Wikipedia

gwyddoniadur rhydd

Gwyddoniadur rhyngwladol, amlieithog a reolir gan y Sefydliad Wicimedia yw Wicipedia (Saesneg: Wikipedia). Dechreuodd y fersiwn Saesneg ar 15 Ionawr 2001, ac yn ystod y pum mlynedd ddilynol, dechreuwyd fersiynau mewn dros 200 iaith arall. Ar ddiwedd 2001, roedd dros 20,000 erthygl yn y fersiwn Saesneg a 18 o wahanol ieithoedd. Erbyn Mehefin 2010, roedd 3.3 miliwn erthygl.

Wicipedia
Sffêr gwyn a grëwyd gyda darnau herclif. Dangosir llythrennau o lawer o wyddorau.
Logo Wicipedia - glôb sy'n cynnwys glyffiau o wahanol systemau ysgrifennu
URL wikipedia.org
Slogan Y gwyddoniadur rhydd y gall unrhyw un ei olygu.
Masnachol? Na
Math o wefan Dielw
Cofrestru Dewisol (angen er mwyn diogelu tudalennau a gweithrediadau gweinyddol ayyb)
Ieithoedd ar gael 269 iaith weithredol (281 ar y cyfan)
Perchennog Wikimedia Foundation (dielw)
Crëwyd gan Jimmy Wales, Larry Sanger[1]
Lansiwyd ar 14 Gorffennaf 2003 (fersiwn Cymraeg); 15 Ionawr 2001 (fersiwn Saesneg)
Statws cyfredol Gweithredol
Gofal: ceir erthygl arall, gydag enw tebyg, sef Wicipedia.

Lansiwyd y Wicipedia Cymraeg ar 14 Gorffennaf 2003. Roedd dros 21,600 erthygl yn y Wicipedia Cymraeg ym Mai 2009 ac roedd yn 60ain o ran safle ieithyddol â 5,500 o ddefnyddwyr cofrestredig. Erbyn Rhagfyr 2010 roedd nifer yr erthyglau wedi codi i dros 30,000 a'i safle ar y rhestr yn 66ed. Ar hyn o bryd, ceir 281,456 erthygl ar y fersiwn Cymraeg, sef y 42fed iaith allan o 332 iaith. Yn 2012 roedd y nifer o dudalennau a oedd yn cael eu hagor ar y Wicipedia Cymraeg (ar gyfartaledd y diwrnod) yn: 62,161.[2]

Ymhlith y fersiynau eraill o Wicipedia a geir mae Catalaneg, Llydaweg a Gwyddeleg.

Nodweddion pwysig

golygu

Mae gan brosiect Wicipedia pedair nodwedd bwysig, sy'n diffinio'i le ar y we fyd-eang:

  1. Mae'n anelu at fod yn wyddoniadur.
  2. Mae'n wici, sy'n golygu y caiff unrhyw un ei olygu (gyda rhai cyfyngiadau).
  3. Mae'n brosiect cynnwys agored, sy'n defnyddio'r Drwydded Dogfen Rydd GNU copyleft.
  4. Nid yw'n cael ei sensro

Fandaliaeth

golygu

Mae "fandaliaeth" yn fater pwysig ar Wicipedia: fandaliaeth ydy gosod dwli, nonsens, neu unrhyw wybodaeth anghywir (yn fwriadol) mewn erthyglau. Mae erthyglau sydd wedi cael eu fandaleiddio yn cael eu gwrthdroi ac mae'n bosibl gwahardd y fandal.

Polisïau

golygu

Mae cyfranogwyr Wicipedia'n dilyn ychydig o bolisïau sylfaenol.

  • Yn gyntaf, gan fod amrywiaeth enfawr o gyfranwyr o bob athroniaeth, ac ar draws y byd, mae Wicipedia yn benderfynol o wneud pob erthygl mor ddiragfarn â phosibl. Yr amcan yw cyflwyno pob barn yn deg ar unrhyw destun.
  • Yn ail, mae nifer o gonfensiynau wrth enwi erthyglau; er enghraifft, pan fo sawl enw yn bodoli, defnyddier yr un mwyaf cyffredin.
  • Yn drydydd, dylai Wicipedwyr ddefnyddio tudalennau "sgwrs" i drafod newidiadau i'r testun, yn hytrach na thrafod y newidiadau ar y tudalennau eu hunain. Mae achosion sydd yn berthnasol i nifer o erthyglau yn gallu cael eu trafod yn Meta-Wikipedia neu'r rhestrau post.
  • Yn bedwerydd, ceir rhai erthyglau digalon gan nad ydyn nhw'n ddim o'r math a welir mewn gwyddoniadur traddodiadol. Er enghraifft, nid geiriadur ydy Wicipedia ac mae rhoi ffynhonnell y wybodaeth yn hanfodol.
  • Yn bumed, mae'r gefnogaeth i nifer o reolau sydd wedi cael eu cynnig yn amrywio yng nghymuned Wicipedia. Y rheol a gefnogir yn bennaf yw: "Os yw rheolau yn gwneud i chi deimlo'n ofnus ac yn ddigalon ac yn gwneud i chi beidio cyfrannu i'r wici, anwybyddwch nhw yn gyfan gwbl a gwnewch eich busnes eich hun." Pan mae'r rheolau a gynigir yn cael eu torri, penderfynir ar y canlyniad fesul achos rhwng y Wicipedwyr.

