Mae Oradea (Hwngareg Nagyvárad, Almaeneg Großwardein) yn ddinas yn Rwmania, mewn sir o'r enw Bihor (BH), Transylvania. Mae gan y ddinas boblogaeth o 206,527 (yn ôl cyfrifiad 2002); dydy'r cyfanswm hwn ddim yn cynnwys ardaloedd y tu allan i'r bwrdreisdref, fyddai o gyfri'r ardaloedd hyn, yn codi'r boblogaeth i tua 220,000. Mae Oradea'n un o'r dinasoedd mwyaf llwyddiannus yn Romania.

Oradea
Mathuned ddinesig o fewn Rwmania, prifddinas un o siroedd Rwmania, tref ar y ffin, dinas fawr Edit this on Wikidata
PrifddinasOradea Edit this on Wikidata
Poblogaeth183,105 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1113 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFlorin Birta Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Ceyrat, Coslada, Debrecen, Givatayim, Ivano-Frankivsk, Košice, Linköping Municipality, Mantova, Diamantina Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Bihor Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwmania Rwmania
Arwynebedd116.1 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr142 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBiharia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.0722°N 21.9211°E Edit this on Wikidata
Cod post410001–410609 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Oradea Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFlorin Birta Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolArt Nouveau, pensaernïaeth Faróc Edit this on Wikidata
Neuadd y Dref Oradea

Daearyddiaeth golygu

Mae'r ddinas yn agos at y ffîn gyda Hwngari, ac ar yr afon Crişul Repede.

Hanes golygu

Crybwyllir y dref yn gyntaf o dan yr enw Lladin Varadinum, yn 1113 pan soniwyd am amddiffynfa Oradea - yn 1241, pan oedd angen adnewyddiadau cyflym cyn ymosodiad ar y dref gan y fyddin Mongol-Tataraidd o dan Batu Khan. Dechreuodd y dref dyfu yn y 1500au. Yn y 1700au cynlluniodd y peiriannwr o Fiena, Franz Anton Hillebrandt, y ddinas yn yr arddull baroque, a chodwyd llawer o dirnodau, er enghraifft yr Eglwys Gadeiriol Babyddol, Plas yr Esgob, a'r Muzeul Ţării Crişurilor (Amgueddfa Gwlad y Criş).

Economi golygu

Mae Oradea wedi bod yn un o ddinasoedd mwyaf llwyddiannus Romania ers tro gan fod ffin Hwngari mor agos, gan wneud y ddinas yn fynedfa i Orllewin Ewrop.

Mae cyfradd diweithdra Oradea yn 6.0%, ychydig llai na chyfartaledd Romania, ond yn llawer mwy na chyfartaledd sir Bihor sydd oddeutu 2%. Mae Oradea'n cynhyrchu tua 63% o gynhyrchiadau diwydiannol y sir, gyda thua 34.5% o boblogaeth y sir. Y prif ddiwydiannau yw'r diwydiant dodrefn, y diwydiant gweol a dillad, troedwisgoedd a bwyd.

Yn 2003, agorodd ganolfan fasnachol y Farchnad Lotws yn Oradea – y ganolfan siopa mawr cyntaf i'w hagor yn y ddinas.

Ethnigyddiaeth golygu

Hanesyddol golygu

  • 1910: 69.000 (Romanwyr: 5.6%, Hwngarwyr: 91.10%)
  • 1920: 72.000 (R: 5%, H: 92%)
  • 1930: 90.000 (R: 25%, H: 67%)
  • 1966: 122.634 (R: 46%, H: 52%)
  • 1977: 170.531 (R: 53%, H: 45%)
  • 1992: 222.741 (R: 64%, H: 34%)

Presennol golygu

Yng ngyfrifiad 2002, roedd poblogaeth y ddinas wedi'u rhannu i'r grwpau ethnig canlynol:

Trafnidiaeth golygu

Mae'r rhwydwaith drafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael eu rhedeg gan OTL. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys tair llinell tram (1R, 1N, 2, 3R, 3N) a rhai gwasanaethau bws. Mae gan y ddinas dair gorsaf, Central (Canolog), Vest (Gorllewinol) ac Est (Dwyrainol). Mae Gorsaf Vest yn yr ardal Ioşia, ac mae'r orsaf canolog (galwad "Oradea") yng nghanol y ddinas, ger yr ardal Vie.

Gweler hefyd golygu

Pensaernïaeth golygu

Mae pensaernïaeth Oradea'n cymysg ei natur: ceirg adeiladau'r cyfnod Comiwnyddol yn yr ardaloedd y tu allan i ganol y ddinas, ac adeiladau hanesyddol pert yn yr arddull baroque yng nghanol y ddinas o'r amser pan oedd y ddinas yn rhan o'r Ymerodraeth Awstria-Hwngari.

Atyniadau golygu

Mae canol y ddinas yn hardd ac yn werth ymweliad, gan gynnwys sba iechyd Băile Felix neu daith trên i'r tu allan i'r ddinas.

Llefydd poblogaidd eraill:

  • Muzeul Ţării Crişurilor - amgueddfa baroque gyda 365 ffenestri.
  • Catedrala barocă - eglwys gadeiriol baroque mwyaf Romania
  • Cetatea Oradea - Amddiffynfa Oradea
  • Biserica cu Lună - Eglwys unigol yn Ewrop gyda chloc sy'n dangos gweddau'r Lleuad
  • Pasajul "Vulturul Negru" - Lôn yr "Eryr Ddu"
  • Muzeul "Ady Endre" - tŷ un o beirdd mwyaf Hwngariaidd
  • Teatrul de Stat - Theatr Ystadol.
  • Mae tua 100 o eglwysi yn Oradea, yn cynnwys 3 synagogau (dim ond un dal yn wasanaeth) ac eglwys y Bedyddwyr mwyaf yn Nwyrain Ewrop.

Pobol enwog golygu

(de:Liste der Erzbischöfe von Großwardein)

Dolenni allanol golygu

Oradea webcam Archifwyd 2007-10-14 yn y Peiriant Wayback.