John Cowell-Stepney
Roedd Syr John Cowell-Stepney, Barwnig 1af (31 Mai 1791 - 15 Mai 1877) yn filwr, yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a chynrychiolodd Bwrdeistref Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin o 1868 i 1874.
John Cowell-Stepney | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1791, 28 Chwefror 1791 |
Bu farw | 15 Mai 1877, 5 Mai 1877 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | gwleidydd, milwr |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Andrew Cowell |
Mam | Justina Maria Stepney |
Priod | Mary Anne Annesley, Euphemia Jamina Murray |
Plant | William Frederick Ross Cowell-Stepney, Arthur Cowell-Stepney, James Charles Murray Cowell-Stepney |
Bywyd Personol golygu
Roedd Syr John yr hynaf o ddau fab i'r Cadfridog Andrew Cowell, yn wreiddiol o Coleshill, Swydd Buckingham, a Maria Justina ei wraig, merch ieuangaf Syr Thomas Stepney, 7fed barwnig Prendergast, Sir Benfro, a Phlas Llanelli, Sir Gaerfyrddin[1]
Roedd yn defnyddio'r enw John Stepney Cowell hyd iddo etifeddu ystadau teulu Stepney[2] ym 1857 pan newidiodd enw'r teulu i Cowell-Stepney o dan delerau ewyllys ei ewythr, Syr John Stepney, 8fed barwnig.
Priododd Mary Anne Annesley, yn Antwerp ym 1820; roedd hi'n ferch i'r Anrhydeddus Robert Annsley; bu iddynt un mab, cyn iddi farw 6 mis ar ôl enedigaeth y plentyn ym Mis Tachwedd 1821. Ym 1823 priododd Euphemia Jemima Murray, merch John Murray, Glenalla, Swydd Donegal, bu iddynt dau fab James, a fu farw yn Rhyfel Crimea ym 1854 ag Arthur a olynodd ei dad fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caerfyrddin.
Gyrfa filwrol golygu
Roedd tad Cowell yn Gadfridog yng Ngwarchodlu'r Coldstream ymaelododd y mab a'r un gatrawd. Bu'n brwydro yn Rhyfel y Penrhyn (1807-1814), rhyfel rhwng lluoedd Prydain a Sbaen a lluoedd Napoleon am reolaeth Penrhyn Iberia. Bu'n ymladd ym mrwydrau Fuentes de Oñoro, Ciudad Rodrigo, Salamanca, Vittoria a Quatre Bras; methodd brwydr Warterloo gan ei fod yn dioddef o ddysentri ar adeg y frwydr. Mewn cyfnodau o heddwch bu'n gwasanaethu yn Ffrainc, Manceinion, Gibraltar a Malta. Cafodd ei benodi'n Is Gyrnol ym 1830. Ysgrifennodd llyfr am ei brofiadau milwrol Leaves from the Diary of an Officer in the Guards
Gyrfa fel tirfeddiannwr golygu
Ym 1857 etifeddodd Cowell-Stepney ystâd teulu Stepney yn Sir Gaerfyrddin ar ôl brwydr gyfreithiol gyda theulu arall oedd yn hawlio'r ystâd. Er mwyn ceisio cael yr incwm gorau o'r ystâd caniataodd adeiladu nifer o strydoedd, siopau a thai ar ei dir, enwodd nifer o'r strydoedd i anrhydeddu ei fywyd a'i deulu megis Stepney Street, Murray Street, Salamanca Road, Glenalla Road, Inkerman Street; strydoedd sy'n bod hyd heddiw.
Gyrfa Wleidyddol golygu
Yn etholiad cyffredinol 1868, penderfynodd sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Caerfyrddin, er ei bod yn 77 mlwydd oed.[3] Wedi ei ethol, prin bu ei gyfraniadau yn y Senedd, er hynny roedd y cyfraniadau hynny yn weddol radical i un o hynafgwyr y sefydliad; roedd yn cefnogi hawl cyfartaledd i Gatholigion ac Iddewon, yn gwrthwynebu rhagfarn grefyddol mewn ysgolion a phrifysgolion ac yn llym ei feirniadaeth o landlordiaid eraill Cymru am roi pwysau ar eu tenantiaid i sicrhau eu pleidlais.[4]
Cafodd ei greu yn farwnig ym 1871.
Ymneilltuodd o'r Senedd ym 1874
Marwolaeth golygu
Bu farw yn ei gartref yn Llundain, 5 St George's Place,[5] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Kensal Green, Llundain
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Erthygl heb deitl - The Cambrian". T. Jenkins. 1877-05-18. Cyrchwyd 2015-08-24.
- ↑ Y Bywgraffiadur STEPNEY , neu STEPNETH (TEULU), Prendergast, sir Benfro [1] adalwyd 24 Awst 2015
- ↑ "TheBoroughs - Llanelly Star". Brinley R. Jones. 1917-07-21. Cyrchwyd 2015-08-24.
- ↑ "DEATH OF SIR JOHN STEPNEY - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1877-05-19. Cyrchwyd 2015-08-24.
- ↑ "MARWOLAETH COL STEPNEY - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1877-05-18. Cyrchwyd 2015-08-24.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Morris |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1868 – 1874 |
Olynydd: Charles William Nevill |