Agor y brif ddewislen

Abermaw

pentref a chymuned yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bermo)

Tref arfordirol a chymuned yng Ngwynedd yw Abermaw (Y Bermo, Abermo, Bermo neu Abermawddach yn lleol). Fe'i lleolir ger aber Afon Mawddach ar lan Bae Ceredigion yn ardal Meirionnydd; mae pont reilffordd fawr yn croesi'r afon yn ymyl y dref. Ceir hefyd yma Ganolfan Bad Achub i Ymwelwyr sydd bellach yn arddangosfa. Erys yr harbwr bychan yn brysur, yn arbennig yn yr haf; mae Ras llongau hwylio'r Tri Chopa yn galw yno'n flynyddol.

Abermaw
Barmouth Harbour - geograph.org.uk - 1363561.jpg
Math anheddiad dynol, Cymuned Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.722°N 4.055°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000047 Edit this on Wikidata
Cod OS SH613158 Edit this on Wikidata
Cod post LL42 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

HanesGolygu

Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant adeiladu llongau ond erbyn heddiw tref glan môr, dwrsitaidd ydyw'n bennaf. Mae adeiladau hanesyddol y dref yn cynnwys y Tŷ Gwyn, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol ac sy'n gysylltiedig â Siasbar Tudur, ewythr Harri Tudur, a'r carchardy Tŷ Crwn, sy'n dyddio o'r 18g. Roedd y bardd William Wordsworth yn ymwelydd cyson ag Abermaw ac yn edmygu'r golygfeydd gwych o gwmpas.

Ym 1895 cyflwynodd Fanny Talbot, un o drigolion y dref, Dinas Olau, darn o dir creigiog uwchben y dref, i'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol; cymynrodd gyntaf y mudiad.

Y bont reilfforddGolygu

 
Pont reilffordd Abermaw

Mae pont reilffordd Abermaw, sy'n cludo Rheilffordd Arfordir Cymru dros Afon Mawddach, sydd hefyd yn bont droed, yn un o bontydd pren hiraf ym Mhrydain. Cafodd y coed ei fygwth gan bry genwair toredo ond fe'i adferwyd, gan alluogi'r trenu i'w rhedeg hyd Bwllheli. Ger pen deuheuol y bont, sydd bron i filltir o hyd, roedd Cyffordd Abermaw a ailenwyd yn Morfa Mawddach lle ymunai cangen Rheilffyrdd y Cambrian o dref Dolgellau, ac felly yr holl lein o orsaf Rhiwabon, a oedd yn rhedeg trwy'r Bala a Dolgellau. Ym mhen deheuol y bont cychwynna Llwybr Dyffryn Mawddach o iard Gorsaf Morfa Mawddach. .

EnwogionGolygu

 
Adeiladau ar y traeth

CludiantGolygu

FforddGolygu

Mae'r briffordd A496 yn rhedeg trwy Abermaw.

RheilfforddGolygu

Mae gorsaf Abermaw ar Reilffordd Arfordir Cymru sy'n cysylltu'r dref ag Aberystwyth i'r de (trwy Tywyn ac Aberdyfi lle gellir newid i ddal trên i gyfeiriad Amwythig), a Pwllheli i'r gogledd (trwy Ddyffryn Ardudwy, Harlech a Phorthmadog).

BysiauGolygu

Mae gwasanaeth bws 2 Arriva (Dolgellau - Caernarfon / Bangor) yn rhedeg trwy Abermaw a cheir hefyd y gwasanaeth X94 rhwng y dref a Dolgellau.

FferiGolygu

Yn yr haf mae gwasanaeth llong fferi bach yn cysylltu Abermaw â Phwynt Penrhyn; oddi yno gellir dal un o drênau bach Rheilffordd Fairbourne (neu'r Friog) i gyfeiriad Tywyn.

 
Golygfa o Abermaw, 1778
 
Harbwr Abermaw

Atyniadau yn y cylchGolygu

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Abermaw (pob oed) (2,522)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abermaw) (1,005)
  
41.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abermaw) (1227)
  
48.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Abermaw) (549)
  
44.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%


Gallt y BermoGolygu

Abermaw trwy luniau 1828 - 1978Golygu

Gwaith gwirfoddol wedi ei ymgymryd gan Hugh Griffith Roberts er budd "Abermaw: Cymdeithasau'n Gyntaf". Pobl y dref boed yn drigolion neu'n alltud sy'n sicrhau llwyddiant y gwaith [1].

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: