Michael McGrath

Archesgob Caerdydd

Roedd Michael Joseph McGrath (24 Mawrth 188228 Chwefror 1961) yn Archesgob Caerdydd rhwng 1940 a 1961. Ganed yn ninas Kilkenny, Iwerddon.

Michael McGrath
Ganwyd24 Mawrth 1882 Edit this on Wikidata
Cill Chainnigh Edit this on Wikidata
Bu farw28 Chwefror 1961 Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Rockwell College
  • Prifysgol Genedlaethol Iwerddon
  • St. John's College, Waterford Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Mynyw, Roman Catholic Archbishop of Cardiff Edit this on Wikidata

Fe'i haddysgwyd yn ysgol y Brodyr Cristionogol yn Kilkenny ac yn Ngholeg Rockwell, Tipperary ble y cryfhawyd ei ddiddordeb yn yr Wyddeleg. Enillodd radd B.A. yn yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon. Cafodd radd anrhydedd a D.Litt oddi yno yn ddiweddarach. Astudiodd i fynd yn offeiriad, yng Ngholeg San Ioan, Waterford. Ordeinwyd ef ar 12 Gorffennaf 1908 yn esgobaeth babyddol Clifton. Bu'n gurad yn yr eglwys gadeiriol yno ac yn offeiriad plwyf yn Fishponds ac yn eglwys San Nicolas, Bryste.

Ymddeolodd yn 1918 oherwydd iechyd bregus. Cafodd wahoddiad yn 1921 gan yr Esgob Francis Mostyn i weithio yn esgobaeth Mynyw oherwydd ei ddiddordeb yn yr ieithoedd Celtaidd. Aeth i weithio yn y Fflint av ym Mangor cyn iddo gael ei benodi yn offeiriad plwyf yn Aberystwyth ac yn bennaeth coleg ddiwynyddiaeth, St Mary's College, yn 1928.

Tra roedd yn Aberyswtyth dilynodd gyrsiau llenyddiaeth Gymraeg yr Athro Thomas Gwynn Jones, yng Ngholeg y Brifysgol.

Penodwyd ef yn Esgob Mynyw yn 1935, gan olynu yr Esgob Vaughan a chysegrwyd ef ar 24 Medi. Penodwyd ef yn Archesgob Caerdydd ar farwolaeth yr Archesgob Mostyn. Bu farw yn Ysbyty Gwenffrewi, Caerdydd.

Cyfeiriadau golygu