Personél

golygu

Mae Wicipedia wedi cael ei newid gan filoedd o bobl. Mae Wicipedia yn galw pobl sydd yn ei newid yn Wicipedwyr. Mae cyfanswm y newidiadau yn y fersiwn Saesneg wedi dyblu rhwng Ionawr 2002 ac Ionawr 2003, o 1000 y dydd i 2000 y dydd.

Does dim prif newidiwr, fel y mae. Y ddau berson a sefydlodd Wicipedia yw Jimmy Wales (Prif Swyddog Gweithredol y cwmni bach rhyngrwyd Bomis Inc) a Larry Sanger. Yn y 13 mis cyntaf talwyd Sanger gan Bomis i weithio ar Wicipedia. Dywedwyd bod Sanger wedi cymryd rôl canolwr, yn gwneud penderfyniadau mewn amser o ddadlau poeth. Nid oedd hyn yn seiliedig ar awdurdod ffurfiol, ond gofynion y defnyddwyr. Daeth yr arian ar gyfer ei safle i ben, yn dilyn ei ymddeoliad yn Chwefror 2002. Mae gweithwyr Bomis, sydd wedi gweithio ar y gwyddoniadur, yn cynnwys Tim Shell, un o gyd-sefydlwyr Bomis, a hefyd Jason Richey a Toan Vo.

Dywedodd Richard Stallman, yr ymgyrchydd dros feddalwedd di-dâl, fod sefydliad Wicipedia yn "newyddion cyffrous".

Meddalwedd a chaledwedd

golygu

UseModWiki, a ysgrifennwyd gan Clifford Adams ("Cyfnod I"), oedd y fersiwn o feddalwedd wici a ddefnyddid i gynnal Wicipedia yn wreiddiol. I gychwyn, roedd rhaid defnyddio CamelCase ar gyfer dolenni, ond yn fuan roedd yn bosibl defnyddio'r dull cromfachau dwbl presennol. Yn Ionawr 2002, fe gychwynnodd Wicipedia ddefnyddio meddalwedd wici PHP a ysgrifennwyd ar gyfer Wicipedia gan Magnus Manke, gyda chronfa ddata MySQL, ac ychwanegwyd sawl rhinwedd newydd ("Cyfnod II"). Ar ôl ychydig, arafodd y safle nes bod golygu bron yn amhosibl; fe newidiwyd y feddalwedd sawl tro ond dim ond am ychydig y lleddfodd hynny'r broblem. Yna, ysgrifennodd Lee Daniel Crocker y feddalwedd o'r newydd, ac mae'r fersiwn newydd, sy'n llawer gwell, wedi bod yn rhedeg ers Gorffennaf 2002. Gelwid y meddalwedd "Cyfnod III" hwn yn MediaWiki. Ers hynny, mae Brion Vibber wedi ymgymryd â thrwsio gwallau.

Yn Rhagfyr 2009 roedd 300 gweinydd (Saesneg: server) yn Fflorida a 44 yn Amsterdam yn cynnal holl wybodaeth Wikipedia.[3] Tan 2004 un gweinydd oedd yn dal yr holl wybodaeth.

Cynhelir y prosiect ar weinydd neilltuol, a leolwyd yn San Diego. Mae'r gweinydd hwn yn gyfrifol am Wicipedia ymhob iaith. CPU Athlon deublyg 1700+ ydyw, gyda 2 GB o RAM, ac yn rhedeg Red Hat Linux â'r gweinydd gwe Apache.

Rhyngwyneb newydd Wicipedia; lansiad: Gorffennaf 2013.

Yng Ngorffennaf 2013 bydd rhyngwyneb Wicipedia yn newid (pob iaith), gan symlhau'r weithred o olygu. Bydd y "Golygydd Gweladwy" (Visual Editor) yn caniatau golygu ar y sgrin, yn ogystal â thrwy'r ffenestr olygu a wici-gôd arferol.[4] Dywedir mai hwn fydd y datblygiad mwyaf, yn weladwy, o fewn Wicipedia ers ei chreu. Ni fydd yn gweithio ar y tudalennau Sgwrs, fodd bynnag.

Prosiectau cysylltiedig

golygu

Mae gan Wicipedia brosiectau cysylltiedig:

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jonathan Sidener. Everyone's Encyclopedia , The San Diego Union-Tribune. Cyrchwyd ar 15 Hydref 2006.
  2. (Saesneg) Most accessed pages [hits per day:]. Falsikon. Adalwyd ar 30 Ebrill 2012.
  3. http://wikitech.wikimedia.org/view/Server_roles Server roles at wikitech.wikimedia.org. Adalwyd ar 08-12-2009
  4. VisualEditor/Parsoid Quarterly Review 2012/13 Q3 slides, Mawrth 2013 (PDF)

Dolenni allanol

golygu