mewn nifer o lyfrau, yn fwyaf nodedig Peacocks in Paradise gan Elizabeth Inglis Jones,[3] a The Hafod Landscape gan Jennifer Macve.[4]

Safai'r ystâd o fewn plwyf Llanfihangel y Creuddyn. Roedd capel anwes Eglwys Newydd[5] yn y blwyf honno, ac ail-adeiladwyd ef ar gyfer Thomas Johnes gan James Wyatt ym 1801.

Roedd ystâd Hafod ar ei orau rhwng 1790 ac 1810. Roedd rhwng 405 a 485 hectar (1000-1200 acer) o goedwig Llarwydd Ewropeaidd a Phinwydd Albanaidd, a gafodd ei phlannu ar y tir uchel gan Colonel Thomas Johnes, gyda derw a ffawydd ar y tiroedd isel mwy ffrwythlon. Er iddynt ddioddef deufis o sychder, dim ond 200 o'r 80,000 llarwydd a blannwyd ym mis Ebrill 1796 a fu farw. Yn dilyn ymweliad i'r ystâd ym 1798 gan Charles Howard, 11fed Dug Norfolk, Llywydd yr Royal Society of Arts, annogwyd Johnes i gynnig ei hun ar gyfer gwobr y "Society for Silviculture". Gwobrwywyd ef â phum medal aur:[6]

  • 1800 - The Gold Medal, being the Premium offered for planting Larch – Trees was this Session adjudged to Thomas Johnes MP of Hafod.
  • 1801 – The Gold Medal, being the Premium offered for sowing, planting, and inclosing Timber-trees, was this Session adjudged to Thomas Johnes MP of Hafod.
  • 1802 - The Gold Medal, being the Premium offered for sowing, planting, and enclosing Timber-trees was this session adjudged to Thomas Johnes MP of Hafod
  • 1805 – The Gold Medal of the Society was this Session adjudged to Thomas Johnes MP of Hafod, in Cardiganshire, for his plantations of Oaks.
  • 1810 - The Gold Medal of the Society was this Session adjudged to Thomas Johnes, Esq. MP of Hafod in Cardiganshire, for his Plantations of Larch and other trees.

Planwyd tua tair miliwn o goed ar yr ystâd yn ystod tenantiaeth Colonel Johnes.

Cymdogion o nôd golygu

Mae'r ystâd yn rhannu ffin ar hyd yr Afon Ystwyth, gydag ystâd Trawsgoed.

Perchnogaeth golygu

Dymchwel golygu

Datganwyd fod y plasdy yn wag ym 1946. Erbyn 1958 roedd y tŷ yn adfail a dymchwelwyd ef y flwyddyn honno. Dim ond pentwr o gerrig a'r stablau sy'n weddill. Defnyddir y stablau fel swyddfeydd yr ystâd ar hyn o bryd. Mae rhai adeiladau eraill wedi goroesi ledled yr ystâd, a gellir llogi un o'r rhain fel llety gwyliau.

Heddiw golygu

Erbyn hyn, mae ystâd Hafod yn gorchuddio 200 hectar yn Nyffryn Ystwyth a'r bryniau cyfagos. Mae'r rhan helaeth yn eiddo i'r Comisiwn Coedwigaeth, sydd mewn partneriaeth gydag Ymddirioedolaeth Hafod,[9] yn rheoli prosiectau cadwraeth ac atgyweiriad gyda chymorth ariannu preifat a chyfraniadau cyhoeddus. Ym 1998, derbyniodd ystâd Hafod Estate nawdd o £330,000 gan y Gronfa Loteri Treftadaeth. Paratowyd cynllun rheoli manwl sydd erbyn hyn yn cael ei weithredu. Cyflogir un aelod o staff llawn amser a dau aelod rhan amser i reoli a gweinyddu'r ystâd,[10] yn ogystal ac amryw o staff ar gontractau penodedig.

Gall ymwelwyr ddilyn sawl llwybr sydd wedi eu marcio o amgylch ystâd Hafod, sy'n boblogaidd ymysg twristiaid sy'n mwynhau'r golygfeydd a cherdded yn yr awyr iach.

Llyfryddiaeth golygu

  • George Cumberland, An Attempt to Describe Hafod (1796), sy'n cynnwys map gan William Blake a darluniau gan Thomas Johnes
  • David S. Yerburgh, An Attempt to Depict Hafod (Caersallwyg: Yr awdur, 2000), paralel ffotograffaidd cyfoes i George Cumberland, An Attempt to Describe Hafod
  • George Borrow, Wild Wales (1862)
  • The Annual Biography and Obituary for the Year 1817 (Llundain, 1817)
  • Thomas Nicholas, Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales (Llundain, 1872)

Cyfeiriadau golygu

  1. Wild Wales: Its People, Language and Scenery
  2. "The Hafod Collection" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-09-07. Cyrchwyd 2011-07-31.
  3. Elizabeth Inglis-Jones (1990). Peacocks in Paradise. Gwasg Gomer. ISBN 0863836720
  4. Jennifer Macve (2004). The Hafod Landscape. Hafod trust. ISBN 095279411X
  5.  St. Michael (Hafod), Eglwys Newydd, Llanfihangel-y-Creuddyn. Dyfed Family History Society.
  6.  Royal Society of Arts Awards.
  7. The Annual Biography and Obituary for the Year 1817
  8. Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales
  9. 9.0 9.1 "Hafod Estate". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-27. Cyrchwyd 2011-07-31.
  10. "Log Chute Report, Jon West". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-17. Cyrchwyd 2011-07-31.

Dolenni allanol golygu

Oriel golygu