Braich neu gilfach o'r Môr Canoldir yw Môr Liguria[1] (Eidaleg: Mar Ligure; Ffrangeg: Mer Ligurienne). Mae'n ymestyn rhwng arfordir de-ddwyreiniol Ffrainc (Côte d'Azur) ac arfordir gogledd-gorllewinol Yr Eidal (Liguria a Toscana). Mae ynys Corsica yn gorwedd i'r de. Yn y de-ddwyrain mae'r môr yn ffinio â Môr Tirrenia, tra yn y gorllewin mae'n ffinio â phrif ran y Môr Canoldir. Yn ei ben eithaf mae'n gorffen yng Ngwlff Genova.

Môr Liguria
Mathmôr ymylon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
GwladFfrainc, yr Eidal, Monaco Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.4983°N 9.0417°E Edit this on Wikidata
Map

Porthladd pwysicaf y rhanbarth yw Genova. Mae La Spezia a Livorno yn borthladdoedd pwysig eraill ar ei arfordir creigiog.

Môr Liguria (map Eidalaidd). Mae'r llinellau coch yn dangos y ffiniau yn ôl Y Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol; mae'r llinellau glas yn dangos y ffiniau yn ôl yr Istituto Idrografico della Marina (Yr Eidal).

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 50.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.